Yr Angen Am Sgwrs Nid Gwrthdaro
Mae’r darn isod yn ystyried beth yw sgwrsio, ymgysylltu a gweithio, ar ffurf sgwrs rhwng Tony Hendrickson, a'r Athro Roiyah Saltus.
Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Sut dylwn i gyflwyno Plan4D i PDC?
Sefydlais Plan4D ym mis Ionawr 2020. Mae'r enw [Plan4D] wedi’i seilio ar y syniad o dderbyn ac felly cynllunio ar gyfer amrywiaeth fel agwedd anochel ar grwpiau a sefydliadau. Mae hyn yn newid y ffocws o ddarparu hyfforddiant cydraddoldeb [ddim ond] mewn ymateb i anghydraddoldebau a thangynrychiolaeth. Fy nyhead gyda Plan4D yw creu a/neu gyfrannu mewn ffordd sy'n agor gofodau ar gyfer deialog gynhwysol ddatblygol. Bydd y gofodau hyn yn galluogi unigolion a grwpiau i ddatblygu dulliau cynhwysol yn well drwy ddatblygu deall ac offer gwell i fynd i'r afael â disgwrs ac arferion niweidiol a gwahaniaethol sy’n ymylu pobl. Y bwriad yw archwilio’n rhagweithiol sut rydyn ni’n deall rhagfarn a gwahaniaethu, a chynhwysiant a grym mewn amgylcheddau cyfoes. O ran y gair cyfoes, rwy'n golygu'r cyd-destunau gwleidyddol a chymdeithasol diweddar a chyfredol a bod yn ymwybodol o'n profiadau byw amrywiol a chroestoriadol, lle rhoddir gwerth ar onestrwydd wrth chwilio am ddealltwriaeth.
Sut daethoch chi’n rhan o Grŵp Ymgynghorol Ymchwil Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan PDC (GYYLlECG/EMRAG)?
Rwyf wedi gweithio yn y sectorau cydraddoldeb a datblygu cymunedol ers 20 a mwy o flynyddoedd. Cysylltodd Edward Oloidi, Cynorthwyydd Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Bywyd â fi’n wreiddiol. Roedd Edward yn dod â phobl o PDC ynghyd, ac eraill fel fi oedd â phrofiad o weithio o fewn y maes cydraddoldeb 'hil'. Fe gwrddon ni [ar-lein] i drafod y cynllun EMRAG. O'r drafodaeth hon roeddwn i'n teimlo y byddai'r fenter hon yn rhywbeth y gallwn gyfrannu ato, ac roeddwn yn hapus gwneud hynny.
Pam mae sgwrsio ystyrlon, er mor anodd y mae, mor bwysig?
Boed yn drafodaethau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol ar hunaniaeth, tai, addysg, trosedd, mewnfudo a mynediad at wasanaethau/darpariaeth leol; beth bynnag yw'r drafodaeth, mae’n teimlo’n fwy rhanedig nag a welais erioed [yn ystod fy oes i beth bynnag]. Dydw i ddim yn awgrymu nad oes anghytuno a rhaniadau wedi bodoli o’r blaen, ond mae naws y dadlau’n teimlo’n fwy swnllyd ac yn fwy dig na chynt, gyda phobl yn llai parod nag erioed i ystyried neu newid barn.
Mae'r syniad hwn yn trosi i lawer o sefyllfaoedd [a phynciau]. Yn rhy aml, mae trafod fel petai’n gorfodi pethau i gael eu hystyried naill ai’n iawn neu’n anghywir, o blaid neu yn erbyn, o’r chwith neu o'r dde. Y gwir amdani yw bod materion yn aml yn gymhleth, a gall profiadau sy’n ymddangos yn debyg amrywio mewn ffyrdd pwysig ac arwyddocaol.
