Ar gael yn Clirio BA (Anrh)

Animeiddio (2D a Stop-Symud)

Lansiwch eich gyrfa mewn animeiddio yn PDC, cartref y radd animeiddio hynaf yng Nghymru. Gyda dros 30 mlynedd o arbenigedd, darlithwyr sydd wedi ennill gwobrau BAFTA a chysylltiadau rhagorol â'r diwydiant, byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch technegau adrodd straeon wrth ymuno â graddedigion sydd wedi gweithio mewn stiwdios mawr ar ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau Oscar a BAFTA.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Ewch ati i greu animeiddiadau beiddgar, meithrin sgiliau a lansio eich gyrfa greadigol.
Ewch ati i greu animeiddiadau beiddgar, meithrin sgiliau a lansio eich gyrfa greadigol.

Côd UCAS

23X6

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Caerdydd

Côd y Campws

B

Pwyntiau UCAS

96

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £16,800*

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Caerdydd

Côd y Campws

B

Pwyntiau UCAS

96

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £804*

Côd UCAS

23X6

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Caerdydd

Côd y Campws

B

Pwyntiau UCAS

96


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Caerdydd

Côd y Campws

B

Pwyntiau UCAS

96

Trosolwg o'r Cwrs

Dewch â'ch cymeriadau a'ch straeon yn fyw gydag Animeiddio yn PDC, lle byddwch yn datblygu'ch llais creadigol trwy brosiectau byd go iawn, cydweithrediadau, briffiau byw ac ymweliadau â stiwdio.

Gan arbenigo mewn 2D neu Stop-Symud, byddwch yn graddio gyda'r sgiliau, yr hyder a'r profiad i gamu'n syth i'r diwydiant animeiddio. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer darpar animeiddwyr sydd eisiau adeiladu gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Byddwch yn archwilio ystod o ddisgyblaethau animeiddio, o animeiddio cymeriadau a datblygu cysyniadau i adrodd straeon gweledol a dylunio straeon.

Ar hyd y ffordd, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, yn darganfod eich cryfderau creadigol eich hun, ac yn graddio gyda phortffolio proffesiynol sy'n adlewyrchu'ch galluoedd ac yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant. 


Pam astudio'r cwrs hwn?

10 Uchaf yn y Byd

Wedi'i sgorio gan The Rookies am ragoriaeth mewn animeiddio, mae'r cwrs yn eich gosod ymhlith y doniau sy'n dod i'r amlwg yn y byd.

Profiad yn y Diwydiant

Gweithiwch ar friffiau cleientiaid byw, ewch i stiwdios animeiddio yn y DU ac enillwch brofiad ymarferol trwy leoliadau gwaith.

Offer a Llifau Gwaith Safonol y Diwydiant

Meistrolwch feddalwedd animeiddio safonol y diwydiant gan ddefnyddio piblinellau sy'n adlewyrchu arfer stiwdio proffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn derbyn mentora personol ac arweiniad ymarferol i ddatblygu eich llais creadigol unigryw a'ch sgiliau proffesiynol. Trwy ddarlithoedd wyneb yn wyneb, gweithdai a phrosiectau stiwdio, byddwch yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwch yn hyderus. Mae'r profiad ymdrochol hwn yn sicrhau eich bod yn adeiladu sgiliau sy'n barod ar gyfer y diwydiant, portffolio cryf a'r hyder i lwyddo mewn gyrfa greadigol gystadleuol.

Mae ein dull ymarferol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, yn sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau technegol, datrys problemau creadigol a hyder proffesiynol. Darperir cefnogaeth ac adborth adeiladol drwy gydol y cwrs i'ch helpu i fireinio'ch gwaith, tyfu'ch portffolio a pharatoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn animeiddio. 

Mae'r asesiad yn seiliedig yn gyfan gwbl ar waith cwrs, heb arholiadau. Byddwch yn creu prosiectau ar draws animeiddio 2D a Stop-Symud, gan gymryd syniadau o gysyniadau a sgriptiau cynnar hyd at stori-fyrddau, dylunio cymeriadau a ffilmiau gorffenedig. Mae'r cwrs yn cyfuno darlithoedd â gweithdai uniongyrchol ac ymarfer stiwdio, gan eich helpu i ddatblygu eich llais creadigol a'ch sgiliau technegol. 

Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd i fireinio'ch gwaith a chryfhau'ch rholyn sioe. Yn aml, mae prosiectau'n adlewyrchu briffiau byd go iawn ac amgylcheddau stiwdio cydweithredol. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cynhyrchu prosiect animeiddio mawr sy'n arddangos eich arbenigedd, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym myd ffilm, teledu ac animeiddio annibynnol. 

Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn byddwch yn gweithio ar friffiau byw a osodir gan stiwdios diwydiant a gwyliau animeiddio. Mae'r cyfleoedd hyn yn rhoi profiadau hanfodol, rhwydweithio proffesiynol a mewnwelediad gwirioneddol i chi i lif gwaith y diwydiant. 

Mae ystafelloedd arbenigol yn cefnogi prosesau 2D traddodiadol a digidol, tra bod ystafelloedd cynhyrchu Stop-Symud yn cefnogi gwaith gwneud pypedau, armaturau, setiau a phropiau, gyda chyfleusterau argraffu 3D, torri laser a gwneud modelau, gan roi profiadau manwl i chi na all lawer o gyrsiau yn y DU eu cynnig.

Byddwch hefyd yn cydweithio â myfyrwyr mewn Animeiddio Cyfrifiadurol, Gemau, Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud gan ddefnyddio adnoddau a rennir. Mae’r rhain yn cynnwys ein hystafell adnoddau cyfeirio ffilmio, stiwdio Sgrin Werdd, ystafell Dal Symudiadau, Parth VR a labordai ôl-gynhyrchu, gan adlewyrchu piblinellau stiwdios proffesiynol. 

Arweinydd y Cwrs

Jonathan Edwards

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant animeiddio ar draws animeiddio 2D a chynhyrchu stop-symud, mae Jonathan yn dod ag arbenigedd creadigol a chynhyrchu helaeth a gafwyd trwy weithio ar brosiectau sydd wedi ennill ac wedi'u henwebu am Oscar ar gyfer stiwdios rhyngwladol yn y DU, yr Unol Daleithiau a Japan. Mae ei brofiad yn cwmpasu ffilmiau nodwedd, cyfresi teledu, hysbysebion a ffilmiau byrion arobryn. Gan dynnu ar bob cam o'r biblinell animeiddio, mae'n darparu addysgu ymarferol, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant mewn amgylchedd cefnogol, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus ym myd animeiddio. 

Rhagolygon Gyrfa

Mae graddedigion yn gadael yn llwyddiannus gyda sgiliau niferus, gan arwain at amrywiaeth o rolau yn y diwydiant, yn cynnwys Animeiddiwr, Dylunydd Cysyniad, Artist Stori-fyrddau, Gwneuthurwr Pypedau ac Adeiladwr Setiau. Mae graddedigion 2D wedi ymuno â stiwdios clodwiw gan gynnwys A Productions, Cartoon Saloon a Lupus Films, tra bod graddedigion Stop-Symud wedi cydweithio â gwneuthurwyr ffilmiau byd-enwog, gan gynnwys Guillermo del Toro, Nick Park, Tim Burton a Wes Anderson. Gyda chyfleusterau o safon y diwydiant a datblygiad portffolio sy'n canolbwyntio ar yrfa, mae'r cwrs hwn yn eich paratoi â'r sgiliau, y cysylltiadau a'r hyder i ddilyn eu hôl troed.

Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn animeiddio 2D a Stop-Symud, gan gyfuno’r gallu i adrodd straeon, creu cymeriadau a chrefft â sgiliau stiwdio proffesiynol. Byddwch yn datblygu llais creadigol nodedig ac yn adeiladu rholyn sioe sy'n sefyll allan ac sy'n arddangos eich arbenigedd. Gyda phortffolio cryf o sgiliau lefel diwydiant, byddwch yn graddio'n barod i fynd i mewn i stiwdios neu ddilyn gwaith llawrydd ac annibynnol ar draws y byd ffilm, teledu a chyfryngau digidol.

Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Animeiddiwr Cymeriadau
Artist Cymeriadau/Cysyniad
Cynhyrchydd Animeiddio
Cyfarwyddwr Animeiddio
Artist Stori-fyrddio/Cyn-delweddu 

#10 Wedi'i rhestru ymhlith prif ysgolion creadigol y byd gan The Rookies am ragoriaeth mewn animeiddio, gan gydnabod ansawdd  gwaith myfyrwyr a pharodrwydd ar gyfer y diwydiant.

