Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Lansiwch eich gyfra dylunio gyda chwrs BA (Anrh) mewn Dylunio Gemau Cyfrifiadurol. Cynyddwch eich sgiliau creadigol a thechnegol er mwyn dylunio, datblygu ac anfon eich gemau cyfrifiadurol chi eich hun i’r farchnad.
Sut i wneud cais Gwneud Cais Trwy UCAS Bwcio Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/animation-and-games/ba-computer-games-design.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
WGF4
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Crëwch a chynhyrchwch gemau o’r cychwyn cyntaf. Mwynhewch brofiad ymarferol mewn digwyddiadau gemau fideo, cyflwynwch eich gwaith mewn cystadlaethau cenedlaethol megis Tranzfuser, a dewch i gyfarfod arbenigwyr o fewn y diwydiant. Defnyddiwch labordai o’r radd flaenaf a chanddynt y rhaglenni cyfrifiadurol Unreal Engine ac Adobe Suite a datblygwch eich rhwydwaith o fewn y diwydiant gemau fideo.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych yn angerddol am emau cyfrifiadurol ac os ydych yn barod i ymuno â’r diwydiant hwnnw, yna dyma’r cwrs i chi. Arllwyswch eich egni creadigol ac entrepreneraidd i mewn i’r cwrs wrth i chi hefyd fagu arferion proffesiynol o ran eich agwedd â’ch prosiectau. Gadewch i’ch brwdfrydedd eich arwain wrth ichi drawsffurfio eich gweledigaeth gyfrifiadurol yn emau go iawn.
Partneriaethau
Llwybrau gyrfaol
- Dylunydd Gêm
- Dylunydd lefel
- Rhaglennydd
- Rhyngwyneb defnyddiwr (UI) / profiad defnyddiwr (UX)
- Awdur/cynhyrchydd
- Profwr
Sgiliau a ddysgir
- Dylunio gemau
- Rhaglennu
- Cynllunio prosiectau
- Rheoli prosiectau
- Technegau cynnig syniadau
- Gwaith tîm
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-course-computer-animation.png)
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Byddwch yn ymrafael gyda’ch sgiliau creadigol a thechnegol o’r cychwyn cyntaf. Meistrolwch sgiliau dylunio drwy brosiectau ymarferol a gwaith o fewn y stiwdio, bydd cyfle i archwilio diwylliant gemau cyfrifiadurol a dysgu am safonau’r diwydiant. Byddwch yn meithrin sgiliau technegol hanfodol, yn dod i ddeall materion moesegol, ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil a chyfathrebu yn barod ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Blwyddyn un
Adeiladu Bydoedd
Creu Gemau
Dylunio Lefelau
Stiwdio Gemau Un
Heriau Dylunio
Blwyddyn dau
Gemau Arbrofol
Arferion Proffesiynol
Technegau Creu Cynnwys
Astudiaethau Gemau Dau
Blwyddyn tri
Prototeip Gemau
Cynhyrchu Gemau
Traethawd Estynedig
Portffolio
Byddwch yn cychwyn drwy archwilio’r elfennau mwyaf hanfodol ac yn creu gemau yn syth bin. Yn ystod eich chwe wythnos gyntaf, byddwch yn crefftio eich gêm gyntaf ac erbyn diwedd y flwyddyn byddwch wedi adeiladu o leiaf tri ohonynt. Gyda’r modiwlau ymarferol ar bynciau megis Dylunio Lefelau, Mecanwaith Gemau ac Adeiladu Bydoedd, byddwch yn cyfuno creadigrwydd gyda sgiliau technegol o’r dechrau un.
Adeiladu Bydoedd
Byddwch yn creu prototeipiau digidol ac yn archwilio strwythur, mecanwaith a naratif gemau. Byddwch yn arbrofi gyda rheolau ac esthetig wrth i chi ddatblygu a chyflwyno syniadau ac chynhyrchu gemau drwy wahanol brosiectau.
Creu Gemau
Byddwch yn datblygu ac yn cynhyrchu gem mewn grwpiau ac yn canolbwyntio ar fecanwaith a dylunio rhyngweithiol. Byddwch yn defnyddio ymchwil, arbrofion ac adborth. Byddwch yn rhoi hwb i’ch sgiliau drwy weithio o fewn y stiwdio a thrwy ymdrwytho mewn prosiect.
Dylunio Lefelau
Archwiliwch ddamcaniaeth ddylunio gemau gyda gwaith injan ymarferol. Crëwch lefelau drwy ganolbwyntio ar gynllunio, profi’r chwarae a dylunio rhyngweithiol. Datblygwch ac arddangoswch eich gwaith drwy ddysgu gydag eraill a dysgu’n annibynnol.
