10 Mlynedd o Gael Effaith ar Bartneriaid
Rydym yn ymchwilio ac yn arloesi i fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mwyaf, gan roi sgiliau a phrofiadau i fyfyrwyr na ellir eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Amdanom ni Effaith Ein Gwaith/prod01/channel_2/media/misc-screen-alliance-wales.jpg)
Screen Alliance Wales
Mae ein partneriaethau gyda diwydiant yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a phrofiad na ellir eu haddysgu mewn ystafell ddosbarth.
Mae un bartneriaeth o’r fath, rhwng PDC a Screen Alliance Wales, yn galluogi myfyrwyr i weithio ar gynyrchiadau teledu a ffilm blaenllaw.
Ers i’r bartneriaeth ddechrau yn 2019, mae myfyrwyr a graddedigion PDC wedi gweithio ar ffilmiau a chyfresi arobryn yn Bad Wolf Studios Caerdydd, gan gynnwys His Dark Materials ac A Discovery of Witches. Mae cannoedd yn fwy o fyfyrwyr wedi elwa o deithiau tu ôl i'r llenni a chwrdd â thimau cynhyrchu.
Bydd prosiect newydd yn gweld PDC yn arwain partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor a Screen Alliance Wales, i greu tair Academi Sgrin newydd yn Greatpoint Seren Studios yng Nghaerdydd, Dragon Studios ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac Aria Studios ar Ynys Môn, i gyflwyno’r sgiliau, addysg, a hyfforddiant i bobl ddilyn gyrfa ym myd ffilm a theledu.
Mae PDC yn gweithio’n agos gyda Screen Alliance Wales i nodi pa sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant, gan alluogi PDC i ddarparu’r addysg orau, gan helpu i ddiogelu’r diwydiant at y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth gyda Screen Alliance Wales
Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol (NDEC)
Mae PDC, sydd wedi ennill Prifysgol Seiber y Flwyddyn pedair gwaith, yn gweithio’n agos gyda busnesau i annog a datblygu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr yn y diwydiant seiber.
Gan weithio gyda Thales a Llywodraeth Cymru, mae PDC yn arwain y maes addysg yn y Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol (NDEC) yng Nglynebwy. NDEC yw’r cyfleuster ymchwil a datblygu cyntaf o’i fath yng Nghymru, gan ddarparu sylfaen i fusnesau bach a chanolig a microfusnesau brofi a datblygu cysyniadau digidol.
Mae arbenigwyr o PDC yn helpu i ysbrydoli pobl ifanc o gymunedau lleol a’u hannog i ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch, i lenwi’r prinder sgiliau yn y sector hwn. Trwy weld y dechnoleg yn gweithio, a chael profiad o gyfleuster NDEC, nod y rhaglen yw codi dyheadau pobl ifanc, gyda llawer yn dod o gefndiroedd difreintiedig.
Mae'r rhaglen weithgaredd hefyd yn ceisio helpu i fynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng y rhywiau yn y diwydiant, gan ennyn diddordeb merched mewn pynciau STEM yn ifanc iawn a dangos posibiliadau ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol iddynt.