Fyddwn i ddim wedi credu mai’r un person ydw i. Mae faint rwyf wedi datblygu wedi fy synnu’n fawr.
Goresgyn swildod a gorbryder yn ystod ei astudiaethau
Mae Luke yn angerddol dros gemau cyfrifiadurol ac yn tueddu i fod yn fewnblyg ei anian, ond dywed bod ei gyfnod yn PDC wedi ei helpu i gynyddu ei hyder, gan olygu iddo allu arwain prosiectau grŵp a goruchwylio gwahanol agweddau ar ddylunio gemau.
Ar ôl cael trafferth gyda swildod a gorbryder yn yr ysgol, mae Luke wedi mwynhau cydweithio ag amrywiaeth o fyfyrwyr o gyrsiau creadigol eraill - fel cynhyrchu sain ac animeiddio - i gynhyrchu gemau cyfrifiadurol.
Dewch o hyd i'ch cwrs
Dysgu bod yn hyderus fel mewnblyg
Dywedodd Luke, sy'n mwynhau sîn gemau Caerdydd ac arcedau gemau fideo, fod PDC wedi ei ddysgu y gall fod yn fewnblyg ac yn hyderus ac yn allblyg i gyd ar yr un pryd.
Archwiliwch CaerdyddDiddordeb mewn Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol?
Gyda technoleg dal symudiadau ar y campws, sgrin werdd, VR ac AR, byddwn yn eich dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol.