Effaith Ein Gwaith

10 Mlynedd o Gael Effaith ar Gymunedau

Yn PDC, rydym yn ymroddedig i wella lles, cefnogi sefydliadau, ac estyn croeso cynnes i bobl sy'n ceisio noddfa.

Effaith Ein Gwaith Amdanom ni
Members of Urban Circle gathered around a film camera.

Prifysgol Noddfa

O ddarparu gwersi Saesneg am ddim i gynnig ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig, mae PDC yn gweithredu atebion ymarferol i gefnogi ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio noddfa.

Mae ymchwil gan Dr Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, wedi helpu i wella mynediad at addysg Saesneg ar gyfer ymfudwyr gorfodol yn Ne Cymru ac wedi llywio polisi’r llywodraeth ar ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill).

Mae Cynllun Noddfa i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn PDC yn galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at hyfforddiant a pharatoadau iaith cyn dechrau eu gradd.

Gall academyddion o Syria, sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u mamwlad, gael mynediad o bell at gymorth llyfrgell y Brifysgol ac maent yn meithrin cysylltiadau ag academyddion PDC. Mae'r cynllun Cymrodyr hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth â'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA).

Darganfod mwy o wybodaeth am Brifysgol Noddfa

Urban Circle

Mae cymuned wrth galon PDC, ac mae ei phartneriaeth ag Urban Circle yn sicrhau bod cymunedau amrywiol ar draws De Cymru yn cael eu cefnogi.

Sefydlwyd y sefydliad celfyddydau ieuenctid yng Nghasnewydd gyda’r nod o ymgysylltu, cefnogi a grymuso pobl ifanc a chymunedau.

Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth PDC gyda Urban Circle yn cefnogi recriwtio myfyrwyr a digwyddiadau cymunedol, yn ogystal â chyflwyno darlithoedd gwadd i fyfyrwyr PDC, darparu cyfleoedd lleoliad gwaith i fyfyrwyr, a chymorth gydag adnoddau, deunyddiau a gweithdai gwrth-wahaniaethu.

Mae PDC a Urban Circle hefyd yn cydweithio â sefydliadau cymunedol eraill ar draws Casnewydd a’r rhanbarth i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth fel rhan o fentrau dinesig ehangach.
Mae’r bartneriaeth wedi cael ei chanmol gan arolygwyr addysg Estyn, gan amlygu’r manteision a ddaw yn ei sgil i elusennau a’r rhai y maent yn eu cefnogi, yn ogystal â staff a myfyrwyr PDC.

Darganfod mwy o wybodaeth am ein partneriaeth ag Urban Circle