Siddharth Ravindran
Gwnaeth cefnogaeth a hyblygrwydd y darlithwyr fy helpu i ddatblygu o fod yn ddechreuwr i fod yn arbenigwr.
Animeiddio a Gemau
Mae'r darlithwyr a'r cwrs yn cyflwyno arferion celf 3D o safon uchel iawn, a helpodd hyn i sicrhau bod fy ngwaith celf yn cyrraedd safon y diwydiant.
Dewis astudio Celf Gemau ym Mhrifysgol De Cymru
Astudiodd Siddharth Ravindran BA (Anrh) Celf Gemau yn PDC heb unrhyw wybodaeth flaenorol am ddylunio celf 3D. Yn naturiol, roedd yn poeni y byddai hyn yn anfantais iddo, ond mae Siddharth yn egluro sut y bu i gymorth a hyblygrwydd darlithwyr ei helpu i ddatblygu o fod yn ddechreuwr i fod yn arbenigwr.
"Gwnaeth astudio Celf Gemau fy ngalluogi i ddysgu a datblygu fy sgiliau celf 3D. Gwnaeth y cwrs ddarparu adnoddau a chymorth a wnaeth alluogi fy sgiliau i dyfu i safonau'r diwydiant.
Dechreuais i’r cwrs heb unrhyw wybodaeth gelf 3D. Roeddwn i'n poeni y gallai fy niffyg gwybodaeth ynghylch 3D fod yn anfantais ond roedd y cwrs hwn wedi'i deilwra ar gyfer dechreuwyr mewn 3D. Cyflwynodd y darlithwyr gymorth ac adnoddau gwych wnaeth alluogi pawb ar y cwrs i greu celf 3D da a datblygu sail gadarn i’r grefft. Mae'r cwrs yn hyblyg iawn ac roedd modd i fi felly ddysgu am ddisgyblaethau amrywiol o fewn Celf Gemau.
Dewch o hyd i'ch cwrsAddysgu o safon uchel iawn oedd o fudd mawr
Mae'r darlithwyr a'r cwrs yn cyflwyno arferion celf 3D o safon uchel iawn, a helpodd hyn i sicrhau bod fy ngwaith celf yn cyrraedd safon y diwydiant, a denu sylw pobl yn y diwydiant, a arweiniodd at swydd yn y diwydiant Gemau yn gyflym iawn.
Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys llawer o brosiectau grŵp sy'n annog gwaith tîm ac yn cyflwyno’r safon mae’r diwydiant yn ei disgwyl i allu gweithio mewn stiwdios gemau.
Mae'r cwrs hwn yn darparu'r holl hyfforddiant ac adnoddau sydd eu hangen i rywun sy’n dechrau ym maes 3D ddatblygu’n artist o safon y diwydiant. I’r sawl sy’n ymroi, bydd y cwrs yn talu ar ei ganfed ac yn golygu y dylech allu ymuno â’r diwydiant gemau yn gyflym iawn."
Diddordeb mewn Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol?
Gyda technoleg dal symudiadau ar y campws, sgrin werdd, VR ac AR, byddwn yn eich dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol.