Ar gael yn Clirio BSc (Anrh)

Gwaith Cymdeithasol

Paratowch i rymuso bywydau a dod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig trwy astudiaethau academaidd a chyfleoedd dysgu ymarfer cynhwysfawr wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol Cymru.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Côd UCAS

L500

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Casnewydd

Côd y Campws

C

Pwyntiau UCAS

96

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*

Côd UCAS

L500

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Casnewydd

Côd y Campws

C

Pwyntiau UCAS

96


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Trosolwg o'r Cwrs

Trwy leoliadau gwaith, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy o’r byd go iawn ac yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau amrywiol. Yn y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i arbenigo mewn meysydd fel plant, oedolion, neu iechyd meddwl, gan wella eich rhagolygon gwaith ymhellach.

Y rhai sy'n dymuno gweithio gydag unigolion i wella eu bywydau a'u lles. Byddwch yn grymuso eraill i ennill annibyniaeth wrth ddeall yr heriau a'r anghyfiawnderau mewn cymdeithas. Os ydych chi'n barod i fynd i'r afael â'r materion hyn yn uniongyrchol, dyma’r cwrs i chi.

Wedi'i reoleiddio gan

Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydym yn cael ein rheoleiddio gan Gofal Cymdeithasol Cymru.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Cwrs ymarferol

Mae hanner eich cwrs wedi'i neilltuo i leoliadau o fewn sefydliadau gwaith cymdeithasol, gan ddod â'ch dysgu yn fyw. 

Canolbwyntio ar gyflogaeth

Cewch weithio o fewn awdurdod lleol gyda chyfleoedd gwaith yn dilyn eich lleoliadau.

Wedi'i reoleiddio'n broffesiynol

Dilysiad gan Ofal Cymdeithasol Cymru (GCC) fel y byddwch yn bodloni'r holl safonau sydd eu hangen ar cael eich cyflogi’n llwyddiannus. 

Cyllid ar gael

Mae bwrsariaethau a chyllid i dalu costau lleoliad gwaith ar gael i'r mwyafrif o'n myfyrwyr gwaith cymdeithasol. 

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Cewch sylfaen drylwyr yn y fframweithiau, y theorïau, y ddeddfwriaeth a'r sgiliau sy'n gysylltiedig â gwaith cymdeithasol.

Byddwch yn ymgymryd ag 20 diwrnod o leoliad gwaith lle byddwch yn arsylwi gweithwyr cymdeithasol profiadol ac yn dechrau rhoi theori ar waith yn ymarferol. 

Byddwch yn astudio Cod Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn archwilio a datblygu eich gwybodaeth a'ch credoau ynghylch gwaith cymdeithasol.

Byddwch yn archwilio’r systemau cyfreithiol, y ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n berthnasol i waith cymdeithasol, a’u dylanwad wrth weithio gydag unigolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. 

Cewch ddysgu sut i gynnal sgyrsiau cydgynhyrchiol a meithrin perthnasoedd effeithiol, dwyochrog, gan gynnwys cyfathrebu â phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Cewch ddeall y theorïau seicolegol a chymdeithasegol sy'n berthnasol i waith cymdeithasol, gan edrych ar theorïau cwrs bywyd ac archwilio dulliau ymchwil sy’n cael eu defnyddio yn y gwyddorau cymdeithasol. 

 

Byddwch yn archwilio modelau, dulliau a phrosesau i asesu, cynllunio, ymyrryd a gwerthuso, gan ystyried arferion gwrth-ormesol a gwrth-wahaniaethol.

Byddwch yn perffeithio eich sgiliau, yn datblygu eich gwybodaeth ac yn dysgu sut i ddod yn ymarferwr myfyriol wrth baratoi at eich 80 diwrnod o leoliad gwaith.

Mae hwn yn gam i fyny lle byddwch chi'n ymgymryd â rhywfaint o waith achos ac yn dechrau cymhwyso eich sgiliau i gynnal asesiadau a gwneud penderfyniadau.

Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol yn unol â GCC, gan gynnwys asesiadau a sgyrsiau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac asesu anghenion, risgiau ac amgylchiadau person. 

Byddwch yn datblygu eich hunaniaeth mewn gwaith cymdeithasol wrth fabwysiadu'r gwerthoedd hanfodol, yr egwyddorion moesegol a'r sgiliau cymhwysol sydd eu hangen ar gyfer ymarfer effeithiol. 

Cewch ddeall y prosesau sy'n gysylltiedig ag ymchwil gwaith cymdeithasol a sut i drosi'r gwaith ymchwil hwn i ymarfer, gan edrych ar ddamcaniaethau, casglu data, dehongli a mwy. 

Byddwch yn archwilio’n feirniadol sut mae’r fframweithiau cyfreithiol, yn enwedig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn sail i’ch ymarfer.

Byddwch yn dangos eich awydd i fwrw at waith cymdeithasol fel gweithiwr proffesiynol cyfrifol gyda 100 diwrnod o leoliad gwaith lle byddwch yn ymgymryd ag achosion mwy cymhleth ac yn gwneud penderfyniadau mwy ymreolaethol.