Stiwdio Gemau Un
Dysgwch am y damcaniaethau a’r arferion o fewn Astudiaethau Gemau. Byddwch yn ymchwilio, yn dadlau ac yn dadansoddi gemau er mwyn deall datblygiad a diwylliant. Byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol fydd yn gymorth i chi ennill dealltwriaeth academaidd ac ymarferol.
Heriau Dylunio
Datblygwch sgiliau gwerthuso a datrys problemau dylunio drwy ganolbwyntio ar gynllun sy’n canolbwyntio ar y chwaraewyr. Byddwch yn dysgu sut i gyfathrebu cysyniadau gêm drwy ymarferion ymarferol a heriau yn y byd go iawn.
Daeth yr amser i ymrafael a phrosiectau soffistigedig gyda briffiau byw, a’r nod o greu gemau graenus, sy’n barod i’w cyflwyno fel syniad i arbenigwyr y diwydiant. Byddwch yn ymchwilio meysydd megis Systemau a Mecanwaith neu Rinweddau Cynhyrchu Gemau, ac yn dwysau eich dealltwriaeth o ddamcaniaeth dylunio. Byddwch yn arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi er mwyn paratoi at eich blwyddyn olaf.
Gemau Arbrofol
Gwthiwch ffiniau o fewn y byd dylunio gemau drwy archwilio ffordd flaengar o chwarae, technoleg newydd a themâu unigryw. Byddwch yn dilyn cyfarwyddyd er mwyn creu fersiwn cynnar gellir ei chwarae, gan ganolbwyntio ar wreiddioldeb a chyflawniad ymarferol.
Arferion Proffesiynol
Byddwch yn creu gêm wedi ei selio ar gyfarwyddyd gan gleient, byddwch yn gweithio mewn tîm ac yn cydweithio gydag eraill o wahanol gyrsiau. Byddwch yn datblygu proffesiynoldeb a sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant drwy ddysgu sut i gyflwyno syniad i bobl brofiadol o fewn y diwydiant.
Technegau Creu Cynnwys
Meistrolwch sut i gynhyrchu cynnwys gemau drwy ganolbwyntio ar lif gwaith a phibellau injan. Byddwch yn gwrthbwyso esthetig, creadigrwydd a therfynau technegol drwy ddefnydd ymarferol.
Astudiaethau Gemau Dau
Dysgwch am astudiaethau gêm uwch drwy ymchwil a thrafodaeth. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol, byddwch yn datblygu dadleuon deallusol, ac yn cywreinio’ch sgiliau dan gyfarwyddyd eich cyfoedion ac aelodau staff.
Y flwyddyn derfynol yw eich cyfle i ddisgleirio! Byddwch yn creu prototeip ac yn cynhyrchu gem ar lefel broffesiynol, fydd yn waith neilltuol ar gyfer eich portffolio. Dysgwch sut i arddangos eich sgiliau, ceisio am swyddi, a llwyddo mewn cyfweliadau. Bydd eich traethawd estynedig yn caniatáu i chi ymdrwytho mewn pwnc dylunio gemau rych yn angerddol yn ei gylch.
Prototeip Gemau
Archwiliwch ac arbrofwch er mwyn datblygu gêm brototeip sy’n gweithio, gan ganolbwyntio ar fecanwaith craidd, profiad y chwaraewyr a steil. Datblygwch brototeipiau a dogfennau dylunio gan ddefnyddio eich sgiliau a’ch dysg i’ch paratoi chi at eich gyrfa.
Cynhyrchu Gemau
Byddwch yn cwblhau ac yn a chyhoeddi gêm, drwy ganolbwyntio ar gryfderau eich cynnyrch. Byddwch yn dogfennu eich penderfyniadau dylunio, yn rheoli ystod eich prosiect a byddwch hefyd yn creu gêm sy’n barod ar gyfer portffolio gyda deunydd hyrwyddo ar gyfer arddangosfa gyhoeddus.
Traethawd Estynedig
Ymchwiliwch bwnc dylunio gemau sydd o ddiddordeb i chi, dysgwch am faterion allweddol a thrafodaethau o bwys. Cyflwynwch ddadl wreiddiol, ac iddi resymeg dda, gan ddefnyddio tystiolaeth neu ddealltwriaeth sy’n seiliedig ar eich gwaith.