Disgwyliadau Cyflog

Gall gradd Animeiddio (2D a Stop-Symud) agor cyfleoedd ar draws amimeiddio 2D a Stop-Symud a'r sector animeiddio ehangach. Mae gyrfaoedd animeiddio yn cynnig potensial enillion cryf:

 

Cyflog canolrifol

DU: £51.4k y flwyddyn
Cymru: £41.5k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 1.26m
Cymru: 30,764

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Academi Gemau ac Animeiddio Cymru

Mae Academi Gemau ac Animeiddio Cymru yn eich paratoi â'r sgiliau creadigol, technegol a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn gemau. Trwy addysgu dan arweiniad y diwydiant, prosiectau cydweithredol a phrofiad yn y byd go iawn, byddwch yn graddio gyda'r arbenigedd creadigol, technegol a phroffesiynol y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. 

Adeiladwch eich gyrfa eich hun

Nid oes rhaid i'ch gyrfa olygu gweithio i rywun arall. Os ydych chi eisiau gweithio'n llawrydd, dechrau busnes neu ddatblygu syniad, gall Menter PDC eich helpu gyda mentora un-i-un, gweithdai ymarferol a chyfleoedd ariannu drwy Gronfa Cychwyn Busnes Menter PDC.
 
Bydd gennych hefyd fynediad at fannau Stiwdio Sefydlu yn ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest. Ar ôl graddio, gallwch gael aelodaeth am ddim am hyd at dair blynedd, gan roi gweithle i chi a rhwydwaith o sylfaenwyr eraill.
 
P'un a ydych chi'n dewis cyflogaeth, gweithio'n llawrydd neu ddechrau busnes, byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau, hyder a'r cysylltiadau i symud ymlaen.

Menter PDC

Gofynion Mynediad

Gofynion ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol

Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC mewn Safon Uwch gyda phwnc celf a dylunio perthnasol.

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc celf a dylunio perthnasol

Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU mewn pwnc celf a dylunio perthnasol gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS

Safon T:
Pasio (C ac uwch) mewn pwnc celf a dylunio perthnasol

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU £ 9,790

Fesul blwyddyn

Ffi Rhan-amser y DU £ 804

Fesul 20 credyd

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyfrifiadur
Mae pob cyfrifiadur a meddalwedd safonol y diwydiant ar gael ar y campws. Fodd bynnag, os ydych chi'n bwriadu gweithio'n helaeth o gartref, rydym yn argymell cyfrifiadur personol Windows perfformiad uchel (gliniadur neu fwrdd gwaith) gyda CPU Intel, GPU NVIDIA, 16–32 GB RAM, SSD 500 GB+, a gyriant allanol 1 TB+ ar gyfer copïau wrth gefn.

Cost Amcangyfrifedig: £1,000 – £2,500

Deunyddiau Stop-Symud
Mae rhai myfyrwyr Stop-Symud yn dewis prynu deunyddiau ychwanegol fel ffabrigau ar gyfer gwisgoedd a chyflenwadau adeiladu setiau.

Cost Amcangyfrifedig: £0 – £100

Gwyliau/Teithiau Maes
Gallwch fynychu gwyliau diwydiant mawr, digwyddiadau ac ymweliadau â stiwdios, gan ennill gwybodaeth am lifau gwaith proffesiynol a meithrin cysylltiadau. Ni fydd y profiadau dewisol hyn yn effeithio ar ofynion y cwrs na'ch dilyniant. 

Cost Amcangyfrifedig: £10 – £200+

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 16,800

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyfrifiadur
Mae pob cyfrifiadur a meddalwedd safonol y diwydiant ar gael ar y campws. Fodd bynnag, os ydych chi'n bwriadu gweithio'n helaeth o gartref, rydym yn argymell cyfrifiadur personol Windows perfformiad uchel (gliniadur neu fwrdd gwaith) gyda CPU Intel, GPU NVIDIA, 16–32 GB RAM, SSD 500 GB+, a gyriant allanol 1 TB+ ar gyfer copïau wrth gefn.

