10 Mlynedd o Effaith
Eleni, mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn nodi 10 mlynedd o gael effaith mewn llawer o wahanol ffurfiau - o effeithio ar bobl, cymunedau a pholisïau, i bartneriaid ac economïau.
Amdanom ni Effaith Ein GwaithErs mis Ebrill 2013, wedi’i phweru gan 182 o flynyddoedd o hanes, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i greu newid cadarnhaol a chael effaith gwirioneddol a deimlir y tu allan i’n hadeiladau campws, ar draws De Cymru, ac ymhellach i ffwrdd.
Mae ein myfyrwyr wedi cael eu cefnogi a’u hannog, sy’n golygu eu bod yn graddio nid yn unig â gradd, ond hefyd â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wynebu unrhyw heriau y gallai’r byd eu taflu atynt. Rydym yn cael ein cydnabod fel sefydliad croesawgar, cynhwysol a chyfrifol, sy’n meithrin cysylltiadau cryf ag ystod amrywiol o grwpiau yn rhanbarth De Cymru. Rydym yn bartner strategol yr ymddiriedir ynddo, yn gweithio gyda diwydiant i gyd-gynhyrchu cyrsiau sy’n helpu i greu swyddi’r dyfodol. Mae ein hymchwil wedi bod yn allweddol o ran dylanwadu a chyfrannu at newid cymdeithasol mewn llawer o feysydd. Rydym wedi bod yn ased allweddol i fusnesau ledled y rhanbarth, gan gyfrannu £1.1 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn.
Ein Hanes
Sefydlwyd PDC yn swyddogol ym mis Ebrill 2013, ond adeiladwyd sylfeini'r brifysgol fwy na 180 mlynedd yn ôl. Rydym mor falch o bopeth yr ydym wedi'i gyflawni yn PDC ers hynny. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, rydym newydd ddechrau.