Byddwch yn treulio eich amser ar y campws yn datblygu'r sgiliau a'r gwytnwch i lwyddo ar leoliad gwaith.

Cewch gymhwyso theori gwaith cymdeithasol i achosion cymhleth, gan alluogi dewis, annibyniaeth a grymuso a goresgyn gwahaniaethu, gormes ac anghydraddoldeb.

Byddwch yn atgyfnerthu eich hunaniaeth broffesiynol ac yn datblygu gwytnwch emosiynol wrth i chi wynebu agweddau heriol fel digwyddiadau tyngedfennol a gweithio gyda gwrthwynebiad.

Cewch ddysgu gweithio gyda gwahanol asiantaethau, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu uwch, atebolrwydd a goruchwyliaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o sut mae ymchwil yn llywio ymarfer trwy werthuso astudiaethau cyfoes yn feirniadol ac archwilio ffyrdd o'u cymhwyso.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

I'ch paratoi ar gyfer bywyd fel gweithiwr cymdeithasol, byddwch yn treulio 200 diwrnod ar leoliad – dyna hanner eich cwrs.

Rhwng lleoliadau, byddwch yn datblygu gwybodaeth allweddol trwy ddarlithoedd a thiwtorialau rhyngweithiol sy'n cynnwys astudiaethau achos, trafodaethau a chwarae rôl. Yn aml, mae siaradwyr gwadd yn cynnwys arbenigwyr profiadol ac amryw o weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'u gofal. 

Byddwch hefyd yn rhoi tystiolaeth yn ein hystafell ffug lys ac yn efelychu senarios o’r byd go iawn yn ein hystafelloedd Hydra.  

Heb unrhyw arholiadau, bydd eich asesiad yn seiliedig ar arsylwadau, adborth, a myfyrio beirniadol ar eich lleoliadau gwaith, yn ogystal â chyflwyniadau, dadleuon, aseiniadau diagnostig, a phrosiectau grŵp.

Pan fyddwch yn dechrau ar y cwrs, bydd awdurdod lleol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a byddwch yn ymgymryd â 200 diwrnod o leoliad gwaith, yn cyfateb i 1,400 awr dros y tair blynedd.
 
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn treulio 20 diwrnod yn arsylwi'n bennaf er mwyn ymgyfarwyddo â'r rôl.  
 
Yn eich ail flwyddyn, bydd gennych 80 diwrnod o leoliad gwaith lle byddwch yn dechrau cymryd gwaith achos dan oruchwyliaeth.  
 
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gweithio am 100 diwrnod, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eich annibyniaeth ac arbenigo mewn maes o ddiddordeb.  
 
Byddwch hefyd yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o fyd addysg, gofal iechyd, a'r heddlu mewn timau integredig, ac efallai y cewch gyfleoedd i ymgymryd â phrofiad ychwanegol trwy leoliadau gwirfoddol.   

Byddwch yn treulio 50% o'ch amser ar leoliad oddi ar y campws, ond tra byddwch yma, byddwch yn elwa o gyfleusterau rhagorol PDC.  

Mae ystafelloedd Hydra yn cynnig meddalwedd efelychu uwch er mwyn i chi weithio trwy senarios o’r byd go iawn a gwella eich sgiliau gwneud penderfyniadau. Byddwch hefyd yn ymarfer rhoi tystiolaeth yn ein hystafell ffug lys.  

Wedi eich lleoli ar gampws Dinas Casnewydd, sy’n gymuned fodern a bywiog, bydd gennych fynediad at adnoddau cyfrifiadurol a TG, yn ogystal â gwasanaeth llyfrgell helaeth.

Arweinydd y Cwrs

Dr Michelle Culwick

Dyma Dr Michelle Culwick, Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig ac Arweinydd Cwrs gyda llwyth o brofiad academaidd ac ymarferol. Mae hi'n angerddol am addysg gwaith cymdeithasol ac wedi ymrwymo i greu profiad dysgu cefnogol o ansawdd uchel sy'n helpu myfyrwyr i dyfu mewn hyder a pharatoi ar gyfer ymarfer proffesiynol. Mae ei harbenigedd yn cynnwys diogelu plant anabl, ymarfer rhyngbroffesiynol, ymchwil gwaith cymdeithasol, ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gan weithio'n agos gyda phartneriaid ymarfer, mae hi'n sicrhau bod yr addysgu'n adlewyrchu cyd-destunau'r byd go iawn a safonau cyfredol. Am ymholiadau cwrs, cysylltwch â Michelle yn uniongyrchol.