Cost Amcangyfrifedig: £1,000 – £2,500

Deunyddiau Stop-Symud
Mae rhai myfyrwyr Stop-Symud yn dewis prynu deunyddiau ychwanegol fel ffabrigau ar gyfer gwisgoedd a chyflenwadau adeiladu setiau.

Cost Amcangyfrifedig: £0 – £100

Gwyliau/Teithiau Maes
Gallwch fynychu gwyliau diwydiant mawr, digwyddiadau ac ymweliadau â stiwdios, gan ennill gwybodaeth am lifau gwaith proffesiynol a meithrin cysylltiadau. Ni fydd y profiadau dewisol hyn yn effeithio ar ofynion y cwrs na'ch dilyniant. 

Cost Amcangyfrifedig: £10 – £200+

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#7

Mae Animeiddio a Dylunio Gemau yn PDC yn 7fed yn y DU ac ar y brig yng Nghymru.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Games Academy - Game Animation student work

Wedi’i raddio ymhlith ysgolion creadigol gorau’r byd gan The Rookies, gan gydnabod ansawdd gwaith myfyrwyr a’u parodrwydd ar gyfer y diwydiant (Gwobrau The Rookies).

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd am y 6ed flwyddyn yn olynol, a’r 7fed yn y DU. 

Archwiliwch ein cyfleusterau

Canolfan greadigol lle mae gemau ac animeiddio’n ffynnu.

Cyfleusterau Gemau ac Animeiddio

Creu bydoedd a fydd yn trochi cynulleidfaoedd, o animeiddio ffilmiau ac adeiladu effeithiau gweledol i ddylunio cymeriadau gemau fideo unigryw a chynhyrchu darnau celf drawiadol. Byddwn yn rhoi'r sgiliau, yr offer a'r cysylltiadau diwydiant i chi i droi'ch syniadau yn realiti.

Mae ein cyrsiau Gemau ac Animeiddio yn rhan o Academi Gemau ac Animeiddio Cymru.

Academi Gemau ac Animeiddio Cymru

Benthyciadau Cyfryngau

Mynnwch fynediad at gamerâu, offer goleuo, sain ac offer recordio o safon y diwydiant, gyda chymorth gan ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a dod â'ch gwaith yn fyw'n hyderus.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Animeiddio (2D a Stop-Symud)

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Caerdydd

    Apply direct
  • Animeiddio (2D a Stop-Symud)

    • Rhan-amser, 6 blynedd

    • Medi

    • Caerdydd

    Apply direct
  • Animeiddio (2D a Stop-Symud)

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Caerdydd

    Apply direct
  • Animeiddio (2D a Stop-Symud)

    • Rhan-amser, 6 blynedd

    • Medi

    • Caerdydd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Straeon Myfyrwyr

"Fe wnes i weithio ar raglen ddogfen ar gyfer BBC Cymru ac fe gafodd ei darlledu ar y teledu. Roedd gweld fy enw ar ddiwedd y rhaglen yn hynod gyffrous!"

Chloe Kacperski Myfyriwr Animeiddio (2D ac Animeiddio Stop-symudiad)

Gweld proffil y myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Un o’r pethau rydw i wedi’i fwynhau fwyaf am y cwrs yw pa mor amrywiol ac ymarferol ydyw."

Adiee Romans Myfyriwr Animeiddio (2D ac Animeiddio Stop-symudiad)

Gweld proffil y myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Mae cael fy amgylchynu gan fyfyrwyr animeiddio o’r un anian sy’n caru’r grefft wir wedi fy helpu."

Hayden Powell Myfyriwr Animeiddio (2D ac Animeiddio Stop-symudiad)

Gweld proffil y myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Rydyn ni’n cael cydweithio â myfyrwyr o gyrsiau eraill, gan gynnwys CGI a gwahanol grwpiau blwyddyn, i greu prosiectau."

Oliwia Sydry Myfyriwr Animeiddio (2D ac Animeiddio Stop-symudiad)

Gweld proffil y myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Roedd cerdded i mewn i’r stiwdio stop-symud am y tro cyntaf yn teimlo fel dod o hyd i’m cartref creadigol."

Jo Myfyriwr Animeiddio (2D ac Animeiddio Stop-symudiad)

Gweld proffil y myfyriwr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?