Cyngor Iechyd Meddwl

Cyngor iechyd meddwl wedi’i deilwra i fyfyrwyr.

Angen cymorth brys? Rhoi gwybod am bryder iechyd meddwl
Pink sky sunset

Beth yw Cynghorydd Iechyd Meddwl?

Mae Cynghorwyr Iechyd Meddwl PDC yn helpu myfyrwyr i lywio eu hastudiaethau wrth reoli eu symptomau iechyd meddwl. Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol mewn lleoliad cyfrinachol, proffesiynol.

Gall cynghorwyr hefyd helpu myfyrwyr i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl pellach yn y Brifysgol (e.e. Mentora Arbenigol ac addasiadau rhesymol) a hefyd helpu i gydlynu cymorth allanol (gan gynnwys Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl a gwasanaethau'r GIG).

Sut i gael cymorth

Os ydych chi'n profi anawsterau iechyd meddwl, mae'n syniad da gofyn am gymorth cyn gynted â phosibl. Y cam cyntaf tuag at gael cymorth gan PDC yw trefnu Apwyntiad Cyngor ar Lesiant - dilynwch y ddolen 'Archebu Apwyntiad' ar y dudalen Apwyntiadau. Byddwch yn cael eich atgyfeirio at Gynghorydd Iechyd Meddwl, os yw'n briodol.

Sylwer: ni allwch drefnu apwyntiad yn uniongyrchol gyda Chynghorydd Iechyd Meddwl cyn cael Apwyntiad Cyngor ar Lesiant.

Datganiad Preifatrwydd – mae PDC yn defnyddio’r Ardal Gynghori Ar-lein i wneud apwyntiadau a rhywfaint o ryngweithiadau cefnogi. Gweler yr Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Mae dechrau yn y Brifysgol yn gyffrous, ond rydym yn deall y gall hefyd ddod â'i heriau, a'i bryderon. Gall y Tîm Cyngor Iechyd Meddwl ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i gefnogi trosglwyddiad llwyddiannus i'r Brifysgol ar gyfer myfyrwyr sydd â diagnosis iechyd meddwl. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl (cyn i'ch cwrs ddechrau, yn ddelfrydol), fel y gallwn sicrhau bod addasiadau a chymorth priodol ar waith o ddechrau eich cwrs. E-bost: [email protected]

Partneriaethau’r GIG

Mae ein partneriaethau yn y GIG yn caniatáu i Gynghorwyr Iechyd Meddwl PDC atgyfeirio myfyrwyr sy'n profi pryderon iechyd meddwl cymedrol i ddifrifol neu faterion iechyd meddwl cymhleth / hirsefydlog, yn uniongyrchol at wasanaethau’r GIG. Mae'r partneriaethau hyn yn fodd i fyfyrwyr gael eu hasesu, eu hatgyfeirio a'u harwain trwy wasanaethau'r GIG, wrth sicrhau bod prifysgolion yn cymryd rhan mewn cynlluniau cymorth parhaus.

Gellir atgyfeirio myfyrwyr sy'n byw ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr drwy Lwybr Iechyd Meddwl Prifysgol (LlIMP) a ddatblygwyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gellir atgyfeirio myfyrwyr sy'n byw yng Nghaerdydd at Wasanaeth Cyswllt Prifysgolion ar gyfer Iechyd Meddwl (MHULS), a ddatblygwyd gan Bartneriaeth Iechyd Meddwl De-ddwyrain Cymru (sy'n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru).