Effaith Ein Gwaith

10 Mlynedd o Gael Effaith ar Bolisi

Yn PDC, rydym yn dylanwadu ar newid, ac yn darparu atebion i'r heriau a wynebir mewn bywyd bob dydd.

Amdanom ni Effaith Ein Gwaith
A tractor tending to crops with machinery in a large field.

Niwed i’r Ymennydd yn Gysylltiedig ag Alcohol (ARBD)

Yn PDC, mae academyddion wrthi'n ymchwilio yn eu sectorau ac yn dylanwadu ar newid mewn bywyd bob dydd.

Mae gwaith yr Athro Bev John a’r Athro Gareth Roderique-Davies wedi arwain at well dealltwriaeth o niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol (ARBD), gan ddylanwadu ar arfer proffesiynol a pholisi’r llywodraeth.

Gall ARBD, y gellir ei drin, amharu ar y cof, meddwl, cynllunio a rhesymu, ac achosi newidiadau mewn ymddygiad. Mae'r symptomau hyn yn debyg i arwyddion o ddementia ac yn aml gellir eu camddiagnosio.

Gan weithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr dibyniaeth eraill, mae eu hymchwil wedi arwain at ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol cyntaf o’i fath ar gyfer ARBD.

Datblygodd yr ymchwilwyr hyfforddiant hefyd ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda'r rhai sydd mewn perygl o gael ARBD. Yn y gymdeithas dai nid-er-elw, Grŵp Pobl, derbyniodd mwy na 1000 o aelodau staff yr hyfforddiant. O ganlyniad, fe wnaethant adrodd am ymwybyddiaeth gynyddol o ARBD a hyder wrth gefnogi unigolion â'r cyflwr.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cymeradwyo’n swyddogol waith y Brifysgol tuag at godi ymwybyddiaeth o ARBD a thriniaeth ar ei gyfer.

Canolfan Rhagoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig

Mae Canolfan Rhagoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig yn PDC yn helpu i roi newidiadau arloesol ar waith i ailgylchu gwastraff organig yn gynaliadwy yn y DU, Ewrop, ac yn rhyngwladol.

Mae treulio anaerobig yn diraddio gwastraff organig tra'n caniatáu i fio-nwyon gael eu casglu fel rhan o'r broses, yn ogystal â maetholion y gellir eu defnyddio i wneud gwrtaith.

O ganlyniad i ymchwil gan y ganolfan, llwyddwyd i sicrhau arbedion ôl troed carbon o 660,000 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn mewn saith canolfan adfer gwastraff bwyd treulio anaerobig o'r radd flaenaf yng Nghymru. Mae gan Gymru bellach y drydedd cyfradd ailgylchu dinesig uchaf yn y byd.

Mae'r ymchwil hefyd wedi cyfrannu at 93 o weithfeydd treulio anaerobig yn y DU yn gallu cynhyrchu gwrtaith o ansawdd da - sy'n gymwys ar gyfer Tystysgrif Biowrtaith - fel sgil-gynnyrch ailgylchu gwastraff bwyd. Mae'r cynllun hwn yn helpu i roi sicrwydd i ddefnyddwyr, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.

Ymhellach i ffwrdd, mae'r ymchwil wedi helpu i ysgogi cynnydd sylweddol yn y defnydd o weithfeydd treulio anaerobig, er enghraifft ym Malaysia.

Yr Athro Sandra Esteves yw cyd-gadeirydd Cyngor Cynghori Gwyddonol y Gymdeithas Bio-nwy Ewropeaidd, ac mae’r ymchwil yn parhau i fwydo i ddatblygiadau polisi a thechnoleg Ewropeaidd.