MA

Cyfathrebu Graffeg

Mae MA Cyfathrebu Graffeg yn gwrs sy'n cael ei arwain gan ymarfer ac sy'n herio confensiynau ac yn gwobrwyo arbrofi ac arloesi. Byddwch yn gwthio ffiniau, yn ymgysylltu â briffiau byd go iawn, ac yn datblygu gwaith sy'n llunio diwylliant a chymdeithas. Gan gydweithio mewn amgylchedd stiwdio bywiog, byddwch yn mireinio'ch ymarfer wrth archwilio posibiliadau newydd mewn cyfathrebu gweledol cyfoes.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £11,060*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Ewch â'ch gyrfa ddylunio i'r lefel nesaf gydag MA Cyfathrebu Graffeg - lle mae syniadau beiddgar, meddwl beirniadol a chydweithio creadigol yn dod at ei gilydd i lunio gwaith gwreiddiol ac effeithiol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae MA Cyfathrebu Graffeg wedi'i gynllunio ar gyfer pobl greadigol uchelgeisiol sy'n barod i dyfu. P'un a ydych chi'n ddylunydd sefydledig neu'n symud ymlaen o ddisgyblaeth greadigol arall, mae'r cwrs hwn yn eich helpu i ehangu eich sgiliau, meithrin hyder a gwthio eich ymarfer - gan eich paratoi i ffynnu ym myd dylunio graffeg sy'n newid yn barhaus.

Llwybrau Gyrfa

  • Dylunydd Graffeg
  • Dylunydd UX/UI
  • Dylunydd Graffeg Symudol
  • Strategwr Brand
  • Dylunydd Llawrydd

Y sgiliau a addysgir

  • Meddylfryd Dylunio
  • Datrys Problemau Creadigol
  • Dulliau Ymchwil Dylunio
  • Sgiliau cynhyrchu digidol
  • Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Gweithio ar brosiectau dylunio go iawn

Cewch brofiad ymarferol drwy weithio gyda chleientiaid go iawn. Mae cyn-fyfyrwyr wedi cyfrannu at ymgyrchoedd ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Llyfr, elusennau a sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru.

Adeiladu portffolio sy'n sefyll allan

Datblygwch bortffolio unigryw cryf sy'n dangos eich ystod o ymarfer creadigol a sgiliau dylunio.

Llunio'r cwrs o amgylch eich diddordebau

Archwiliwch ystod eang o sgiliau dylunio gan ganolbwyntio ar heriau sy'n eich cyffroi o fewn ymgyrchoedd, brandio, profiad defnyddwyr a graffeg symudol.

Dysgu gan staff profiadol a chefnogol

Mae ein hacademyddion yn cynnwys dylunwyr ac addysgwyr medrus sy'n cynnig digon o arweiniad un-i-un a chymorth technegol drwy gydol y cwrs.

Trosolwg o’r Modiwl

Mae MA Cyfathrebu Graffeg yn gwrs deinamig a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi diwylliannau a chefndiroedd creadigol amrywiol. Mae'n eich cefnogi i fireinio'ch sgiliau, datblygu llais dylunio unigryw ac archwilio prosiectau beiddgar, hunangyfeiriedig. Trwy feddwl beirniadol ac ymarfer arbrofol, byddwch yn llunio hunaniaeth broffesiynol ac yn paratoi ar gyfer eich cam nesaf yn eich gyrfa.

Egwyddorion Cyfathrebu Graffeg

Archwiliwch egwyddorion allweddol dylunio graffeg, gan gynnwys cyfansoddiad, teipograffeg, hierarchaeth a lliw. Byddwch yn datblygu a chreu canlyniadau gweledol meddylgar, sy'n seiliedig ar gysyniadau, trwy brofiadau ymarferol.

Cymwysiadau Cyfathrebu Graffeg

Archwiliwch frandio fel elfen strategol mewn dylunio graffeg, gan greu hunaniaeth sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy'n adlewyrchu gwerthoedd, ymddygiad, gwasanaethau a chynulleidfa trwy arfer creadigol.

Ymchwil ac Ymarfer yn y Diwydiannau Creadigol

Dysgwch ddulliau ymchwil dylunio a chymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol gan ddefnyddio fframweithiau damcaniaethol a syniadau sy'n dod i'r amlwg i ddatblygu cysyniadau dylunio sy'n seiliedig ar ymchwil.

 

Prosiectau Gradd Meistr Cyfathrebu Graffeg

Darganfyddwch ddylunio graffeg mewn mannau digidol, gan ganolbwyntio ar graffeg symudol, UX, a dylunio UI. Dysgwch sut y gall dylunio graffeg symud, ymateb, a rhyngweithio i greu profiadau gweledol deinamig sy'n swyno cynulleidfaoedd sy'n seiliedig ar sgriniau.

Ymarfer Dylunio Proffesiynol

Astudiwch arferion proffesiynol stiwdios ac asiantaethau dylunio cyfoes, gan gynnwys llif gwaith, perthnasoedd â chleientiaid, a gwasanaethau creadigol. Byddwch yn datblygu portffolio creadigol sy'n arddangos eich sgiliau a'ch parodrwydd ar gyfer y diwydiant.

Prosiectau Mawr Terfynol

Yn y modiwl hunangyfeiriedig hwn, byddwch yn datblygu prosiect mawr terfynol sy'n adlewyrchu eich athroniaeth ddylunio a'ch sgiliau amrywiol o fewn eich arbenigedd dewisol. Byddwch yn creu corff sylweddol o waith sy'n arddangos arloesi, gwreiddioldeb a pherthnasedd proffesiynol.

Gofynion mynediad

Gradd Anrhydedd dda mewn disgyblaeth berthnasol, neu gymhwyster proffesiynol priodol, neu HND/HNC a phrofiad priodol. Bydd ymgeiswyr o'r DU yn cael eu cyfweld gyda'u portffolio. Fel arfer mae'n ofynnol i fyfyrwyr rhan-amser fod yn weithwyr proffesiynol gweithredol. Mae pynciau perthnasol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Celf/Celfyddyd Gain, Dylunio, Graffeg, Darlunio, Hanes Celf, Dylunio 3D, Dylunio Ffasiwn/Tecstilau, Dylunio Mewnol, Hysbysebu, Marchnata Dylunio, Animeiddio, Celf Gêm, Dylunio Gwe, Hyrwyddo Ffasiwn , neu unrhyw bwnc sy'n defnyddio meddwl cysyniadol creadigol fel rhan o'i brif broses. 

Mae cymwysterau rhyngwladol achrededig cyfatebol yn dderbyniol. Mae angen i fyfyrwyr rhyngwladol ddarparu CD neu DVD o'u gwaith, neu ddolen i'w gwefan bersonol, i ddangos eu gallu. Ystyrir ymrwymiad i astudio. Lle bo modd, defnyddir fideo-gynadledda, Skype neu gyfathrebu arall i gysylltu â chi. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£11,060

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Bydd angen i fyfyrwyr brynu deunyddiau dylunio, gan gynnwys pad cynllunio A3 sy'n costio tua £8.00, fine liner am £2.99 a dylent ganiatáu £100 ar gyfer costau argraffu. Mae'r Brifysgol yn darparu cyfrifiaduron i'w defnyddio mewn mannau stiwdio ond mae'n well gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr brynu eu gliniaduron eu hunain. Mae gan y llyfrgell gasgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion y gellir eu benthyg neu eu darllen ar-lein, ond gall myfyrwyr ddewis prynu rhai eu hunain. 

Cost: £110

Benthyca Offer Cyfryngau

Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.

Benthyca Offer Cyfryngau

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Byddwch chi'n dysgu trwy lawer o brosiectau ymarferol, gweithdai grŵp a thrwy feirniadaeth ac adborth adeiladol rheolaidd gan diwtoriaid cefnogol sydd â phrofiad helaeth ac sy’n angerddol am y maes pwnc. Byddwch chi'n cael gweithio'n agos gyda myfyrwyr eraill yn eich stiwdio. Mae pob modiwl yn amrywio, ond fel arfer mae'n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau, adolygiadau gan gymheiriaid, cyfarwyddyd technegol, amser astudio uniongyrchol ac annibynnol.

Staff addysgu

Byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr dylunio graffeg sydd â brwdfrydedd mawr dros y maes pwnc hwn, ac mae gan bob un ohonynt brofiad mewn ystod eang o ddisgyblaethau a diwydiannau masnachol gyda rhwydwaith helaeth o weithwyr proffesiynol sy'n dylanwadu ar gwricwlwm y cwrs.

