Cwnsela
Mae Cwnsela PDC yn wasanaeth ymyriad tymor byr yn y Brifysgol. Efallai y cewch eich atgyfeirio at Gwnsela PDC yn dilyn Apwyntiad Asesiad Iechyd Meddwl a Lles.
Sut gall cwnsela helpu?
Bydd eich taith gwnsela yn dechrau gydag un sesiwn lle byddwch chi a'ch cynghorydd yn gweithio gyda'ch gilydd i; wneud synnwyr o'ch profiadau, trafod eich gobeithion a'ch amcanion ar gyfer cwnsela ac ystyried sut y gallech gael eich cefnogi i symud ymlaen o unrhyw faterion yr hoffech fynd i'r afael â nhw. Gall cwnsela:
- ddarparu mwy o hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'ch profiadau,
- eich helpu i ganolbwyntio ar eich meddyliau a'ch teimladau a'u hegluro fel y gallwch ddod i'ch atebion eich hun,
- eich cefnogi i ddatblygu a gweithredu strategaethau ymdopi effeithiol y gallwch eu defnyddio i atal materion rhag gwaethygu i lefel na ellir ei rheoli,
- meithrin hunan-barch a hyder a'ch grymuso i wneud newidiadau yn eich bywyd a goresgyn rhwystrau i ymgysylltu â'ch astudiaethau.
Eich taith Gwnsela
- Cyn eich apwyntiad cyntaf, bydd angen i chi ddarllen y Cytundeb Cwnsela a anfonir atoch gyda'r e-bost yn cadarnhau eich apwyntiad. Bydd hwn yn esbonio sut mae'r gwasanaeth yn gweithio, yr hyn y gallwch ei ddisgwyl o'r cwnsela a'r hyn a ddisgwylir gennych.
- Bydd gofyn i chi hefyd lenwi holiadur byr i'n helpu ni i ddeall beth sydd wedi dod â chi i'r gwasanaeth cwnsela.
- Bydd eich taith gwnsela yn dechrau gydag un sesiwn. I rai pobl bydd y sesiwn hon yn ddigon, ond ar gyfer materion mwy cymhleth a/neu hir-sefydlog, efallai y bydd sesiynau pellach yn briodol. Y nod bob amser fydd cadw cwnsela mor effeithlon a phenodol â phosibl, a'ch helpu i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu â'ch astudiaethau.
- Os cytunir ar sesiynau pellach, cânt eu hamserlennu ar gyfer yr un diwrnod/amser bob wythnos am y nifer cytunedig o wythnosau olynol. Bydd angen i chi sicrhau eich bod ar gael ar eich amser penodedig bob wythnos.
- Os oes angen i chi ganslo apwyntiad, gofynnwn i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl trwy'r dulliau a amlinellir yn y Cytundeb Cwnsela. Bydd methu â gwneud hynny yn arwain at golli eich lle yn y gwasanaeth cwnsela.
Cynhwysiant
Mae gan y tîm cwnsela brofiad helaeth o weithio gyda niwroamrywiaeth, hunaniaeth rhywedd, rhywioldeb, diwylliant ac ethnigrwydd. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn ffyrdd sy'n gynhwysol, yn hygyrch, yn anfeirniadol ac yn gadarnhaol i fyfyrwyr o bob cefndir.