Yn aml gall iaith a therminoleg achosi pryder. Mae cyhuddiadau o 'gywirdeb gwleidyddol' ac yn fwy diweddar, 'woke', yn aml yn llesteirio dealltwriaeth o faterion fel rhagfarn, gwahaniaethu, mantais sefydliadol ac anfantais a 'braint'.
Mae ein trafodaethau wedi eu seilio o fewn cyd-destun geo-wleidyddol gorllewinol a byddant yn cydnabod paradeimau gwleidyddol perthnasol, cyfoes, a chyfleoedd a rhwystrau sefydliadol sy'n wynebu ein poblogaethau amrywiol, megis braint/anfantais, hiliaeth/goruchafiaeth wen, rhywiaeth/patriarchaeth, homoffobia/hetero-rywiaeth a senoffobia/cenedlaetholdeb de eithafol. Fodd bynnag, mae ’na haen ar goll. Yn aml mae ystyriaeth o ansicrwydd poblogaethau mwyafrifol, sy'n cael ei ddefnyddio’n rhy aml gan y cyfryngau a llywodraethau i greu a/neu waethygu anghytuno a rhaniadau rhwng gwahanol grwpiau o’r boblogaeth, ar goll o’r trafodaethau hyn.
Sut gallwn ni osgoi syrthio i fagl y dadleuon am iaith briodol ac amhriodol a 'gwirioneddau' sy'n gwrthdaro?
Gellir dadlau bod disgwrs gwleidyddol a disgwrs cyhoeddus ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn galluogi defnydd camarweiniol o iaith ac at ddiystyru 'gwirionedd' pobl eraill. Un o effeithiau hyn yw ei fod yn creu tir ffrwythlon ar gyfer rhethreg sy’n hollti barn, gan arwain at begynnu, casineb a dadleuon [fe ymddengys] na ellir eu datrys. Yr hyn sy'n digwydd yw ei bod yn ymddangos ein bod yn colli'r gallu i wrando ac adfyfyrio ar yr hyn rydyn ni'n ei feddwl a'r hyn mae eraill yn ei ddweud.
Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio sut mae ymarferwyr gwrth-hiliaeth a gwrth-wahaniaethu/o blaid cynwysoldeb yn rhoi cyfleoedd i bobl archwilio dulliau y gallan nhw (ac eraill) ddod at ei gilydd i drafod materion heriol mewn dull adeiladol, nad yw’n ymosodol, ac sy’n gynhyrchiol, gan felly greu ffordd o alluogi dealltwriaeth a thosturi tuag at yr ‘arall’ neu’r ‘eraill’. Mae gwir wrando a cheisio deall safbwynt rhywun arall yn sgil, ac yn un mae’n rhaid i chi fod eisiau ei hymarfer; yn arbennig felly pan fo safbwyntiau’n cael eu hystyried yn groes i'n profiad neu'n cred ein hunain, a phan ystyrir eu bod yn bygwth ein synnwyr o’n hunain, gan gynnwys ein hunaniaeth bersonol a/neu gymdeithasol a’n diogelwch emosiynol. Gall cydnabod hyn fod yn ffordd o wthio heibio i’n rhagfarnau a chynnal ein ffocws ar y mater(ion) mwy.
Sut mae creu gofod lle mae cytundeb ar y rheolau ymgysylltu wrth greu sgwrs a thrafodaeth ar ystod eang o faterion?
Er nad ydw i’n awgrymu y bydd un dull yn addas i bob sefyllfa, mae fy mhrofiad i'n dweud y dylem ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ein barn a'n patrymau meddwl ein hunain [i ddechrau].
- Beth a phwy sydd wedi dylanwadu arnon ni (fel unigolion ac fel grwpiau) i wrando ac ymateb yn y ffordd a wnawn?
- Ydyn ni'n ymwybodol o'r effaith mae ein meddyliau a'n gweithredoedd yn ei chael ar y rhai o'n cwmpas ni a ni ein hunain, yn gadarnhaol ac yn negyddol?
- Allaf i/allwn ni newid i wneud i bobl eraill fy neall/ein deall yn well?
