BA (Anrh)

Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol

Ydych chi’n breuddwydio am weld eich enw ar ddiwedd ffilmiau a sioeau teledu mwyaf y byd? Byddwch yn hollol barod ar gyfer y stiwdio'r eiliad y byddwch wedi graddio. Meistrolwch yr offer a’r technegau a ddefnyddir gan stiwdios gorau’r byd, dysgwch sut i gydweithio gydag eraill a sut i roi bywyd i’ch syniadau creadigol chi eich hunain.

Sut i wneud cais Gwneud Cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    W280

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Caerdydd

  • Côd y Campws

    B

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £15,850*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Gwnewch y mwyaf o’ch rhyddid creadigol ac ymdeimlad o berthyn wrth i chi ddatblygu’r sgiliau a’r profiadau sy’n cael eu chwennych gan stiwdios gorau’r byd o ran ffilm, teledu a hysbysebion.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Os ydych wrth eich bodd gyda’r celfyddydau gweledol digidol, ac os ydych yn dyheu am yrfa o fewn maes ffilm a theledu yna dyma’r cwrs i chi. Ar y cwrs hwn byddwch yn darganfod ymdeimlad o berthyn ymysg bobl greadigol eraill a byddwch yn cael y profiad o hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrwyon ac sydd yn eich arwain at eich swydd ddelfrydol o fewn y prif stiwdios FVX a symudiad yn y byd.

Llwybrau gyrfaol

  • FX mewn ffilmiau a rhaglenni teledu o’r radd flaenaf
  • Dylunio symudiad ar gyfer hysbysebion a’r teledu
  • Dylunio symudiad ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol
  • Cynhyrchu/cydlynu o fewn stiwdios teledu
  • Gyrfa lawrydd amlddisgyblaethol 

Y sgiliau a ddysgir

  • Ffurfio VFX, gan gynnwys sgrin werdd ac integreiddio CGI
  • Dyluniad symudiad 2D a 3D
  • Dyluniad amgylcheddol
  • Dylunio a darlunio
  • Sgiliau cydweithio a datrys problemau 

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Lansio’ch gyrfa

Cychwynnwch eich gyrfa gyda staff arbenigol, cyfleusterau o’r radd flaenaf, a chysylltiadau stiwdio fydd yn borth i’r diwydiant.

Profiad o gyd-weithio gydag eraill

Gollyngwch y ffrwyn ar eich creadigrwydd drwy weithio gyda myfyrwyr talentog eraill ar ein campws bywiog yng Nghaerdydd.

Byddwch ran o rywbeth mwy

Gweithiwch ar brosiectau Hollywood megis Star Wars, Marvel a The Last of Us, yn union fel y gwnaeth ein graddedigion llwyddiannus.

Achrediadau

Sefwch allan gyda gradd o un o wyth yn unig o gyrsiau VFX o fewn y Deyrnas Unedig sydd wedi eu hachredu gan ScreenSkills.

A student is altering studio lighting equipment.

Trosolwg o'r Modiwl

Rydym yn falch iawn o’r modd y mae’r cwrs hwn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’ch llwybr chi eich hunain o fewn y celfyddydau symudol, o greu dyluniadau mudiad 3D ar gyfer hysbysebion o’r radd flaenaf, a dylunio dilyniant teitl ar gyfer cyfresi teledu, hyd amgylcheddau paentio matte digidol o fewn y ffilmiau poblogaidd diweddaraf.

Blwyddyn Un 
Astudiaethau Cyd-destunol 
Caffael Delweddau 
Datblygu Cysyniadau 
Dylunio Symudiad 
Effeithiau Gweledol 
Cynhyrchu Symudiad 

Blwyddyn Dau 
Arferion Proffesiynol 
Astudiaethau Beirniadol 
Brandiau mewn Symudiad 
Cyfathrebu Gweledol 
Y Diwydiannau creadigol 

Blwyddyn Tri 
Ymchwil Beirniadol 
Prosiect Llai 
Datblygiad Proffesiynol 
Briff Cydweithrediadol 
Prif Brosiect Terfynol 

Cewch gyfle i feithrin sylfaen gref o fewn holl elfennau allweddol y maes. Byddwch yn derbyn cyflwyniad i Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol ill dau o fewn unedau gwaith penodol, gan dreulio digonedd o amser yn ein stiwdios o’r radd flaenaf. Cynhelir uned waith cyd-destunol drwy gydol y flwyddyn, sy’n cefnogi’r elfennau ymarferol.

