Effaith Ein Gwaith

10 Mlynedd o Gael Effaith ar Bobl

Yn PDC, cewch fwy na gradd. Rydym yn cynnig cyfoeth o brofiad a chefnogaeth i fyfyrwyr, graddedigion a staff.

Amdanom ni Effaith Ein Gwaith
Alumni, Dezire Mambule, sat in front of red backdrop smiling looking at the ceiling

Stori Dezire

Mae PDC yn darparu mwy na gradd yn unig, gan gynnig profiad gwaith, cymorth, a chymuned i bob myfyriwr.

Er nad oedd yn siŵr a fyddai byth yn mynd i’r brifysgol, graddiodd Dezire Mambule BA Anrhydedd Cymhwyso a Datblygu Cyfrifiadurol yn 2020 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, gan gredydu hyn i’r gefnogaeth a ddarparwyd gan PDC. I Dezire, rhoddodd PDC yr offer yr oedd eu hangen arno i feddwl ar ei draed a bod mor hyblyg â phosibl.

Parhaodd y gefnogaeth gan PDC ar ôl i'w gwrs ddod i ben ac yr oedd yn chwilio am waith. Fe wnaeth e-bost gan dîm Springboard+ PDC ei ysgogi i wneud cais am interniaeth fel datblygwr meddalwedd yn PDC. Ar ôl cwblhau ei interniaeth chwe mis cynigiwyd swydd barhaol iddo yn nhîm TG y Brifysgol.

Mae PDC yn falch o groesawu llawer o gyn-fyfyrwyr yn ôl fel interniaid, ôl-raddedigion a staff.

Stori Joseph

Anogir myfyrwyr yn PDC i sylweddoli eu gallu i helpu i ehangu eu cyfleoedd ar ôl graddio.

Roedd Joseph Thomas yn cael trafferth yn yr ysgol ac nid oedd ganddo synnwyr cyfeiriad. Yn bwythwr brwd, cafodd ei ddenu i BA Dylunio Ffasiwn yn PDC oherwydd ei ffocws ar foeseg a chynaliadwyedd.

Ar ôl ymuno â'r Brifysgol, roedd yn teimlo ei fod yn cael ei ddeall yn syth gan y tiwtoriaid a'i fod yn gallu defnyddio'r cyfleusterau stiwdio oedd ar gael. Teimlai Joseph, sydd ag awtistiaeth, ei fod yn cael ei gefnogi gan ei ddarlithwyr, a sefydlodd ei frand ei hun yn ei ail flwyddyn, Haus of Androgyny - dewis o ddillad di-ryw gyda ffocws ar gynwysoldeb. Dechreuodd weld ei awtistiaeth fel rhywbeth y gallai ei sianelu i mewn i'w frand, yn hytrach na rhywbeth a oedd yn ei atal rhag cyflawni llwyddiant.

Helpodd PDC i roi'r hyder i Joseph gyflwyno ei waith ac ehangu ei rwydwaith. Bellach mae’n gobeithio datblygu ei frand, ac mae’n canolbwyntio ar gynhyrchu darnau creadigol, wedi’u gwneud yn dda i frenhinoedd a breninesau drag ar draws y wlad.