Sut i wneud cais drwy Glirio
Mae gwneud cais am PDC drwy Glirio yn hawdd a, gan amlaf, gallwn wneud cynnig ar unwaith i chi.
Yn barod i wneud cais?
Ar ôl i chi ddod o hyd i gwrs, gallwch ein ffonio ar ein llinell gymorth Clirio ar 03455 76 06 06, cysylltu trwy sgwrs fyw, neu wneud cais ar-lein. Bydd ein tîm cyfeillgar yn barod i'ch cefnogi trwy gydol eich cais.
Gwnewch gais ar-lein nawr
Eich galwad ffôn Clirio
Pan fyddwch yn ein ffonio - cofiwch gael y wybodaeth ganlynol wrth law:
• Eich rhif adnabod ymgeisydd UCAS (os yn berthnasol)
• Rhestr o'ch cymwysterau a'ch graddau.
• Y cwrs sydd o ddiddordeb i chi.
Efallai y bydd angen cyfweliad ffurfiol ar gyfer rhai cyrsiau. Os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn a phryd y gallwch ddisgwyl i'r cyfweliad ddigwydd. Os ydych yn teimlo’n nerfus am ein ffonio ni, peidiwch â phoeni! Byddwn yn eich helpu trwy bob cam!
Eisoes wedi gwneud cais drwy UCAS
Os oes gennych gynnig eisoes i astudio yn PDC, ni yw eich dewis cadarn ac os ydych wedi cyflawni'r graddau yr oedd eu hangen arnoch, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif Hyb UCAS i weld statws eich cynnig.
Os ydych chi wedi methu â chael eich graddau, dylech chi wirio eich Hyb UCAS yn gyntaf i weld a ydym ni wedi gallu cadarnhau eich lle ar eich cwrs dewis cyntaf beth bynnag, neu a ydym ni wedi rhoi cynnig i chi am gwrs arall. Os nad oeddem ni'n gallu cadarnhau eich lle neu wneud cynnig arall perthnasol, gallwch chi edrych ar y cyrsiau sydd gennym ni ar gael trwy Glirio a rhoi galwad i ni i weld a allwn ni roi cynnig ar unwaith i chi am gwrs arall.
Gyda chynnig gan brifysgol arall?
Os oes gennych chi le cadarn diamod eisoes mewn prifysgol arall ac eisiau gwneud cais am gwrs neu brifysgol newydd, gallwch chi ryddhau eich hun i Glirio. Mewngofnodwch i'ch cyfrif UCAS a dewiswch y botwm 'Gwrthod eich lle' yn eich cais i wneud hyn. Byddwch nawr yn gallu gwneud cais am gwrs neu brifysgol wahanol drwy Glirio. Argymhellir eich bod yn cael cynnig anffurfiol cyn gwneud hyn gan efallai na fyddwch yn gallu ychwanegu eich dewis blaenorol yn ôl os byddwch yn gwrthod hyn.
Cyngor rhyngwladol
Dylai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU sydd â diddordeb mewn astudio yn PDC ym mis Medi 2025 gysylltu ag [email protected] i gael aelod o'r Tîm Derbyniadau Rhyngwladol i drafod addasrwydd ac a ellir gwneud cais hwyr o hyd.