Astudiaethau Cyd-destunol 
Dysgwch hanfodion cysyniadau allweddol o fewn VFX a dylunio mudiant, gan gynnwys cyfansoddi a golygu, theori lliw, genre a hysbysebu, ac edrych ar ei gyd-destun hanesyddol. 

Caffael Delweddau 
Ewch i’r afael a chamerâu ac offer goleuo yn ein stiwdio sgrin werdd a’n stiwdios cynhyrchu rhithiol ac ar leoliad. Dysgwch sut i recordio sain, golygu ac addasu lliw. 

Datblygu Cysyniadau 
Dysgwch suti ddatblygu cysyniadau drwy ymchwilio a phortreadu syniadau drwy ddelwaddau gan ddefnyddio offer megis Photoshop a Premiere Pro, gan ysgyried ieithwedd ffilmol a chonfensiwn sinematig. 

Dylunio Symudiad 
Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn offer dylunio symudiad 2D a 3D megis Adobe After Effects, Illustrator a Cinema 4D, gan feithrin eich dealltwriaeth o egwyddorion animeiddio ac ieithwedd dylunio.  

Effeithiau Gweledol 
Dysgwch hanfodion y sgrin werdd ar arferion CFX megis cyfansoddi 2D a 3D, tracio 2D integreiddio CGI a rotosgopio. 

Cynhyrchu Symudiad 
Cynlluniwch a chynhyrchwch gynnwys dylunio symudiad  gwreiddiol ac arloesol ar gyfer y Ffilm a Theledu, gan astudio'r grefft o ddilyniannau teitl, teipograffeg a dulliau cyfryngau cymysg. 

Byddwch yn defnyddio’r sgiliau a’r cyd-destun a gawsoch yn ystod eich blwyddyn gyntaf, mewn amryw o feysydd perthnasol o fewn y diwydiant. Byddwch yn dod i ddeall arferion a phrosesau proffesiynol wrth i chi gael eich cyflwyno i’r diwydiant masnachol yn ogystal ag archwilio ochr gerddoriaeth, adrodd straeon a’r elfen o gydweithio o fewn y sector.

Arferion Proffesiynol 
Cymerwch y cam pwysig cyntaf ar hyd llwybr eich gyrfa wrth i chi ymwneud a phrosiect byw ochr yn ochr â phobl broffesiynol o fewn y diwydiant, gan ystyried a phrofi gwahanol swyddi a chynyddu eich dealltwriaeth o’r maes. 

Astudiaethau Beirniadol 
Dyma fydd eich cyfle i ymwneud â dadansoddiad beirniadol a hanesyddol wrth i chi baratoi at y traethawd estynedig blwyddyn nesaf, byddwch yn canolbwyntio ar greu effeithiau gweladwy credadwy a sut i’w defnyddio. 

Brandiau mewn Symudiad 
Dysgwch am hunaniaeth weledol o fewn y diwydiannau masnachol a’r modd y mae pobl yn ymateb yn emosiynol i’r cyfryngau gweledol. Dysgwch am ganllawiau brandiau, safonau teledu a’r cyfryngau cymdeithasol. 

Cyfathrebu Gweledol 
Dysgwch sut i ddefnyddio dulliau effeithiau gweledol er mwyn adrodd stori, creu awyrgylch, gweld cerddoriaeth a chreu efelychiadau haniaethol, gan ddefnyddio meddalwedd mwyaf blaenllaw’r diwydiant megis Nuke. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rheoli prosiect.  

Diwydiannau creadigol 
Byddwch yn cydweithio ag eraill ar y prosiect briff-agored hwn ac yn defnyddio dulliau sy’n benodol i’ch gobeithion gyrfaol chi, ac yn ei gyflwyno i’r dosbarth. 

Hogwch eich dealltwriaeth o’r llwybr gyrfaol a ddewiswyd gennych a throwch eich astudiaethau’n swydd o fewn y diwydiant. Bydd y drydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar broffesiynoldeb, unigolrwydd a chreu presenoldeb ar-lein a phortffolio fydd yn gymorth i chi gael gafael ar eich swydd gyntaf o fewn VFX a dylunio symudiad.

