Animeiddio
Gyda’n cwrs MA Animeiddio, byddwch yn cychwyn ar daith o greadigrwydd a dyfeisgarwch.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio â NiManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
P’un a ydych am fod yn Animeiddiwr 2D, yn Rigiwr CG, neu’n Fodelwr Stop-Symud, mae ein cwrs yn darparu profiad dysgu cynhwysfawr a throchol a fydd yn dyrchafu’ch sgiliau presennol, yn rhoi’r offer arloesol i chi ailddiffinio’r ffiniau ar gyfer adrodd straeon, ac yn dod â’ch gweledigaethau artistig yn fyw.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein cwrs MA Animeiddio wedi'i fwriadu ar gyfer ystod eang o unigolion, gan gynnwys graddedigion animeiddio sydd am arbenigo ac ehangu eu portffolio, graddedigion o feysydd cysylltiedig sydd am drosglwyddo i animeiddio, gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd am uwchraddio’u sgiliau i ddatblygu’u gyrfa, ynghyd ag ymchwilwyr ac addysgwyr sydd am ddilyn rolau yn y maes addysgu neu ennill cymwysterau uwch fel PhD neu radd ymchwil.
Llwybrau Gyrfa
- Animeiddiwr (2D, CG a Stop-Symud)
- Cyfarwyddwr/Cynhyrchydd
- Artist Gosodiad
- Modelwr a Rigiwr
- Athro/Darlithydd
Y Sgiliau a Addysgir
- Cynhyrchu Animeiddiad
- Cydweithio a Chyfathrebu
- Rhwydweithio
- Rheoli Prosiect
- Ymchwilio ac Arloesi
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
O'r syniad i'r cyflwyniad terfynol, mae ein cwrs MA Animeiddio yn rhoi’r gallu a’r wybodaeth fanwl i fyfyrwyr fel y gallant fynd i’r afael â’r elfennau hanfodol sy’n ymwneud ag animeiddio. Mae cwricwlwm y cwrs, sy'n ymdrin ag agweddau hanesyddol, ymarferol a damcaniaethol animeiddio fel ffurf ar gelfyddyd, yn cael ei gyflwyno'n wythnosol ar y campws i ganiatáu dysgu ymarferol, cydweithio a chefnogaeth.
Archwilio Animeiddio
Mae'r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i sefydlu cysyniadau a all dargedu nodau ar gyfer eu gyrfa i’r dyfodol. Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu llais unigryw eu hunain wrth iddynt fynd â’u syniadau trwy’r camau cyn-gynhyrchu hanfodol (e.e. sgriptio, dylunio cymeriad, creu bwrdd stori) a’i hyrwyddo fel cynnyrch sy’n cwrdd â safon y diwydiant.
Ymarfer Proffesiynol: Animeiddio
Mae'r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i bennu eu safle o fewn y diwydiant animeiddio ar ôl graddio. Bydd myfyrwyr yn dod i gysylltiad â’r cynlluniau a’r prosesau animeiddio cyfredol ar gyfer amrywiaeth o brosiectau a thechnegau, cyn penderfynu ar sefyllfa benodol i'w dilyn yn broffesiynol. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'u proffesiwn dewisol, gan gynnwys y tueddiadau cyfredol a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
Cymhwyso’r Animeiddiad
Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddarganfod eu proses gynhyrchu ymarferol eu hunain ar gyfer eu harbenigedd dewisol (e.e. dylunio cymeriadau, modelu, rigio, creu bwrdd stori) a chyfrwng (2D, CG, a/neu Stop-Symud). Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i gamau cynhyrchu hanfodol (e.e. gosod, cyfeirnodi gweithrediadau byw, glanhau) cyn gorffen cyfres o ganlyniadau ymarferol gan ddefnyddio meddalwedd a thechnoleg sy’n cyrraedd safon y diwydiant.
Arbenigo ym Maes Animeiddio
Mae'r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddyfnhau eu dealltwriaeth o'u proffesiwn dewisol trwy ymgymryd â gweithgareddau ymchwil manwl. Anogir myfyrwyr i gyfathrebu a rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant trwy ddigwyddiadau mewnol ac allanol megis cynadleddau, gwyliau, seminarau, cyflwyniadau a gweithdai. Gall ymchwil ar gyfer y pwnc hwn hefyd gynnwys trefnu interniaeth, lleoliad swydd neu gyfle i gysgodi gwaith.
Prosiect Mawr: Animeiddio
Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i arddangos eu galluoedd esthetig, technegol a deallusol yn llawn yn eu harbenigedd dewisol (e.e. animeiddio cymeriadau, cyfarwyddo, dylunio amgylchedd, cynhyrchu) a chyfrwng (2D, CG, a/neu Stop-Symud). Mae myfyrwyr yn dewis un o'r dulliau canlynol i arddangos eu galluoedd:
- Portffolio – ar gyfer myfyrwyr sydd am arddangos sgil sy'n seiliedig ar ddelwedd (e.e. creu celf gysyniadol, dylunio cymeriad, creu bwrdd stori).
- Tâp Arddangos – ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau arddangos sgil benodol yn ymwneud â delweddau symudol (e.e. animeiddio cymeriadau, rigio, gweadu, dylunio amgylchedd/prop).
