Cwestiynau i’w gofyn ar Ddiwrnod Agored
Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau y gallech eu gofyn yn eich Diwrnod Agored nesaf i’ch helpu i gael y gorau o’ch ymweliad.
Neilltuwch Lle ar Diwrnod Agored Diwrnodau Agored/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/05-event-photography/51-open-days/events-open-day-50363.jpg)
Cwestiynau Cwrs
Mae dewis cwrs Prifysgol yn llawer haws dweud na gwneud. Man cychwyn da fyddai sgwrsio gyda’r staff addysgu ar Ddiwrnod Agored.
Rhai cwestiynau da i’w gofyn yw:
- Beth ydych chi'n edrych amdano yn fy nghais a'm datganiad personol?
- Sawl awr yr wythnos byddaf mewn darlithoedd?
- Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?
- A allaf wneud lleoliad neu astudio dramor fel rhan o'm cwrs?
- Sut byddaf yn cael fy asesu yn ystod fy ngradd?
- Sut mae'r cwrs ym Mhrifysgol De Cymru yn wahanol i Brifysgolion eraill?
Cwestiynau Llety
Fel rhan o'r Diwrnod Agored, rydym yn cynnal Teithiau Llety. Os mai dyma’r tro cyntaf i chi fyw i ffwrdd oddi wrth eich teulu, rydych chi eisiau symud i rywle fforddiadwy, sy’n teimlo’n gyfeillgar, yn ddiogel ac yn gartrefol i gadw’r byg hiraeth yn y man.
- Beth yw'r opsiynau llety gwahanol sydd ar gael ar y campws?
- A oes rhenti myfyrwyr preifat ar gael oddi ar y campws?
- Sut alla i ymgartrefu mewn Neuaddau?
- A yw'n haws bod yn agosach at y campws?
- Sut a phryd y gallaf wneud cais?
- Pa mor hawdd yw hi i gyllidebu ar gyfer rhent a chostau byw eraill?
Cwestiynau Lleoliad
Os penderfynwch fyw ar y campws, byddwch yn treulio llawer o amser yn yr ardal leol, felly mae'n hanfodol eich bod yn hyderus y byddwch yn teimlo'n gartrefol.
Dyma rai cwestiynau i'w gofyn i helpu i wneud y penderfyniad cywir.
- Ble mae'r archfarchnad agosaf?
- Pa mor bell i ffwrdd yw'r orsaf drenau?
- A fydd angen i mi ddod â'm car?
- A oes unrhyw gyfleoedd gwaith rhan-amser?
- A oes unrhyw fwytai, caffis a bariau da?
- A yw'r ardal yn hawdd i'w llywio?
Cwesiynau Bywyd Myfyrwyr
Bydd y 3 blynedd nesaf yn llawn cymdeithasu, aeddfedu fel oedolyn ifanc ac wrth gwrs astudio. Mae PDC yn gartref i lu o wasanaethau cymorth gwych a chyfleoedd cymdeithasol hwyliog. Beth bynnag mae bywyd myfyriwr yn ei olygu i chi, rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich dewis prifysgol yn ei gynnig.
- Pa gymdeithasau sy'n werth ymuno â nhw?
- Gyda phwy y gallaf siarad os ydw i'n cael trafferth mewn unrhyw ffordd?
- Sut beth yw blwyddyn gyntaf, yn gymdeithasol ac yn academaidd?
- Sut beth yw bywyd nos lleol?
- Sut alla i dreulio fy mhenwythnosau?
- Beth yw un peth y dylai pob myfyriwr PDC ei brofi?