Portffolio
Ystyriwch eich llwyddiannau ac amcanion eich gyrfa. Cryfhewch eich CV, eich portffolio a’ch proffil LinkedIn. Mynychwch ddigwyddiadau gyrfaol, mynnwch gyngor a pharatowch at gyfweliadau swydd o fewn y diwydiant.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Y modd y byddwch yn dysgu
Byddwch yn cychwyn dysgu yn syth bin drwy brosiectau grŵp, gweithdai ymarferol a chyflwyniadau. Gallwch ddisgwyl cyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, ac amser yn y stiwdio er mwyn hogi eich crefft. Byddwch hefyd yn gweithio ar eich portffolio, yn creu prosiectau ar gyfer y byd go iawn ac yn mynd ar deithiau gyda darlithwyr a myfyrwyr eraill. Bydd yr asesiadau’n cynnwys gwaith grŵp, traethodau a chyflwyniadau, a byddwch yn derbyn adborth fydd yn cyfrannu at eich datblygiad.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/animation-and-games/subject-animation-and-games-student-38415.jpg)
Y Staff Dysgu
Bydd y staff dysgu ar y cwrs BA mewn Dylunio Gemau Cyfrifiadurol yn eich cefnogi chi i feithrin eich sgiliau drwy brosiectau ymarferol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant. Byddant yn eich cymell i ddatblygu eich gallu creadigol a thechnegol ac yn eich cyflwyno chi i bobl broffesiynol o fewn y diwydiant. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn gweithio ar brosiect mawr ac yn derbyn cefnogaeth y staff drwy’r gweithdai a’r seminarau. Mae’r staff yn canolbwyntio ar brofiadau yn y byd go iawn a chysylltiadau o fewn y diwydiant er mwyn sicrhau eich bod chi’n deall cyd-destun ehangach eich gwaith. Bydd arweinydd eich cwrs, rhywun fydd yn brofiadol iawn wrth ddefnyddio offer megis Unreal Engine, yn cynnig arbenigedd gwerthfawr fydd yn gefnogaeth eich addysg.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/10-october/Grad_Fest_Computer_Games_Design.jpeg)
Lleoliadau gwaith a phrofiad gwaith
Ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn profi’r byd go iawn drwy brosiectau lle fyddwch yn cydweithio gydag eraill fel rhan o dîm. Rydym yn eich annog i ddod o hyd i brofiadau gwaith yn ystod y gwyliau neu yn ystod y tymor. Mae’r modiwl Prosiect Proffesiynol yn cefnogi’r profiadau gwaith hyn gyda briffiau byw ac mae’r cynllun Camu ‘Mlaen yn cynnig cefnogaeth ychwanegol yn ogystal â chydnabyddiaeth. Yn eich ail flwyddyn bydd y modiwl Arferion Proffesiynol yn cynnwys prosiectau briff byw. Erbyn eich trydedd flwyddyn, bydd y cynllun Tranzfuser yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu gwaith ar gyfer y gystadleuaeth UK Games Fund.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/animation-and-games/subject-animation-and-games.jpg)
Cyfleusterau
Ar gampws Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf a thîm angerddol sy’n barod i roi bywyd i'ch syniadau creadigol. Yn fyfyriwr / fyfyrwraig dylunio gemau cyfrifiadurol, byddwch yn gallu defnyddio labordai sydd o safon ddiwydiannol ac iddynt offer megis Unreal Engine, Unity, Autodesk Suite, ac Adobe Suite. Byddwch yn gweithio gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, yn cynnwys cardiau graffeg Nvidia RTX, monitrau hynod o lydan ac offer VR. Yn ogystal â hyn, mae’n ein systemau rheoli wedi eu cadw ar y cwmwl – golyga hyn ei fod yn ddigon hawdd i chi gydweithio gyda chyfoedion pa un ai ydych chi yn y labordy neu’n gweithio o adref.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/animation-and-games/subject-animation-and-games-research-partner-cloth-cat-51479.jpg)
Gofynion mynediad
pwynt tariff UCAS: 96
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol
- Bagloriaeth Cymru: Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC mewn Safon Uwch gyda phwnc celf a dylunio perthnasol.
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
- Safon T: Pasio (C ac uwch)
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Cost: £50 - £100
Cost: £50 - £100
(Pob blwyddyn academaidd)
Cost: £1500 - £2000
PC Peropherals (y flwyddyn)
Cost: £100 - £150
Teithiau allgyrsiol. (Pob blwyddyn academaidd)
Cost: £100 - £1000
Y flwyddyn, pob blwyddyn academaidd.
Cost: £50 - £100
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Pam PDC?
Ar y brig yn y DU
Mae Animeiddio a Dylunio Gemau yn PDC ar y brig yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu ac Asesu (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)
Pam PDC?
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.