Effaith Ein Gwaith

Prifysgol Noddfa

Mae Prifysgol De Cymru yn un o ddim ond dau sefydliad AU yng Nghymru sydd i ennill statws Prifysgol Noddfa, ac mae'n ymuno â 14 o Brifysgolion Noddfa eraill yn y DU.

Amdanom ni Effaith Ein Gwaith
A woman wearing a hijab is sat writing notes at a desk and smiling.

Mae hyn yn gydnabyddiaeth o ymrwymiad y Brifysgol i greu diwylliant o groeso i bobl sy’n ceisio noddfa yn ei champysau a thu hwnt.


Wrth i fwyfwy o bobl gael eu gorfodi i ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth ledled y byd, sefydlwyd cynllun Prifysgol Noddfa yn 2017 gan elusen genedlaethol City of Sanctuary sy’n gweithio i ddarparu lleoedd diogel i bawb.

Mae City of Sanctuary wedi partneru ag Article 26 – prosiect sydd â’r nod o gynorthwyo myfyrwyr a geisiodd noddfa ym Mhrydain i dderbyn addysg uwch a llwyddo yn eu hastudiaethau – Student Action for Refugees a sefydliadau eraill i ddatblygu rhwydwaith Prifysgolion Noddfa.

Nod y cynllun yw ysbrydoli a chynorthwyo prifysgolion i fabwysiadu diwylliant ac arferion o groeso oddi mewn i’w sefydliadau eu hunain, yn eu cymunedau ehangach, a ledled sector Addysg Uwch Prydain. 

Mae statws Prifysgol Noddfa PDC yn ategu Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru, sef y cam diweddaraf tuag at uchelgais Cymru i fod yn genedl noddfa i bawb sy’n dymuno ymgartrefu yma.