Beth i'w Ddisgwyl yn Eich Diwrnod Agored
Dyma ein canllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl ar eich Diwrnod Agored - o’r broses gofrestru i sgyrsiau croeso a theithiau o amgylch y campws.
Diwrnodau Agored
Cofrestru
Mae eich Diwrnod Agored yn dechrau gyda’r broses gofrestru, felly mae'n bwysig cyrraedd mewn pryd i roi cyfle i chi'ch hun ymgartrefu cyn i'r sgyrsiau croeso ddechrau.
Ewch i'r ddesg gofrestru ar ôl cyrraedd. Byddwn yn sganio eich cod QR (fe welwch hwn yn eich e-bost cadarnhau) ac yn rhoi map o'r campws ac amserlen i chi er mwyn helpu i arwain eich diwrnod.
Mae'r rhan fwyaf o Ddiwrnodau Agored yn dechrau tua 9.30am ond darllenwch eich e-bost cadarnhau i weld eich union amser fel nad ydych chi'n colli dim.
Sgwrs groeso
Ar ôl i chi gofrestru a chael ychydig o amser i ymgartrefu, byddwch yn mynd draw i gael Sgwrs Groeso. Byddwch yn clywed gan ein staff am y brifysgol, bywyd myfyrwyr a'r cyfleoedd sy'n aros amdanoch chi yma.
Byddwch hefyd yn cael rhywfaint o gyngor ar sut i fanteisio i’r eithaf ar eich Diwrnod Agored, felly byddwch yn gadael yn teimlo'n barod i archwilio popeth sydd gan Brifysgol De Cymru i'w gynnig.
Sgwrs Pwnc
Un o rannau pwysicaf a mwyaf cyffrous y diwrnod yw archwilio eich maes pwnc.
Mae sgyrsiau pwnc neu sesiynau blasu yn rhoi cyfle i chi gwrdd â'r darlithwyr a allai fod yn eich dysgu, clywed mwy am yr hyn y byddwch chi'n ei ddysgu ar y cwrs a hyd yn oed gweld rhai o'r cyfleusterau a'r mannau y byddwch chi'n dysgu ynddynt. Bydd cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am fodiwlau, gyrfaoedd neu leoliadau hefyd.
Sgyrsiau Bywyd Myfyrwyr a Chymorth
Ar ôl i chi orffen gwrando ar eich sgwrs pwnc – chi sy'n rheoli eich amser. Rydym yn cynnal sesiynau ar wahanol bynciau drwy gydol y dydd gan gynnwys:
- Ariannu eich Astudiaethau
- Llety PDC
- Cyflwyno cais llwyddiannus
- Cymraeg i Bawb
Fe welwch fanylion yr union amseroedd yn eich rhaglen. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i ofyn cwestiynau a magu hyder ynghylch eich camau nesaf.
Teithiau o amgylch ein Llety
Mae teithiau o amgylch ein llety wedi'u trefnu drwy gydol y prynhawn ac yn aml yn cael eu harwain gan ein llysgenhadon myfyrwyr, y mae llawer ohonynt wedi byw mewn neuaddau eu hunain, felly mae'n gyfle gwych i ofyn am gostau, ceisiadau, a sut beth yw bywyd o ddydd i ddydd.
Teithiau o’r Campws
Mae Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i archwilio'r campws lle byddwch chi'n astudio. Mae pob sesiwn pwnc yn cynnwys taith o amgylch y cyfleusterau y byddwch chi'n eu defnyddio, ac mae ein llyfrgelloedd ar agor drwy gydol y dydd i chi alw heibio i grwydro.
Os ydych chi'n ymweld â Threfforest, bydd gennych chi hefyd ddewis i ymuno ag un o'n teithiau campws dan arweiniad myfyrwyr sy'n cael eu cynnal drwy gydol y prynhawn.
Ffair Wybodaeth y Diwrnod Agored
A hithau'n rhedeg drwy gydol y dydd, mae'r Ffair Wybodaeth yn siop un stop i gael cyngor. Bydd staff o wasanaethau allweddol wrth law i sgwrsio am y canlynol:
- Derbyniadau a cheisiadau
- Cyllid a chyllid myfyrwyr
- Cymorth lles ac anabledd
- Llety
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gasglu llyfrynnau, canllawiau ac adnoddau ychwanegol i fynd adref gyda chi.
Undeb y Myfyrwyr
Ni fyddai unrhyw Ddiwrnod Agored yn gyflawn heb daro golwg ar Undeb y Myfyrwyr. Mae ganddynt gymaint i'w gynnig, a byddant wrth law i sgwrsio am glybiau, cymdeithasau, digwyddiadau cymdeithasol a mwy.
Crwydro’r ardal leol
Ar ôl i chi weld popeth ar y campws, beth am gymryd rywfaint o amser i grwydro'r ardal leol? Wedi'r cyfan, gallai’r lle fod yn gartref newydd i chi! Edrychwch ar gysylltiadau trafnidiaeth lleol, archfarchnadoedd, a hyd yn oed caffis neu gampfeydd - buan iawn y cewch flas ar awyrgylch y gymuned y gallech chi fod yn ymuno â hi.
Mae gan ein tudalennau lleoliad rai syniadau ar sut y gallech dreulio eich amser, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych arnynt am ysbrydoliaeth.
Help gyda chostau teithio
I helpu gyda chost eich ymweliad, rydym yn cynnig cefnogaeth ar gyfer treuliadau teithio rhesymol i’r rhai sy’n mynychu ein digwyddiadau.
NEILLTUWCH EICH LLE
Cadwch eich lle ar un o'n diwrnodau agored gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Nid oes angen unrhyw beth wrth law, a dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd i'w gwblhau.
Neilltuwch Eich Lle