CENHADAETH DDINESIG
Mae gweithio gyda'r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt yn rôl allweddol Prifysgol De Cymru, ac rydym yn angerddol dros wneud gwahaniaeth.
Amdanom ni Effaith Ein GwaithMae cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn cydweithio â gwleidyddion, llunwyr polisi, grwpiau cymunedol a sefydliadau diwylliannol i annog y bobl rydym mewn partneriaeth â nhw i gymryd rhan mewn sgyrsiau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol.
Drwy'r partneriaethau hyn, ein nod yw gwella lles pobl Cymru a'r rhai tu hwnt i'w ffiniau ymhellach. Dan arweiniad Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), rydym yn llywio'r datblygiad mewn arweinyddiaeth ddinesig ranbarthol a chenedlaethol, gan ganolbwyntio'n benodol ar arloesi cymdeithasol.
Ein ffocws yw:
- Gweithio'n agos gyda sefydliadau dinesig, gan ddefnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau i gyflawni trawsnewid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd
- Datblygu cysylltiadau ag ysgolion i helpu i godi safonau addysg yng Nghymru
- Annog dinasyddiaeth weithgar drwy weithio gydag aelodau o'r gymuned i ddatblygu arweinyddiaeth a chydweithio
- Hyrwyddo arloesi drwy ddod ag ymchwil yn agosach at y bobl, cefnogi busnesau a chreu swyddi.
Trawsnewid tirwedd ddiwylliannol Cymru
Mae'r Ganolfan Astudio'r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, sydd wedi'i lleoli yn ein Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, yn rhannu straeon am greadigrwydd cymunedau ledled Cymru, ac yn tynnu sylw at sut mae'r diwydiannau creadigol yn Ne Cymru yw'r 'glo a dur' newydd.
Mae'r Ganolfan yn gwneud hyn drwy:
- llunio sut mae Cymru'n cael ei chynrychioli gartref a thramor
- cefnogi cyrff cenedlaethol gyda strategaethau creadigol, dewisiadau artistig, a rhaglennu yn y dyfodol
- cynnig ffyrdd o ymgysylltu drwy gelf, perfformiad, ac ymchwil, sy'n dylanwadu ar ddiwylliant a chreadigrwydd Cymru.
Deall hanes masnach fyd-eang Cymru
Mae’r Athro Chris Evans yn gweithio gydag actifyddion cymunedol mewn cynllun Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i dynnu sylw at gyfraniad Cymru at system gaethweision yr Iwerydd.
Mae ei brosiect wedi canolbwyntio ar y berthynas sydd gan bobl Cymru â'r rhai a ddioddefodd erchyllterau caethwasiaeth, hanes masnach fyd-eang Cymru, a sut y gwisgwyd tecstilau a gynhyrchwyd yma gan weithwyr caethweision yn yr 17eg a'r 18fed ganrif.
Y Gwaith:
- archwilio'r broses o gynhyrchu, masnachu a defnyddio brethyn gwlân 'plaen' sef 'Welsh Plains' neu 'Negro Cloth'
- gwella dealltwriaeth y cyhoedd o'r cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a chaethwasiaeth yr Iwerydd
- dod â gweithwyr crefft cyfoes a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol at ei gilydd
- codi ymwybyddiaeth o'r fasnach i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol drwy gynnwys naratifau rhyng-hil yn stori Cymru.
Cefnogi iechyd a lles yn y gymuned
Gall niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol (ARBD) gael effeithiau niweidiol, gan effeithio ar iechyd meddyliol a chorfforol y rhai sy'n camddefnyddio alcohol.
Fodd bynnag, nid oedd unrhyw ffordd safonol o ddiagnosio ARBD, na mesur ei effaith.
Gweithiodd Grŵp Ymchwil Caethiwed PDC, dan arweiniad yr Athro Gareth Roderique-Davies a'r Athro Bev John, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau'r trydydd sector i safoni diagnosis ARBD.
Mae eu gwaith, a wnaed oherwydd diffyg cyllid ar gyfer gwasanaethau adsefydlu ARBD, yn enghraifft bwerus o sut y gall ymchwil academaidd gefnogi iechyd a lles y gymuned yn weithredol.
Mae dwy ran i effaith y prosiect:
- mae'n galluogi clinigwyr i wneud penderfyniadau gwybodus, seiliedig ar dystiolaeth wrth ddewis profion ar gyfer ARBD
- mae'n amlygu cyffredinrwydd y cyflwr, sydd yn ei dro yn annog gwasanaethau i flaenoriaethu ARBD a chefnogi sefydliadau sy'n helpu'r rhai sy'n byw gyda'r cyflwr.
Hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol yn ein cumunedau
Mae Prifysgol De Cymru yn un o ddim ond dau sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru i ennill statws Prifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad y Brifysgol i greu diwylliant o groeso i bobl sy’n ceisio noddfa o fewn, a thu hwnt, i’w champysau.
Mae Dr Mike Chick, fel Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, yn gwneud gwaith hanfodol i wella’r ddarpariaeth o gyrsiau Saesneg i’r rhai sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
Mae'r gwaith hwn yn:
- helpu i gynyddu dealltwriaeth o anghenion ffoaduriaid
- yn amlygu’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad i addysg a chyflogaeth.
Mae Dr Chick yn nodi’r cymorth sydd ar waith ac yn nodi anghenion y dysgwyr drwy edrych ar eu cefndir addysgol, lefelau iaith, cymwysterau proffesiynol, a’u dyheadau cyflogaeth. Drwy hyn, mae’n anelu at sefydlu rhaglenni ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) sy’n darparu ar gyfer anghenion pob person, ac yna cynyddu’r ddarpariaeth Saesneg i ffoaduriaid ledled Cymru.