Windrush75
Mae Suzanne Duval yn arbenigwr iechyd meddwl, arweinydd cymhwysedd diwylliannol, ac actifydd cyfiawnder cymdeithasol. Yma mae'n siarad â'r Athro Roiyah Saltus am Windrush 75.
Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Sut ddylwn i eich cyflwyno a beth yw eich cysylltiad â PDC?
Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 1957. Fi yw’r trydydd o saith o blant, wedi fy magu mewn teulu un rhiant gan fam Ddu yn Nhrelái. Dylai cael y cefndir hwn fy nodi i a fy nheulu fel pobl 'dim gobaith' sy'n gadael ysgol, cyrhaeddiad addysgol isel, di-waith/anghyflogadwy, rhieni ifanc di-briod, trafferth gyda'r gyfraith ac ati, ond rydym i gyd wedi torri'r stereoteip o beth byddai 'eraill' wedi ein labelu ni.
Rwy'n gweithio yn Diverse Cymru, yr elusen pan-gydraddoldeb sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy’n wynebu anghydraddoldeb a gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Ffurfiwyd Diverse Cymru o uno ag Awetu Black Mental Health, elusen lle bûm yn rheolwr am 10 mlynedd a Chlymblaid Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro. Fi yw Rheolwr (Polisi) Iechyd Meddwl a Dementia Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Rwyf wedi gweithio yn y maes iechyd meddwl am yr 21 mlynedd diwethaf a gyda dementia am y tair blynedd diwethaf. Mae fy niddordebau hefyd yn cynnwys anabledd dysgu yn y meysydd hynny.
Rwy’n gyfrifol am reoli prosiectau mawr, mynd i’r afael ag ymyrraeth gynnar, anghydraddoldeb a chymorth i oedolion, pobl hŷn, plant a phobl ifanc o ran iechyd meddwl, dementia, ac anableddau dysgu o fewn cymunedau amrywiol Cymru. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, pob un o’r saith Bwrdd Iechyd, a’r prif elusennau / sefydliadau iechyd meddwl, dementia, hunanladdiad, a hunan-niwed ac anabledd dysgu yng Nghymru i gynrychioli safbwyntiau a materion Du, Asiaidd ac Anabledd Dysgu.
Rwyf wedi ysgrifennu’r Pecyn Cymorth Cymhwysedd Diwylliannol cyntaf i Gymru. Offeryn datblygu gweithle yw hwn ar gyfer sefydliadau sy'n ceisio datblygu a gweithredu arferion da i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir ganddynt i'n cymunedau amrywiol yn ddiwylliannol gymwys, yn deg ac yn gyfiawn. Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Fy nghysylltiad â PDC yw bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y pecyn cymorth wedi’i gwreiddio mewn sawl astudiaeth a gynhaliwyd gyda chydweithwyr PDC.
Beth mae Windrush 75 yn ei olygu i chi?
A siarad fel Cymraes Ddu, mae'n wirioneddol bwysig, yn enwedig y dathliad eleni. Daeth pobl o'r Caribî yma bron i ganrif yn ôl yn benodol i helpu i ailadeiladu'r genedl, i wneud cyfraniad sylweddol. Gwn nad oedd yn hawdd i lawer ohonynt. Yna, cafwyd y sgandal Windrush mwy diweddar. Gydag ymgais Llywodraeth y DU i wneud cymdeithas Prydain yn amgylchedd gelyniaethus, gan wneud i bobl o’r genhedlaeth hon o ymfudwyr golli eu swyddi, cael eu halltudio a pheidio â thalu fawr ddim sylw i’w cyfraniad a’u hawl i fod yma. Y ffaith yw bod y polisïau hyn yn effeithio'n negyddol ar fywydau pob person Du, gan gynnwys y rhai a aned yma. Felly, mae’n bwysig achub ar bob cyfle i gydnabod eu rhan a’u rôl yn y gwaith o lunio’r wlad hon. Cymraes Ddu ydw i, a gallaf olrhain fy llinach i Affrica, ond rwy’n rhan o’r darlun ehangach hwn sy’n cynnwys cenhedlaeth y Windrush a’r Caribî. Rwy'n rhan ohono.
Pam wnaethoch chi benderfynu trefnu gorymdaith Windrush?
I mi mae'r orymdaith yn ffordd o ddathlu. Undod yw dathlu a dod â phobl ynghyd – pobl dduon a chynghreiriaid – a gorymdeithio er mwyn i ni allu dangos yn gyhoeddus pa mor falch ydyn ni ohonyn nhw. Mae fel cael carnifal. Felly dyna pam y dechreuais gymryd rhan. Daeth y syniad i fodolaeth oherwydd fy mod yng ngorymdaith Pride y llynedd a gwnaeth hynny i mi feddwl efallai y dylem fod yn gorymdeithio ar gyfer cenhedlaeth Windrush. Hefyd, pan gyrhaeddodd cenhedlaeth Windrush Brydain o’r Caribî, daethant â chelf, cerddoriaeth ac ysgrifennu a fyddai’n trawsnewid diwylliant Prydain am byth. Fodd bynnag, yn aml nid yw gwaith pobl y Caribî a'u cyfraniad at gelfyddyd a diwylliant Prydain yn cael ei gydnabod yn aml. Felly eto, gadewch i ni fod yn falch a gweiddi amdano.
Beth ydych chi'n meddwl y gall sefydliadau fel PDC ei gymryd oddi wrth ddigwyddiadau cenedlaethol fel Windrush 75?
Gallant ddod o hyd i ffyrdd o weithredu ar y cyd! Mae gan brifysgolion rôl enfawr i'w chwarae wrth lunio ein dyfodol. Mae angen iddynt allu nid yn unig ddod o hyd i ffyrdd o gyflwyno agenda gwrth-hiliaeth fel cyrff cyhoeddus, ond hefyd i ddod i adnabod a chefnogi'r rhai o dras Garibïaidd ac Affricanaidd - staff a myfyrwyr. Mae’n rhan o’u gwasanaeth craidd ac mae’n bryd i brifysgolion wthio’r agenda cyfiawnder cymdeithasol yn ei blaen. Nid yw cymryd safbwynt 'niwtral' bellach yn bosibl.