 

Ryan Preece (Arweinydd Cwrs / Uwch-ddarlithydd)

Dr Rachel Grainger (Uwch-ddarlithydd)

Stephen Leadbetter (Darlithydd)

Sarah Down (Darlithydd)

Cyfleusterau

Mae'r stiwdios dylunio wedi'u seilio ar Apple Mac ac wedi'u cyfarparu ag ystod eang o feddalwedd dylunio sy'n cefnogi disgwyliadau eich cwrs. Fel myfyriwr yn y brifysgol bydd gennych fynediad i Adobe Cloud, Cinema 4D, Figma a'r holl gymwysiadau perthnasol sydd eu hangen arnoch i ymarfer yn ddigidol o fewn y ddisgyblaeth hon. Mae Campws Caerdydd yn darparu ystod ehangach o offer ac adnoddau i gefnogi amrywiaeth y myfyrwyr MA sy'n dod ag ystod eang o setiau sgiliau a phrofiadau ychwanegol.

Mae gan y brifysgol gyfleuster benthyciadau cyfryngau sy'n eich galluogi i fenthyg offer safonol y diwydiant yn amrywio o liniaduron i gamerâu ffilm a ffotograffiaeth pen ucha’r farchnad. Mae cyfleoedd i archwilio arbenigeddau trwy weithdai ar y safle, Argraffu 3D, torri laser, cyfleusterau sgrin werdd. Mae gan y brifysgol rwydwaith cymorth ehangach o dechnegwyr ac arbenigwyr meddalwedd sydd wedi cael achrediadau Adobe, gan ddarparu gwasanaeth cymorth technegol eithriadol i fyfyrwyr sy'n astudio'r cwrs hwn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae graddedigion cwrs MA Cyfathrebu Graffeg Prifysgol De Cymru (PDC) yn anelu at ymuno â'r diwydiannau creadigol gyda mantais gystadleuol fwy soffistigedig a nodedig sy'n adeiladu ar sylfeini eu BA neu brofiadau addysg blaenorol. Nod yr MA yw annog lefel meddwl cysyniadol mwy mireiniol ac aeddfedrwydd i fynd i'r afael â heriau dylunio cymhleth gydag amrywiaeth a hyder.

Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion dylunio nad ydynt yn ofni cymryd yr awenau creadigol, ymgysylltu'n feirniadol ag ystod eang o faterion lleol, cenedlaethol neu fyd-eang ac anelu at ddangos arloesedd trwy ymarfer dylunio, mae hyn yn ganolog i astudiaeth ôl-raddedig yn PDC. Mae graddedigion yn aml yn dilyn  rolau mewn asiantaethau neu fel dylunwyr llawrydd sy'n cynnig gwasanaethau mewn dylunio graffeg, brandio, UX, graffeg symudol UI. Mae rhai'n dewis parhau â'u hastudiaethau trwy hyfforddiant athrawon neu ddilyn ymchwil academaidd bellach gydag MPhil neu PhD. Mae myfyrwyr MA yn sefyll allan yn eu meysydd am eu haeddfedrwydd, eu hagwedd a'u hamrywiaeth o greadigrwydd a setiau sgiliau.

Cysylltiadau â Diwydiant

Mae gan y cyrsiau Cyfathrebu Graffeg yn y brifysgol enw da rhagorol a hanes hir o weithio gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n llunio'r diwydiannau creadigol. Mae'r cyrsiau dylunio wedi'u hysgrifennu trwy ymchwil sylfaenol ac ymgynghori ag amrywiaeth o ymarferwyr creadigol ac academyddion. Mae'r rhwydwaith proffesiynol hwn yn creu cyfleoedd yn barhaus o fewn y cwricwlwm i'n myfyrwyr gyfarfod, rhyngweithio a dysgu'n uniongyrchol gan ein cysylltiadau yn y diwydiant.

Cymorth gyrfaoedd

Bydd cyngor ar gael i chi gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl graddio. Mae hyn yn cynnwys: apwyntiadau un-i-un gan Gynghorwyr Gyrfa yn y gyfadran, wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu hyd yn oed ar Skype a thrwy e-bost drwy'r gwasanaeth "Gofyn Cwestiwn". Yn ogystal, mae gennym adnoddau ar-lein helaeth i'ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno eich hun yn dda i gyflogwyr. Mae adnoddau'n cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, lluniwr CV, efelychydd cyfweliad a chymorth i wneud cais. Mae gan ein cronfa ddata cyflogwyr dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy’n targedu myfyrwyr PDC. Gallwch gael negeseuon e-bost yn hysbysebu swyddi bob wythnos. Mae gan ein gwasanaeth Gyrfaoedd dimau penodol: Tîm profiad gwaith canolog i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy'n cynnwys rhaglen gyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm Menter sy'n canolbwyntio ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.