CYNLLUN NODDFA FFOADURIAID ÔL-RADDEDIG
Mae Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Ôl-raddedig Prifysgol De Cymru yn cynnig cymorth i nifer cyfyngedig o ffoaduriaid cymwys drwy hyfforddiant Saesneg rhad ac am ddim cyn dechrau cwrs ôl-raddedig yn y Brifysgol.
Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Bydd y bwrsariaethau'n cael eu dyrannu yn nhrefn dyddiad cwblhau'r cwrs a cheisiadau am fwrsariaeth, ac unwaith y bydd pob un wedi'i ddyrannu, bydd y cynllun yn cau.
Sylwch y gallai astudio’n amser llawn gael effaith ar eich cymhwysedd i gael budd-daliadau gan lywodraeth y DU. Fe’ch cynghorir i gysylltu â Chyngor Ffoaduriaid Cymru os oes angen rhagor o gyngor arnoch ynghylch hyn.
- Bydd Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Ôl-raddedig Prifysgol De Cymru yn talu’r ffioedd dysgu llawn ar gyfer y Rhaglen Saesneg Cyn-sesiynol o 10 wythnos neu lai i ymgeiswyr cymwys.
- Bydd Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Ôl-raddedig Prifysgol De Cymru hefyd yn talu am gost prawf Asesu Iaith Saesneg drwy Ganolfan Saesneg Rhyngwladol y Brifysgol os oes angen.
- Bydd ymgeiswyr yn cael arweiniad, lle bo angen, yn y broses o wneud cais am gwrs gan adran Ymholiadau a Derbyniadau’r Brifysgol.
- Os hoffech gael cymorth ynghylch sut i wneud cais am gwrs, cysylltwch â’r adran dderbyniadau yn y Brifysgol drwy ffonio 01443 655450 neu anfon neges e-bost at [email protected].
Bydd cefnogaeth ymarferol ar gael gan Dîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr y Brifysgol i gynorthwyo ceisiadau am gyllid Meistr ôl-raddedig.
I gael eich ystyried ar gyfer y cymorth ychwanegol hwn, rhaid i chi:
- Gael eich asesu gan adran Ymholiadau a Derbyniadau'r Brifysgol fel ffoadur, ar ôl cael caniatâd o dan Gynlluniau Wcráin (Cynllun Teuluoedd Wcráin, Cynllun Nawdd Cartrefi i Wcráin a Chynllun Ymestyn Wcráin), ar ôl cael caniatâd y tu allan i'r Rheolau Mewnfudo am reswm sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro yn Wcráin, neu’n unigolyn sydd wedi cael caniatâd o dan Bolisi Adleoli a Chymorth Afghanistan (ARAP) neu Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan (ARCS) neu sydd wedi cael Gwarchodaeth Ddyngarol o ganlyniad i Gais Lloches ac felly yn gymwys i dalu cyfradd ffioedd cartref y DU.
- Cael eich asesu gan Dîm Mewnfudo a Chyngor Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol fel ffoadur, ar ôl cael caniatâd o dan Gynlluniau Wcráin (Cynllun Teuluoedd Wcráin, Cynllun Nawdd Cartrefi i Wcráin a Chynllun Ymestyn Wcráin), ar ôl cael caniatâd y tu allan i'r Rheolau Mewnfudo am reswm sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro yn Wcráin, neu’n unigolyn sydd wedi cael caniatâd o dan Bolisi Adleoli a Chymorth Afghanistan (ARAP) neu Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan (ARCS) neu sydd wedi cael Gwarchodaeth Ddyngarol o ganlyniad i Gais Lloches gyda'r hawl i astudio yn y DU.
- Bod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr y DU gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr drwy gydol y cwrs Meistr (os oes gennych gymhwyster lefel Meistr yn barod, gallai hyn eich atal rhag cael cymorth llawn. Cysylltwch â ni am gyngor os mai dyna’r sefyllfa. Gweler y manylion cysylltu isod).
- Bod wedi gwneud cais i astudio gradd Meistr a addysgir ym Mhrifysgol De Cymru.
- Cael eich derbyn ar Raglen Iaith Saesneg Cyn-sesiynol ym Mhrifysgol De Cymru cyn dechrau eich cwrs Meistr.
- Derbyn cynnig y Brifysgol o le ar y cwrs o’ch dewis a’r cwrs Saesneg Cyn-Sesiynol ar sail gadarn.
Anfonir neges e-bost atoch yn cynnwys dolen i ffurflen gais ar-lein ar ôl i chi gael cynnig lle ar gwrs. Bydd y neges e-bost yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad e-bost a restrir ar eich cais i'r Brifysgol.
Bydd y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn rhoi gwybod i chi eich bod yn gymwys drwy e-bost, gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a restrir ar ffurflen gais y cynllun. Ein nod yw anfon neges e-bost atoch i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law o fewn deg diwrnod gwaith. Bydd yr e-bost hefyd yn cynnwys manylion am y broses o wneud penderfyniadau.
Mae gan bob myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ynghylch eu cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Noddfa Ffoaduriaid. Gweler y Broses Apelio Ysgoloriaeth / Bwrsariaeth i gael rhagor o fanylion.
Manylion Cyswllt
Os yw eich ymholiad yn ymwneud â'r broses ymgeisio ar gyfer y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau a Derbyniadau Myfyrwyr:
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 01443 655450
Os yw eich ymholiad yn ymwneud â'ch sefyllfa mewnfudo neu os ydych yn gymwys i astudio fel ceisiwr lloches, cysylltwch â'r Tîm Cyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol a Mewnfudo:
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 01443 482083
Os yw eich ymholiad yn ymwneud â'r Cynllun Noddfa Ffoaduriaid, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr:
E-bost: [email protected]
* Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar y sail y gallent newid, os bydd newidiadau i'r drefn cymorth i fyfyrwyr a ffioedd sy'n berthnasol yng Nghymru. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.