BSc (Anrh)

Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

Dysgu am bob agwedd ar daith unigolyn drwy’r llwybr iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwneud cais yn uniongyrchol Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    L510

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,000*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,260*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £740*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae gradd mewn rheoli iechyd, lles a gofal cymdeithasol yn helpu myfyrwyr i gydnabod yr angen i arwain gydag ysbrydoliaeth yn y sector hwn. Mae hefyd yn helpu darpar reolwyr i adnabod eu potensial i ddefnyddio dulliau medrus.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

P'un a ydych yn gweithio ym maes iechyd, lles a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd, neu'n anelu at wneud hynny, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu eich llwybr gyrfa, rhoi ymarfer gwybodus ar waith ac ymgymryd ag astudio sy'n gysylltiedig ag ymarfer cyfoes.

Wedi’i achredu gan

  • Y Sefydliad Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Llwybrau Gyrfa

  • Rhaglen Cymru Gyfan i Raddedigion 
  • Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol 
  • Swyddog/Rheolwr Cyswllt (aml-sector) 
  • Partner Tai, Pobl 
  • Entrepreneuriaeth, menter gymdeithasol 

Y sgiliau a addysgir

  • Gwerthuso beirniadol 
  • Sgiliau Dadansoddi 
  • Cyfathrebu effeithiol 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyfleoedd am Leoliad

Gweithio gydag amrywiaeth o bobl ac mewn amgylcheddau aml-asiantaeth.

Cyfleusterau Rhagorol

Mae Prifysgol De Cymru yn un o’r ychydig brifysgolion yn y byd sydd â chyfleuster dysgu ymdrochol integredig – Canolfan Efelychu Hydra.

Dysgu Rhyngweithiol

Cewch eich addysgu gan staff sy’n weithredol ym maes ymchwil ac sydd â phartneriaethau cryf â’r sectorau iechyd, lles a gofal cymdeithasol.

Ymchwil sy’n newid bywydau

Symudwch ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig ym maes addysg, iechyd y cyhoedd, gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, nyrsio ac ymchwil.

Trosolwg o’r Modiwl

  • Sgiliau Astudio ar gyfer Addysg Uwch 
  • Ymchwilio i Iechyd a Lles 
  • Y Gyfraith, Moeseg a Pholisi 
  • Datblygiad Proffesiynol 1 
  • Hanfodion Arwain a Rheoli mewn Ymarfer Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol 
  • Lles mewn Cymunedau a Chymdeithas  
  • Datblygiad Proffesiynol 2  
  • Cyfathrebu ac Ymyrraeth 
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth Integredig 
  • Cymhwyso Ymchwil i Ymarfer 
  • Cyflwyniad i Ofal Iechyd mewn Trychineb (dewisol) 
  • Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd y Boblogaeth (dewisol) 
  • Modiwl Prosiect  
  • Materion Cyfoes  
  • Arwain a Rheoli Newid  
  • Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Chydlynu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (dewisol) 
  • Datblygiad Proffesiynol 3  
  • Hyfforddi’r Hyfforddwr (Iechyd a Gofal Cymdeithasol) (dewisol) 

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: CCC i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
  • Bagloriaeth Cymru: Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
  • Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 o bwyntiau tariff UCAS.

Gofynion ychwanegol 

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,000

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£740

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,260

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig 

Mae'r ffi hon yn cynnwys £40 am y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa'r Post a'r ffi weinyddu ar-lein. 

Cost: £53.20

Mae’r ffi yn cynnwys £40 ar gyfer y dystysgrif DBS Manylach, ffi weinyddol y swyddfa bost a’r ffi weinyddol ar-lein. 

Cost: £55.42

Rhaid i fyfyrwyr dalu am deithio a chynhaliaeth tra ar leoliad. Bydd y costau'n amrywio, yn dibynnu ar y lleoliad. 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Mae ein myfyrwyr yn elwa o gefnogaeth academaidd a bugeiliol ragorol, yn ogystal â chael eu haddysgu gan staff sy'n weithredol o ran ymchwil sydd â phartneriaethau cryf â'r sectorau iechyd, lles a gofal cymdeithasol.

Mae'r dulliau asesu yn efelychu'r gweithgareddau hynny sy'n ofynnol yn y gweithle megis ysgrifennu adroddiadau, cyflwyniadau, datblygu posteri academaidd, ysgrifennu myfyriol, portffolios sy'n seiliedig ar waith, adolygiadau llenyddiaeth, dadansoddi achosion cymhleth a rheoli newid.

Staff addysgu

Mae ein myfyrwyr yn elwa o gefnogaeth academaidd a bugeiliol ragorol, yn ogystal â chael eu haddysgu gan staff sy'n weithredol o ran ymchwil sydd â phartneriaethau cryf â'r sectorau iechyd, lles a gofal cymdeithasol.

  • Owain Jones, arweinydd y cwrs
  • Tanya Phillips
  • Paul Griffiths
  • Teresa Filipponi
  • Katie Wiergowski
  • Ghazala Begum

Lleoliadau

Mae gan y cwrs rheoli iechyd, lles a gofal cymdeithasol ddull amlasiantaeth sy’n cwmpasu gwasanaethau cymdeithasol, y GIG, y trydydd sector a’r sector annibynnol.

Bydd myfyrwyr yn elwa o ymchwilio i amrywiaeth o gyfleoedd a fydd yn eu galluogi i ddewis eu cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith mewn amrywiaeth o leoliadau. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i weithio gydag amrywiaeth o bobl ac mewn amgylcheddau aml-asiantaeth, neu symud ymlaen i ymgeisio ar gyfer rhaglenni neu astudiaethau ôl-raddedig.

Cyfleusterau

Mae ein Canolfan Efelychu Hydra – yr unig un yng Nghymru – yn eich helpu i ymarfer delio â sefyllfaoedd realistig sy’n seiliedig ar waith. Mae'r cyfleoedd a roddir yn yr ystafell efelychu yn hyrwyddo profiad myfyrwyr mewn amgylchedd trochi. Mae'n ffordd gefnogol o brofi gallu myfyrwyr i wneud penderfyniadau, gweithredu a gweld y canlyniadau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae llawer o gyfleoedd yn y sector ar gyfer graddedigion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys rolau rheoli cymorth yn y sectorau statudol ac anstatudol, yn cynnwys llywodraeth leol a’r byrddau iechyd, fel swyddog cwynion, rheolwr busnes, rheolwr hyfforddiant, a rheolwr gwasanaeth; a rolau proffesiynol fel cydlynydd gwasanaeth.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae’r cyfleoedd cyflogaeth ar ôl astudio yn rhagorol ac mae graddedigion Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cael swyddi fel rheolwyr gwasanaethau, eiriolwyr, cydlynwyr gwasanaethau, addysgwyr a hyfforddwyr, technegwyr a gweithwyr cymorth. Mae rhai myfyrwyr yn symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig ym maes addysg, iechyd y cyhoedd, gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, nyrsio ac ymchwil. 

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb yn cael eu rhestru yn southwales.ac.uk/careers ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau pwysig eraill sy’n benodol i’r cwrs neu’r pwnc yn cael eu rhedeg ar lefel leol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. P’un ai a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr neu fentoriaid yn y diwydiant, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a’u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi’r hyder, yr anogaeth a’r cymhelliant i ymgeisio.