Rhagolygon Gyrfa

Eich gyrfa yn y dyfodol

Mae ein lleoliadau gwaith blaengar gydag awdurdod lleol yn cynnig llwybr clir i sicrhau eich swydd ddelfrydol mewn gwaith cymdeithasol. Mae'r lleoliadau gwaith hyn nid yn unig yn eich arfogi â'r sgiliau a'r profiad hanfodol er mwyn cael effaith wirioneddol ond hefyd yn cynyddu'nsylweddol eich siawns o gael cynnig swydd gyda'r awdurdod os dyna yw eich nod. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Gweithiwr Cymdeithasol
Gweithiwr Cymorth (gwaith cymdeithasol, iechyd meddwl, anableddau dysgu)
Cwnsela
Gweithiwr Cartref Gofal/Cartref Nyrsio
Cefnogi plant ag anghenion ychwanegol 

95% o raddedigion Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio.

Arolwg Hynt Graddedigion 2022/23

Social Work alumni, Ellis, smiles in front of red backdrop

"Cefais fy nghyflogi yn syth ar ôl y cwrs gan yr awdurdod lleol lle cwblheais fy lleoliad."

Ellis Rees, graddedig Gwaith Cymdeithasol

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Gwaith Cymdeithasol agor cyfleoedd ar y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae gyrfaoedd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig potensial enillion cryf:

 

Cyflog canolrifol

DU: £28.7k y flwyddyn
Cymru: £28.6k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 1.98m
Cymru: 103,350

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid diwydiant

Mae gennym bartneriaethau ffurfiol gyda phedwar awdurdod lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a Chyngor Sir Fynwy.  
 
Bydd eich lleoliadau gwaith gydag un o'r awdurdodau hyn, a bydd yr awdurdod hwnnw yn eich cefnogi trwy gydol eich hyfforddiant. Maen nhw hefyd yn helpu i lunio ein cwrs i sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd â'r gofynion a'r materion diweddaraf sy'n effeithio ar gymunedau, feldatblygiadau diweddar mewn llinellau cyffuriau.  
 
Hefyd, mae ein cysylltiadau â byd addysg, gofal iechyd, a phartneriaid gorfodi'r gyfraith yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymweliadau gan weithwyr proffesiynol i wella eich profiad dysgu.  

Gofynion Mynediad

Ychwanegol

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).

Mae angen cyfweliad. Bydd hyn yn cynnwys tasg ysgrifenedig a chyfweliad unigol.

Profiad gwaith a gynhaliwyd mewn lleoliad neu asiantaeth gofal cymdeithasol dan oruchwyliaeth gyda chyfeirnod gan y goruchwyliwr a gyflwynwyd adeg y cyfweliad yn cadarnhau eich bod wedi cwblhau’r oriau gofynnol. Rhaid cwblhau'r profiad gwaith hwn cyn eich cyfweliad, a rhaid i chi gyfeirio'n glir eich bod yn ymgymryd â'r profiad hwn yn eich datganiad personol. Os oes gennych brofiad blaenorol y credwch y gallai gyfrannu tuag at yr oriau hyn, cysylltwch ag arweinydd y cwrs [email protected] i drafod ymhellach. Asesir digwyddiadau fel y rhain fesul achos.

Nid ydym yn derbyn ceisiadau gohiriedig ar gyfer y radd Gwaith Cymdeithasol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
CCC

Bagloriaeth Cymru:
Gradd C / D yn y Dystysgrif Her Sgiliau a DD-CD ar Lefel A

BTEC:
Teilyngdod Teilyngdod Teilyngdod

Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 80 pwynt tariff UCAS

Safon T:
Pasio (C ac uwch)

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU £ 9,790

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. *Rhwymedig

DBS Manylach*

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein. £64.74

Gwasanaeth diweddaru’r DBS*

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach. £16

Teithio i'r lleoliad*

Gellir hawlio'r rhain yn ôl os dyrannwyd bwrsariaeth Gofal Cymdeithasol Cymru i'r myfyriwr. Mae'r gost yn dibynnu ar safle'r  lleoliad.

Cofrestrwch gyda Gofal Cymdeithasol Cymru*

£10 y flwyddyn

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,200

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. *Rhwymedig

DBS Manylach*

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein. £64.74

Gwasanaeth diweddaru’r DBS*

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach. £16

Teithio i'r lleoliad*

Gellir hawlio'r rhain yn ôl os dyrannwyd bwrsariaeth Gofal Cymdeithasol Cymru i'r myfyriwr. Mae'r gost yn dibynnu ar safle'r  lleoliad.

Cofrestrwch gyda Gofal Cymdeithasol Cymru*

£10 y flwyddyn

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Mae Astudiaethau Iechyd yn PDC ar y brig yn y DU o ran Canlyniadau Graddedigion a rhagolygon Graddedigion ar y trywydd iawn.

(Complete University Guide 2027)

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd am y 6ed flwyddyn yn olynol, a’r 7fed yn y DU (HEBCIS).

Cyfweliadau Gwaith Cymdeithasol

Popeth sydd angen i chi ei wybod cyn mynychu eich cyfweliad Gwaith Cymdeithasol.

Darllenwch ein hawgrymiadau cyfweliad

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Gwaith Cymdeithasol

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Casnewydd

    Apply direct
  • Gwaith Cymdeithasol

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Casnewydd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?