Ymchwil Beirniadol 
Bydd cyfle i chi ymestyn ar y cynnig a wnaethoch ym mlwyddyn dau gydag ymchwil trwyadl, a thrwy ddangos eich gwybodaeth arbenigol a phlymio’n ddwfn i bwnc o’ch dewis. 

Prosiect Llai 
Byddwch yn canolbwyntio ar eich arbenigedd o fewn y celfyddydau digidol, ac yn derbyn cyfarwyddyd ar gynnig syniadau, amserlenni a chreu cyllid. 

Datblygiad Proffesiynol 
Paratowch i gamu i mewn i’r diwydiant wrth i chi ddatblygu eich portffolio ar-lein, eich CV a’ch llythyr cyflwyno, bydd cyfle i ddynodi eich llwybr gyrfaol ac i baratoi at gyfweliadau. 

Briff Cydweithrediadol 
Byddwch yn ymateb i friff prosiect gan gystadleuaeth genedlaethol, byddwch yn cydlynu’r prosiect yn unol â disgrifiad y cleient ac yn cyflawni gwaith o safon broffesiynol. 

Prif Brosiect Terfynol 
Byddwch yn rheoli prosiect ar raddfa fawr, sydd wedi ei deilwra at yr yrfa rydych yn diddori ynddi, gyda chyfleoedd posib i gydweithio gyda rhai o’r prif stiwdios allanol.  

Wedi'i achredu gan
Mewn partneriaeth â

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Byddwch yn cael amser i wneud gwaith ymarferol yn ein stiwdios a’n ystafelloedd cyfrifiaduron o’r radd flaenaf. Dan gyfarwyddyd tîm o arbenigwyr byddwch yn datblygu sgiliau technegol allweddol o ran sut i ddefnyddio’r feddalwedd a byddwch yn dysgu am VFX o safon ddiwydiannol a thechnegau dylunio symudiad ynghyd â damcaniaeth sylfaenol. Byddwch yn cyflwyno’ch syniadau a’ch cysyniadau i’ch cyfoedion ynghyd  phobl broffesiynol sydd ar y brig o ran VFX mewn amgylchedd sy’n efelychu stiwdios go iawn. Bydd yr asesiadau’n cynnwys gwaith ymarferol, cyflwyniadau dosbarth, dyddiaduron prosiect, cyfweliadau, traethodau a thraethodau estynedig, a phob un wedi eu dylunio er mwyn adlewyrchu’r tasgau a berfformir gan VFX ac arbenigwyr mewn dylunio symudiad. 

Staff addysgu

Mae ein tîm yn cynnig dealltwriaeth ddyfnach i chi o fyd VFX a Graffeg Symudol, gan gynnwys dealltwriaeth o feysydd ffilm a theledu, a'r diwydiant masnachol. Gyda’u profiad ar brosiectau arobryn a chydweithio â’r brandiau gorau fel Google, BBC, a Sky, maent yn darparu gwybodaeth amhrisiadwy i'ch helpu i fireinio'ch sgiliau a dod o hyd i'ch llais creadigol. Mae eu harbenigedd yn y byd go iawn yn eich helpu i ennill mantais gystadleuol ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant. 

Cyfleusterau

O'r diwrnod cyntaf un, byddwch yn ennyn profiad ymarferol gyda'n stiwdios ffilmio arbenigol ac amrywiaeth o offer camera a recordio. Byddwch yn derbyn cyfarwyddyd uniongyrchol a gallwch archebu'r cyfleusterau a'r offer yn ôl yr angen trwy gydol eich astudiaethau. Mae ein hadnoddau’n cynnwys stiwdio sgrin werdd, ystafell gynhyrchu rithwir newydd sbon, dwy stiwdio ystafell ddosbarth gyda pheiriannau perfformiad uchel, camerâu a goleuadau o safon sinema, stiwdio deledu lawn, stiwdio cipio perfformiadau, a’n theatr a’n sinema ein hunain. Mae popeth sydd ei angen arnoch i baratoi ar gyfer y stiwdio a dod â'ch syniadau creadigol yn fyw yma. 

Offer

Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.

