Ceisio Goddefgarwch

Meithrin Empathi Ethnoddiwylliannol

Mae Dr Wendy Booth, arweinydd y cwrs Cymdeithaseg ac ymchwilydd mewn polisi cymdeithasol, yn archwilio sut y gellir dysgu goddefgarwch ac empathi ethnoddiwylliannol mewn ystafelloedd dosbarth dinasyddion ysgolion uwchradd.

Mis Hanes Pobl Dduon
Dr Wendy Booth

Mae Dr Wendy Booth wedi ysgrifennu llyfr newydd – Educating for Community Cohesion: Promoting Tolerance and Ethnocultural Empathy – sy'n adeiladu ar ei hymchwil i gydlyniad cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol.

Yma, mae Wendy yn sôn mwy wrthym am ei gwaith.

Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn cynnig cyfle i bob un ohonom feddwl mwy am faterion cyfiawnder, perthyn a'n dyfodol cyfunol. Mewn eiliad a gaiff ei diffinio gan fudiadau byd-eang dros gydraddoldeb, mae Mis Hanes Pobl Ddu yn parhau’n hanfodol – nid dim ond fel mis i gofio, ond fel gwahoddiad i drawsnewid ein dealltwriaeth o gymuned a herio rhagdybiaethau sy'n parhau i’n gwahanu.

Fel darlithydd ac ymchwilydd, mae pobl yn gofyn i mi'n aml a yw'n bosibl addysgu pobl ifanc i fod yn fwy goddefgar ac empathetig, yn enwedig yng nghyd-destun hil, ffydd a chefndir. Fy ateb i, yn sgil ymchwil a gwaith uniongyrchol mewn ystafelloedd dosbarth, yw ydy.

Torri Cylch y Grwpiau Mewnol a'r Grwpiau Allanol

Mae'n ymddangos bod cymdeithasau dynol yn ymateb i wahanu yr un mor hawdd ag y maen nhw i undod. O’r iard chwarae i'r senedd, mae'r duedd i ffurfio grwpiau mewnol a grwpiau allanol (lle caiff "ni" ei ddeall a "nhw" eu beirniadu) yn parhau’n her ystyfnig. Mae'r ddeinameg hon yn effeithio arnon ni i gyd, ac mae'n bwysig ei thrafod yn ystod blynyddoedd cynnar yr arddegau, pan fydd pobl ifanc yn ffurfio hunaniaethau ac yn dod i delerau â'r teimlad o berthyn.

I addysgwyr, yr her yw torri'r cylchoedd hyn, gan annog dysgwyr i ystyried sut mae eu profiadau a'u rhagdybiaethau yn cael eu ffurfio gan rymoedd ehangach. Mae hunan-fyfyrio'n ganolog i hyn: gofyn sut deimlad yw cerdded yn esgidiau rhywun arall, yn arbennig y rhai sydd wedi wynebu ymyleiddiad, dadleoli neu anghyfiawnder. Nid yw arddel safbwynt mor empathig yn gallu dileu pob rhwystr, ond mae'n gosod sylfaen ar gyfer adeiladu cymunedau ar sail parch, yn hytrach nag ofn.

Llwybr i Addysg

Drwy fy ymchwil yn PDC, ac mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd, rwyf wedi datblygu'r adnoddau TEEMA (Goddefgarwch ac Empathi Ethnoddiwylliannol i sicrhau Derbyniad Cyffredinol). Mae'r pecyn cymorth hwn yn dangos i ddisgyblion realiti gwahaniaethau a pherthyn, gan ddefnyddio seicoleg gymdeithasol a chymdeithaseg i archwilio pynciau o safbwynt grwpiau mewnol/grwpiau allanol i rym ieithyddol a dylanwad y cyfryngau. Mewn dwy ysgol Gymraeg wrthgyferbyniol, dangosodd ymchwil bod dulliau addysgu wedi'u targedu a myfyriol yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gyda’r disgyblion a gymerodd ran yn dangos gwell ymwybyddiaeth o ragfarn, mwy o brosesau meddwl yn feirniadol, a ffurfiau mwy datblygedig o empathi.

Y fframwaith allweddol sy'n sail i'r gwaith hwn yw gwahaniaethu rhwng goddefgarwch 'main' a 'thrwchus’. Mae goddefgarwch main yn gofyn am gydfodolaeth ddiogel - "mae ar bawb eisiau byw". Mae goddefgarwch trwchus, i’r gwrthwyneb, yn cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth fel ffynhonnell o nerth a dysgu ar y cyd. Mae fy ymchwil yn awgrymu bod cwricwlwm seiliedig ar ddinasyddiaeth sydd wedi'i gynllunio gydag empathi a chydraddoldeb wrth ei wraidd yn gallu helpu i symud ysgolion ar hyd y continwwm hwn, gan ddatblygu nid yn unig gwybodaeth am wahaniaeth, ond chwilfrydedd, didwylledd, a pharch go iawn. Yn y cyd-destun gwleidyddol cyfredol, mae hyd yn oed ffurf fain o oddefgarwch yn fuddiol o'i gymharu â'r anoddefgarwch rydym yn ei gweld nawr ar y strydoedd a'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn ein hatgoffa bod gan addysg gyfrifoldeb hollbwysig: nid yn unig i gofio'r gorffennol, ond i lunio'r dyfodol. Gall adnoddau fel TEEMA, ac ymrwymiad i empathi fel ymarfer, yn hytrach na digwyddiad untro, gefnogi ysgolion, colegau a phrifysgolion i ddod yn fannau lle mae stori pob myfyriwr yn cael ei gwerthfawrogi, a lle mae dealltwriaeth yn cael ei wreiddio y tu hwnt i ddrysau’r ystafell ddosbarth. Fel rhywun sy'n poeni go iawn am gyfiawnder ym myd addysg, rwy'n gobeithio y gall y themâu a'r adnoddau a gaiff eu datblygu drwy'r gwaith hwn ysbrydoli addysgwyr, dylunwyr cwricwlwm, a myfyrwyr eraill. Os ydym am wneud cynnydd yn erbyn y llifeiriant o wahanu ac anoddefgarwch, mae angen mwy na bwriadau da arnom - mae angen cyfleoedd strwythuredig i addysgu, modelu, a myfyrio ar yr hyn y mae perthyn yn ei olygu, a hynny gyda'n gilydd.