- Ffilm Fer – ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau arddangos amrywiaeth o sgiliau (e.e. cyfarwyddo, cynhyrchu, cydweithio). Gall hyn gynnwys creu rhaglen ddogfen, fideo cerddoriaeth, peilot, rhaghysbyseb, ac ati.
Adolygu Animeiddiad
Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i roi eu Prif Brosiect yn ei gyd-destun, gan ganolbwyntio ar yr heriau a gododd yn ystod ei synio, ei ddatblygu a’i gwblhau. Bydd myfyrwyr yn gallu asesu'n feirniadol yr ystod eang o weithgareddau ymchwil a gynhaliwyd, wrth iddynt resymoli eu rhan yn y gwaith o gynhyrchu a gwireddu canlyniadau ymarferol.
Gofynion Mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd da mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol priodol; neu HND/HNC a phrofiad perthnasol; neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol. Ystyrir y rhai heb gymwysterau o'r fath yn unigol, lle bydd profiad blaenorol yn cael ei ystyried. Gwahoddir pob ymgeisydd i gyfweliad yn seiliedig ar bortffolio, a ddylai gynnwys rholyn sioe o waith diweddar. Yn ystod y cyfweliad, bydd disgwyl i ymgeiswyr amlinellu a thrafod cynnig y prosiect ar gyfer y modiwl Astudio Annibynnol a / neu'r prosiect mawr.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Dulliau Dysgu
Rhennir y cwrs yn dri semester ar gyfer myfyrwyr llawn-amser a chwe semester ar gyfer myfyrwyr rhan-amser. Bydd myfyrwyr yn cael profiad amrywiol o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau a beirniadaethau drwy gydol pob semester. Bydd cyfran sylweddol o amser y myfyriwr yn cael ei dreulio ar gwblhau gwaith ymarferol yn ein stiwdios animeiddio pwrpasol. Mae dulliau asesu wedi'u cynllunio i archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o sut i greu canlyniadau ymarferol o wybodaeth gyfredol, gan gynnwys datblygu sgiliau meddal yn unol ag arferion y diwydiant. Mae myfyrwyr yn derbyn mewnbwn ffurfiannol yn rheolaidd trwy gyflwyniadau anffurfiol i staff addysgu a chyfoedion.
Y Staff Addysgu
Mae ein staff tra medrus a phrofiadol yn ymarferwyr ac ymchwilwyr gweithgar. Mae gan y staff addysgu brofiad helaeth yn y diwydiant ac maent wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau animeiddio mewn gwahanol dechnegau (2D, CG a Stop-Symud). Mae datblygiad staff parhaus a chysylltiadau rheolaidd â phartneriaid yn y diwydiant yn sicrhau bod pob un o aelodau’r staff ar flaen y gad yn eu meysydd arbenigedd, a bod myfyrwyr yn cael cwricwlwm sy'n adlewyrchu arferion cyfredol y diwydiant.
Staff Addysgu MA Animeiddio:
Dr Brian Fagence, Arweinwyr y Cwrs
Graham Griffiths, Darlithydd
Gustavo Arteaga, Hyfforddwr Technegol
Jonathan Edwards, Darlithydd a Delir Fesul Awr
Leonie Sharrock, Uwch Ddarlithydd
Matthew Gravelle-Eagles, Uwch Ddarlithydd
Nick Hood, Darlithydd
Stan Evens, Hyfforddwr Technegol
Lleoliadau
Rydym yn ennyn cyfleoedd i fachu lleoliadau gwaith trwy ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant animeiddio ac rydym yn uniongyrchol gysylltiedig â nifer o gwmnïau arobryn ar garreg ein drws yma yng Nghaerdydd, gan gynnwys Beryl Productions International, Bait Studio, Picl Animation a Winding Snake Productions. Mae myfyrwyr wedi sicrhau profiad gwaith gyda chwmnïau animeiddio nodedig yn y DU, gan gynnwys Aardman, Animortal Studio, a Calon. Trefnir gwibdeithiau i arddangosfeydd, gwyliau a stiwdios lleol, gan gynnwys Bad Wolf Studios, Cloth Cat, Painting Practice a Wales Interactive. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd i ehangu’u cysylltiadau, tra bod briffiau a chystadlaethau byw yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i fentora, rhwydweithio a hyrwyddo.
Cyfleusterau
Mae Campws Caerdydd wedi’i leoli yng nghanol diwydiant celfyddydol ffyniannus, gan ddarparu cyfleoedd diddiwedd i fyfyrwyr yn ystod ac ar ôl graddio. Mae ein cyfleusterau blaengar yn cynnwys llawr animeiddio pwrpasol gyda stiwdios â chyfrifiaduron personol a llechi Wacom Cintiq o safon uchel, mannau rhwydweithio cydweithredol, sgrin werdd ac ystafelloedd bywluniadu, ystafelloedd recordio symudiadau ac ystafelloedd ffilmio 2D a Stop-Symud. Mae gan fyfyrwyr fynediad at feddalwedd o safon diwydiant, gan gynnwys Adobe Creative Cloud, Autodesk Suite a TVPaint, tra bod UniApps yn caniatáu mynediad i feddalwedd ar unrhyw ddyfais mewn unrhyw leoliad. Mae’r Gwasanaeth Benthyg Offer yn darparu amrywiaeth o offer i'w llogi megis camerâu, iPadiau, cyfrifiaduron, blychau golau ac offer Wacom.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.