Lleoliadau gwaith a Phrofiad gwaith

Er nad ydyw’n orfodol i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith, efallai y cewch gyfle i weithio ar brosiectau diwydiant byw yn ystod eich astudiaethau. Mae modiwlau ymarferol yn adlewyrchu technegau stiwdio o'r radd flaenaf, gan eich paratoi ar gyfer trosglwyddiad esmwyth i'ch gyrfa. Efallai y bydd cyfleoedd i weithio gyda myfyrwyr o feysydd cyfathrebu graffeg, hyrwyddo ffasiwn, a ffilm. Gallwn eich helpu i sicrhau lleoliadau tymor byr gyda'n cysylltiadau stiwdio, gan roi profiad gwerthfawr o'r byd go iawn i chi. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Bob blwyddyn, mae ein graddedigion yn llwyddo i gael swyddi o fewn rhai o stiwdios gorau’r byd, gan gynnwys Industrial Light & Magic, DNEG, a Framestore. Maent yn gweithio ar brosiectau mawr fel Dunne, Spider-Man, a The Last of Us. Mae ein graddedigion hefyd wedi gweithio dros stiwdios dylunio symudiadau blaenllaw, fel Buck a The Mill, gan greu cynnwys sy’n cael ei wylio gan filiynau. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn aml yn cael cydnabyddiaeth yng ngwobrau Oscars, BAFTAs, Emmys, a’r Gymdeithas Effeithiau Gweledol. 

Partneriaid o fewn y diwydiant

Rydym yn un o wyth cwrs yn unig o fewn y Deyrnas Unedig sydd wedi’u hachredu gan ScreenSkills Select ar gyfer VFX, sy’n sicrhau hyfforddiant gan haenen uchaf y diwydiant. Mae ein cysylltiadau cryf â stiwdios mawr fel Industrial Light & Magic a Framestore, yn ogystal â stiwdios lleol a rhai yn Llundain, yn borth i ddarlithoedd gwadd, prosiectau byw, profiad gwaith ac ymweliadau stiwdio. Mae ein partneriaeth gyda Chynghrair Sgrin Cymru hefyd yn cynnig cyfleoedd gwaith gwerthfawr ym myd ffilm a theledu. Gyda'r cysylltiadau hyn gyda’r diwydiant, byddwch yn ennill profiad yn y byd go iawn ac yn adeiladu rhwydwaith sy'n gyrru'ch gyrfa ymlaen. 

Cefnogaeth gyfra

Mae ein cwrs wedi'i gynllunio i lansio'ch gyrfa o'r diwrnod cyntaf un. Byddwch yn barod ar gyfer gwaith yn y stiwdio'r eiliad wedi i chi raddio, diolch i'n tîm addysgu sy’n llawn o arbenigwyr o fewn y diwydiant.  Maent yn cynnig arweiniad gyrfa bersonol yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad. Gyda'n modiwlau megis Ymarfer a Datblygiad Proffesiynol, byddwch yn trosglwyddo'n ddi-dor i'r diwydiant, pa un ai ydych yn anelu at rôl mewn stiwdio effeithiau gweledol neu'n bwriadu gweithio’n llawrydd. Yn ogystal â hyn, mae ein tîm gyrfaoedd ymroddedig yma i'ch helpu chi i archwilio cyfleoedd gwaith ac i hwyluso'ch ceisiadau a'ch cyfweliadau. 

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: CCC
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod Teilyngdod
  • Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol.
  • Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS. 
  • Lefel T: P (C ac uwch)

Gofynion Ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£15,850

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

  • *Cyfrifiadur pen desg neu liniadur MacBook neu PC - Cost: £1000
  • *Tabled Wacom (Mynediad am ddim ar gael i fyfyrwyr) - Cost: £70
  • *Llyfrau / Cylchgronau (Deunydd darllen gofynnol y cwrs ar gael trwy lyfrgell y campws) - Cost: £100

 

lleiafswm o 500gb. Argymhellir Solid State SSD.

Cost: £60

Taith FMX / Vancouver (Blwyddyn 2 neu 3. Dewisol)

Cost: £500

Benthyca Offer Cyfryngau

Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.

Benthyca Offer Cyfryngau

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Students filming with camera equipment on a mountain

Roedd 92%

o fyfyrwyr BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol PDC yn fodlon ar eu cwrs.

(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.