- Allaf i/allwn ni newid i’n helpu i ddeall pobl eraill yn well?
- Beth yw cyfaddawdu go iawn a phryd mae cyfaddawdu'n fuddiol neu pryd y gall adael i faterion fynd heb eu datrys?
- Sut gallwn ni adnabod, rheoli ac ymateb i anesmwythyd yn rhagweithiol?
Gellir defnyddio'r fframwaith hwn yn y cyd-destun hwn i drafod rhagfarn/gwahaniaethu, hiliaeth, senoffobia, diffyg goddefgarwch crefyddol, mudo, y cyfryngau, ac ati. Y canlyniad a ddymunir yw archwilio ffyrdd y gellir trafod y pynciau hyn yn gyfannol. Yn sail i'r fframwaith hwn mae'r awydd i annog golwg fwy ystyriol a thrugarog ar wahaniaethau, sy'n helpu pobl i ymgysylltu’n bersonol â chymdeithas amrywiol. Mae amrywiaeth, yn ei holl agweddau, yn anochel, felly wrth symud yn ein blaen sut mae derbyn hyn fel man cychwyn (a allwn ni?) ac yna cydnabod y manteision a mynd i'r afael â'r heriau y gallai hyn eu cyflwyno.
Mae PDC ar ei thaith ei hun o ail-weithio sut mae'n ymwneud ac yn ymyrryd yn ei harferion a'i phrosesau pob dydd. Mae cydnabod lle mae anghydraddoldeb hil yn bodoli ym mholisïau, arferion a diwylliant PDC yn allweddol i hyn. Pa bethau y byddech chi'n eu rhannu gyda sefydliadau fel PDC o ran sut rydyn ni’n cyfathrebu a dod o hyd i ffyrdd mwy ystyrlon a gwell o ymgysylltu a gwrando?
Byddwn i'n dweud [ar sail fy mhrofiad i] bod creu amgylchedd o wrando a dysgu yn gwbl hanfodol. Yn aml tybir bod pobl sy’n ymroddedig i faniffesto cyffredin i gyd yn ei ddeall ac yn ei ddehongli yn yr un ffordd. Bydd gwahanol ffyrdd o feddwl yn effeithio ar gyfeiriad y daith. Dyna pam mae'n bwysig rhoi cyfleoedd i wirio a gwerthuso cynnydd yn rheolaidd.
- Deall ble a sut mae PDC yn adlewyrchu safbwyntiau'r gymdeithas gyfoes tra'n dal i gadw ffocws ar y newidiadau y mae'n ceisio eu hysgogi;
- Peidio â diystyru profiadau (ac ofnau) y rhai sy'n teimlo eu bod wedi'u heithrio neu eu bod o dan orthrwm, defnyddiwch hynny fel ffordd o fframio'r pwnc tra'n adnabod atebion a chreu consensws;
- Peidio â diystyru profiadau'r rhai sy'n teimlo eu bod yn cael eu barnu am beidio â bod yn gynhwysol – cydnabyddwch nhw ac adnabod atebion;
- Cydnabod y cyd-destunau esblygol lle amlygir gwahaniaeth a thebygrwydd a phan all hyn fod yn fuddiol neu'n broblematig (cydnabod natur ddeinamig hunaniaeth, grwpiau perthyn a grwpiau dieithr). Mae hyn yn cynnwys deall y cymhlethdodau sy'n rhan annatod o gymunedau sydd wedi eu lleiafrifoli a herio diffiniadau gor-syml o hunaniaeth;
- Myfyrio ar sut rydyn ni/gallwn ni siarad am ein gilydd? Pam a phryd mae terminoleg yn bwysig?
Yn olaf, byddwn i'n awgrymu ei bod hi'n bwysig peidio ag ofni'r cymhlethdodau. Dyma lle mae'r dysgu'n digwydd. Yng ngeiriau Brene Brown "stick with the trouble."