BSc (Anrh)

Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Adeiladwch eich hyder a gosodwch y sylfeini i gwblhau gradd lawn mewn Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.

Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Côd UCAS

L51F

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

48


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Trosolwg o'r Cwrs

Adeiladwch hyder a sgiliau academaidd wrth archwilio iechyd, lles a gofal cymdeithasol, gan eich paratoi i symud ymlaen i'r radd lawn ac astudiaeth broffesiynol yn y dyfodol.

Wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni gofynion mynediad y radd Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol ac sy'n dyheu am weithio yn y sector iechyd, lles a gofal cymdeithasol. Mae'r Flwyddyn Sylfaen hon yn darparu cyflwyniad cefnogol i astudiaethau prifysgol ac yn eich paratoi ar gyfer symud ymlaen i'r radd lawn sydd wedi'i gymeradwyo gan y Sefydliad Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Enillwch sgiliau allweddol

Datblygwch ystod o sgiliau a rhinweddau a fydd yn cyfoethogi eich dysgu ym mlwyddyn un y radd a thu hwnt.

Cyfleusterau rhagorol

Mae PDC yn un o'r ychydig brifysgolion yn y byd sydd â chyfleuster dysgu ymdrochol integredig – y Ganolfan Efelychu Hydra.

Dysgu rhyngweithiol

Wedi'i addysgu gan staff sy'n weithgar yn ymchwilio ac sydd â phartneriaethau cryf â'r sectorau iechyd, lles a gofal cymdeithasol.

Cyfleoedd Lleoliadau

Bydd gan fyfyrwyr sy'n symud ymlaen i'r radd lawn y cyfle i fynd ar amrywiol leoliadau, gan roi mantais gystadleuol iddynt ar ôl graddio.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Mae addysgu yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol, wrth feithrin hyder academaidd, meddwl beirniadol a hunanfyfyrio.

Byddwch chi'n dysgu trwy brofiadau dysgu gweithredol, byd go iawn sy'n annog chwilfrydedd, cydweithio a meddwl annibynnol. Byddwch chi'n gweithio'n annibynnol a chydag eraill trwy drafodaethau, gweithgareddau ymarferol a myfyrio dan arweiniad, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i gydnabod cynnydd a chynllunio'r camau nesaf, gan gefnogi lles, gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer lefel uwch o astudio.

Byddwch chi'n cael eich asesu mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau ar sail gwaith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm a chyfathrebu. Byddwch chi hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau prifysgol ac offer digidol.

Unwaith y byddwch yn symud ymlaen i'r radd Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol lawn, bydd gennych gyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ar draws ystod o leoliadau, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, y GIG, a sefydliadau'r trydydd sector a'r sector annibynnol. Mae'r profiadau hyn yn caniatáu ichi archwilio gwahanol rolau, gweithio gyda grwpiau amrywiol, a deall sut mae gwasanaethau'n gweithredu gyda'i gilydd mewn amgylcheddau aml-asiantaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi i ymchwilio a dewis cyfleoedd sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa, gan eich helpu i adeiladu mewnwelediad ymarferol, hyder proffesiynol a sylfaen gref ar gyfer cyflogaeth neu astudiaeth ôl-raddedig yn y dyfodol.

Mae myfyrwyr ar y radd rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol yn elwa o fynediad i'n Canolfan Efelychu Hydra - yr unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru - lle gallwch ymarfer ymateb i senarios realistig, seiliedig ar waith mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae'r profiad ymdrochol hwn yn caniatáu ichi ddatblygu hyder mewn gwneud penderfyniadau, datrys problemau a chrebwyll proffesiynol, gan eich helpu i ddeall effaith eich gweithredoedd a pharatoi ar gyfer ymarfer yn y byd go iawn mewn lleoliadau iechyd, lles a gofal cymdeithasol.

Arweinydd y Cwrs

Emma Wheeler

Emma Wheeler yw Arweinydd y Cwrs ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen. Mae gan Emma flynyddoedd lawer o brofiad addysgu, gan weithio gyda myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg ers peth amser. Mae amgylcheddau ystafell ddosbarth yn y Flwyddyn Sylfaen yn sensitif, yn galonogol ac yn ymatebol i ystod eang o anghenion gan ein myfyrwyr, ac yn eich helpu i fynd ymlaen i'r cwrs gradd yn hyderus. 

I gael manylion Arweinydd y Cwrs ar y rhaglen radd, ewch i dudalen y cwrs.

Rhagolygon Gyrfa

Mae ein graddedigion Iechyd, Lles a Rheoli Gofal Cymdeithasol wedi mynd ymlaen i gymhwyso eu sgiliau trosglwyddadwy mewn gyrfaoedd diddorol ac ymgyslltiol.

Dy yrfa yn y dyfodol

Gall graddedigion iechyd, lles a gofal cymdeithasol ddilyn ystod eang o rolau ar draws sectorau statudol ac anstatudol a wedi'u paratoi'n dda ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, nyrsio, therapi galwedigaethol, addysg ac ymchwil, gan ddarparu rhagolygon gyrfa rhagorol.

Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Rhaglen Cymru Gyfan i Raddedigion
Rheolwr Gwasanaethau Cymunedol
Swyddog/Rheolwr Cyswllt (aml-sector)
Partner Tai, Pobl
Entrepreneuriaeth, menter gymdeithasol

95% o raddedigion Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio.

Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2022/23

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol agor cyfleoedd ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae gyrfaoedd Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol yn cynnig potensial enillion cryf:

 

Cyflog canolrifol

DU: £28.7k y flwyddyn
Cymru: £28.6k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 1.98m
Cymru: 103,350

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid Diwydiant

Mae ein partneriaethau allanol yn cael eu defnyddio drwy gydol eich astudiaethau, gan roi'r cyfle i chi weithio gyda chleientiaid yn y byd go iawn a gwneud cysylltiadau a all fod o gymorth i'ch gyrfa. Byddwch yn gallu arddangos eich sgiliau i'n partneriaid ar sawl pwynt drwy gydol eich gradd a chewch eich annog i ryngweithio â phartneriaid yn uniongyrchol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

48 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
DD, 48 pwynt Tariff UCAS i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio.

Mynediad i AU:
Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.

Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

Ffioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen
Lle bo'n berthnasol, mae'r Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr rhyngwladol fel y rhestrir yn adran y ffioedd uchod. Nodwch mai dim ond ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen y mae’r ffi a ddangosir. Yn y blynyddoedd dilynol, codir y ffi dysgu israddedig safonol sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol.

Gwybodaeth Bellach
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Treuliau lleoliad
Mae union gost mynd ar unrhyw leoliad yn dibynnu ar ei leoliad yng nghyswllt man preswylio, dull teithio ac ati y myfyriwr ac felly ni ellir penderfynu arni ar hyn o bryd. Ar ben hynny, yn dibynnu ar y lleoliad, efallai y bydd angen i’r myfyriwr brynu dillad addas (e.e. siwt neu ddillad ffurfiol).
Cost: I fyny at £300

Asesiad neu aelodaeth ychwanegol: Aelodaeth myfyriwr o gyrff proffesiynol
Aelodaeth ratach o gynllun “Cyflymu” ACCA. Fel arfer £79 ond mae gennym ffi arbennig o £20.
Cost: £20

Arall: Gwerslyfrau
Efallai y bydd angen prynu rhai llyfrau ychwanegol.
Cost: £300

Arall: Costau Teithio ar gyfer lleoliadau gwaith
Blwyddyn ar Leoliad. Mae costau teithio yn dibynnu ar leoliad.
Cost: I fyny at £300

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,600

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

Ffioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen
Lle bo'n berthnasol, mae'r Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr rhyngwladol fel y rhestrir yn adran y ffioedd uchod. Nodwch mai dim ond ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen y mae’r ffi a ddangosir. Yn y blynyddoedd dilynol, codir y ffi dysgu israddedig safonol sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol.

Gwybodaeth Bellach
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Treuliau lleoliad
Mae union gost mynd ar unrhyw leoliad yn dibynnu ar ei leoliad yng nghyswllt man preswylio, dull teithio ac ati y myfyriwr ac felly ni ellir penderfynu arni ar hyn o bryd. Ar ben hynny, yn dibynnu ar y lleoliad, efallai y bydd angen i’r myfyriwr brynu dillad addas (e.e. siwt neu ddillad ffurfiol).
Cost: I fyny at £300

Asesiad neu aelodaeth ychwanegol: Aelodaeth myfyriwr o gyrff proffesiynol
Aelodaeth ratach o gynllun “Cyflymu” ACCA. Fel arfer £79 ond mae gennym ffi arbennig o £20.
Cost: £20

Arall: Gwerslyfrau
Efallai y bydd angen prynu rhai llyfrau ychwanegol.
Cost: £300

Arall: Costau Teithio ar gyfer lleoliadau gwaith
Blwyddyn ar Leoliad. Mae costau teithio yn dibynnu ar leoliad.
Cost: I fyny at £300

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig am y 6ed flwyddyn yn olynol yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd, a'r 7fed yn y DU. (HEBCIS) 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

    • Llawn Amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Straeon Myfyrwyr

Roedd y Flwyddyn Sylfaen yn gyfan gwbl yn yr ystafell ddosbarth, a oedd yn addas iawn i mi. Gwnaeth y grwpiau llai a'r darlithwyr cefnogol y profiad dysgu yn bersonol ac yn hygyrch. Roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus yn gofyn cwestiynau, yn meithrin perthnasoedd â fy nhiwtoriaid, ac yn ennill yr hyder oedd ei angen arnaf i lwyddo.

Leah Myfyriwr Blwyddyn Sylfaen

Gweld proffil myfyriwr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?