Chloe Kacperski

Mae astudio Animeiddio yn PDC wedi rhoi cyfleoedd dirifedi i fi

Animeiddio a Gemau
Animation student, Chloe, smiling at camera with her arms crossed

Fe wnes i weithio ar raglen ddogfen ar gyfer BBC Cymru ac fe gafodd ei darlledu ar y teledu. Roedd gweld fy enw ar ddiwedd y rhaglen yn hynod gyffrous!


Mwynhau pob eiliad o fod yn fyfyriwr

Mae astudio BA (Anrh) Animeiddio (2D a Stop-Symud) yn PDC wedi rhoi mwy o gyfleoedd anhygoel i fi nag y gallwn fyth fod wedi'u dychmygu. Fe wnes i weithio ar raglen ddogfen ar gyfer BBC Cymru ac fe gafodd ei darlledu ar y teledu. Roedd gweld fy enw—ac enwau fy nghyd-fyfyrwyr ar y cwrs—ar ddiwedd y rhaglen yn hynod gyffrous! Hefyd enillais interniaeth yn gweithio ar ap symudol Wallace a Gromit, oedd yn brofiad newydd a chyffrous. Fyddai hyn i gyd, a llwyth o brosiectau anhygoel eraill, ddim wedi bod yn bosibl heb y brifysgol. 

Ar gyfer fy mhrosiect blwyddyn olaf, fe wnes i greu fideo ffilm/cerddorol stop-symud byr am ddwy gariad sy'n gorfod addasu i berthynas o bell pan fydd un ohonyn nhw'n symud i ben arall y wlad i fynd i’r brifysgol. 

Wrth edrych yn ôl, efallai y byddwn i’n dweud wrth y person oeddwn i yn fy mlwyddyn gyntaf i beidio â bod ofn ac i fynd amdani, ond a dweud y gwir, fyddwn i ddim eisiau newid unrhyw beth ar fy mhrofiad yn y brifysgol. Mae’r bobl y gwnes i gwrdd â nhw, weithiau mewn ffordd ychydig yn lletchwith ar y dechrau, wedi datblygu’n ffrindiau mawr, ac mae ambell gamgymeriad a wnes i ar hyd y ffordd wedi bod yn brofiadau dysgu gwerthfawr sydd wedi helpu i greu’r person ydw i heddiw. 

Mae astudio Animeiddio yn PDC yn teimlo fel bod yn rhan o un teulu mawr o animeiddwyr! Mae'r darlithwyr yn wallgof yn yr ystyr orau, fwyaf creadigol, bob amser yn ein gwthio i wneud yn fawr o'r cwrs. Mae fy nghyd-fyfyrwyr ar y cwrs wedi dod yn ail deulu i fi a gyda'n cariad tuag at animeiddio, fe wnaethon ni i gyd dynnu ymlaen yn wych. Mae Caerdydd ei hun yn llawn digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag animeiddio, o Noson Animeiddio Caerdydd yn Kongs i ddangosiadau yn Chapter, ac mae hyn yn creu cyfleoedd gwych i fondio gydag eraill y tu allan i'r ystafell ddosbarth. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE'R DARLITHWYR YN WALLGOF YN YR YSTYR ORAU, FWYAF CREADIGOL, BOB AMSER YN EIN GWTHIO I WNEUD YN FAWR O'R CWRS.

Chloe Kacperski

Myfyriwr Animeiddio

Bywyd dydd i ddydd yn ysbrydoli

Rwy'n cael fy ysbrydoli gan unrhyw beth a phopeth! O'r planhigion bach sy'n tyfu trwy'r craciau yn y palmant i sgyrsiau gyda phobl ar y stryd, mae ysbrydoliaeth ym mhobman os ydych chi'n chwilio amdani. 

O ran animeiddio, rwy’n caru'r cyfarwyddwr Elliot Dear. Roedd ei waith masnachol, yn enwedig hysbyseb John Lewis The Bear and the Hare a hysbyseb Nadolig y BBC The Supporting Act, yn ddylanwad mawr arna i wrth benderfynu mynd ar drywydd animeiddio. 

Yn ddiweddar, dechreuais wneud bathodynnau pin clai wedi'u paentio â llaw a'u gwerthu yn fy siop Etsy (Cloooster). Er syndod i fi, gwerthodd pob un o'r 10 bathodyn ar yr un diwrnod ag y rhoddais i nhw ar werth! Ar hyn o bryd, rwy'n dylunio rhagor o fathodynnau pin ac hefyd yn cynllunio syniadau ffilm newydd ac yn creu pypedau i roi hwb i fy mhortffolio animeiddio. 

Diddordeb mewn Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol?

Gyda technoleg dal symudiadau ar y campws, sgrin werdd, VR ac AR, byddwn yn eich dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol.