Byddwch yn Rhan o’r Cyffro

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol

Astudiwch Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol yn PDC a darganfyddwch sut i ddod â straeon, bydoedd a chymeriadau yn fyw.

Gweld Cyrsiau Archebu Diwrnod Agored
close up of screen with animation programme on showing animated male

Os ydych chi wrth eich bodd yn creu profiadau trochol, boed drwy gemau, ffilm, neu gelf ddigidol, mae ein cyrsiau'n rhoi'r sgiliau, yr offer a'r cysylltiadau diwydiant i chi i wireddu eich syniadau.


Cyfleusterau Safonol i'r Diwydiant

Hyfforddwch mewn stiwdios proffesiynol gyda labordai dal symudiadau, sgrîn werdd, VR a 3D.

Cysylltiadau â'r Diwydiant

Gweithiwch ochr yn ochr â phartneriaid fel Cynghrair Sgrîn Cymru a Stiwdios Bad Wolf trwy sgyrsiau, ymweliadau a phrosiectau cydweithredol.

Dysgu Cydweithredol

Ewch ati i greu gemau, ffilmiau ac animeiddiadau gyda myfyrwyr ar draws disgyblaethau creadigol.

Canolbwyntio ar Bortffolio

Adeiladwch bortffolio proffesiynol sy'n arddangos eich sgiliau a'ch creadigrwydd i gyflogwyr yn y dyfodol.

Academi Gemau ac Animeiddio Cymru

Yn Academi Gemau ac Animeiddio Cymru, rydym yn canolbwyntio ar ddatgloi talent, sbarduno arloesedd, a rhoi Cymru ar y map byd-eang ar gyfer adloniant digidol.

Dod o hyd i'ch cwrs

Animeiddio - MA

Mae MA Animeiddio yn lle i fireinio’ch crefft a gwthio’ch ymarfer creadigol ymhellach, boed hynny mewn 2D, CG, Stop Motion neu gyfuniad ohonynt, gan eich helpu i ddatblygu ar sail eich sgiliau presennol ac i droi syniadau beiddgar yn straeon pwerus a chrefftus.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Animeiddio - BA (Anrh)

Adeiladwch eich sgiliau a chreu eich dyfodol yn y diwydiannau ffilm, teledu, effeithiau gweledol a gemau gyda'r cwrs ymarferol a thechnegol hwn.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Animeiddio (2D a Stop-Symud) - BA (Anrh)

Yn PDC byddwch yn datblygu eich llais creadigol trwy brosiectau, cydweithrediadau, briffiau byw ac ymweliadau â stiwdios, gan feistroli sgiliau 2D neu Stop-symud i raddio’n barod ar gyfer y stiwdio.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Celf Gemau - BA (Anrh)

Gan weithio ar brosiectau byw ar draws amryw o gyfryngau chwarae, byddwch yn cael y cyfleoedd i feistroli offer safonol y diwydiant fel Unreal Engine. Byddwch yn datblygu’r sgiliau technegol, creadigol a ‘meddal’ y mae stiwdios gemau cyfrifiadurol gorau’r byd yn gofyn amdanynt, gan eich paratoi ar gyfer rôl eich breuddwydion mewn celf gemau.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Dylunio Gemau - BA (Anrh)

Lansiwch eich gyfra dylunio gyda chwrs BA (Anrh) mewn Dylunio Gemau. Cynyddwch eich sgiliau creadigol a thechnegol er mwyn dylunio, datblygu ac anfon eich gemau cyfrifiadurol chi eich hun i’r farchnad.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol - BA (Anrh)

Gwnewch y mwyaf o’ch rhyddid creadigol ac ymdeimlad o berthyn wrth i chi ddatblygu’r sgiliau a’r profiadau sy’n cael eu chwennych gan stiwdios gorau’r byd o ran ffilm, teledu a hysbysebion.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Gemau - MA

Fel rhan o’r daith i ddod yn feistr ar greu gêmau fideo, byddwch yn datblygu sawl prosiect gêmau sydd â dogfennaeth gadarn, strategaeth fusnes manwl ac, wrth gwrs, gêm i ymfalchïo ynddi.

Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Ychwanegu at y teclyn cymharu cwrs

Oeddech chi'n gwybod?

A computer game character stands still and looks off screen - they look feminine, with celtic themed make up on their face, pinned back red hair, and metal medieval style armour
  • Yn yr 20 uchaf o ran Rhagoriaeth mewn Cynhyrchu mewn Gemau Consol yn Rookies eleni.

  • Ymhlith y 50 Ysgol Orau yn y Byd ar gyfer Animeiddio, Gemau ac Effeithiau Gweledol

Oeddech chi'n gwybod?

Mae Gemau Cyfrifiadurol ac Animeiddio ar y brig yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr.

National Student Survey 2025
  • Yn yr 20 uchaf o ran Rhagoriaeth mewn Cynhyrchu mewn Gemau Consol yn Rookies eleni.

  • Ymhlith y 50 Ysgol Orau yn y Byd ar gyfer Animeiddio, Gemau ac Effeithiau Gweledol


Y Tu Mewn i'r Pwnc

A group of students taking a selfie in front of a green screen.
Creative-graduate-festival-2025-14.jpg
Games Academy - Game Animation student work

Storïau Myfyrwyr

Ffilm ac Animeiddio PDC yn ennill wyth gwobr gan Gymdeithas Deledu Frenhinol Cymru

Robert Fish

Myfyriwr Effeithiau Gweledol

Lucy Clover

Myfyriwr Effeithiau Gweledol

Adiee Romans

Myfyriwr Animeiddio

Hayden Powell

Myfyriwr Animeiddio

Astudiwch yng nghanol Caerdydd

Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf fforddiadwy yn y DU hefyd, felly mae’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sy’n brin o arian parod. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.


Diwrnodau Agored i ddod

Communal sofas at the Cardiff Campus.

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.


Cysylltwch â ni

@De_Cymru