Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

CYNLLUN NODDFA FFOADURIAID PRIFYSGOL DE CYMRU

Mae Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Prifysgol De Cymru yn darparu cymorth i nifer cyfyngedig o ffoaduriaid cymwys drwy hyfforddiant Saesneg am ddim am 10 wythnos neu lai cyn dechrau cwrs israddedig yn y Brifysgol. Bydd y bwrsariaethau'n cael eu dyrannu yn nhrefn dyddiad cwblhau'r cwrs a cheisiadau am fwrsariaeth, unwaith y bydd pob un wedi'i ddyrannu, bydd y cynllun yn cau.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ffioedd a Chyllid
Two students picking out books from a bookshelf in the library.

Sylwch y gallai ymgymryd ag astudiaeth amser llawn gael effaith ar eich cymhwysedd i gael budd-daliadau llywodraeth y DU. Fe’ch cynghorir i gysylltu â Chyngor Ffoaduriaid Cymru os oes angen rhagor o gyngor arnoch ar hyn.

SUT MAE'N GWEITHIO?

  • Bydd Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Israddedig Prifysgol De Cymru yn talu’r ffioedd dysgu llawn ar gyfer y Rhaglen Iaith Saesneg Cyn-sesiynol o 10 wythnos neu lai i ymgeiswyr cymwys. 

  • Bydd Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Israddedig Prifysgol De Cymru hefyd yn talu am gost prawf Asesu Iaith Saesneg drwy Ganolfan Saesneg Rhyngwladol y Brifysgol os oes angen.

  • Bydd ymgeiswyr yn cael arweiniad, lle bo angen, yn y broses o wneud cais am gwrs gan adran Ymholiadau a Derbyniadau’r Brifysgol.

  • Bydd hawl gan ymgeiswyr wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol. Noder, os ydych yn gwneud cais i fwy nag un Brifysgol, mae'n ofynnol i chi wneud cais drwy UCAS. Os nad ydych chi’n siŵr pa lwybr i wneud cais am gwrs, cysylltwch ag adran dderbyniadau’r Brifysgol drwy ffonio 01443 655450 neu anfon neges e-bost at [email protected].

Bydd cefnogaeth ymarferol ar gael gan Dîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr y Brifysgol i gynorthwyo ceisiadau am gyllid gradd israddedig.

I gael eich ystyried ar gyfer y cymorth ychwanegol hwn, rhaid i chi:

  • Gael eich asesu gan adran Ymholiadau a Derbyniadau'r Brifysgol fel ffoadur, ar ôl cael caniatâd o dan Gynlluniau Wcráin (Cynllun Teuluoedd Wcráin, Cynllun Nawdd Cartrefi i Wcráin a Chynllun Ymestyn Wcráin), ar ôl cael caniatâd y tu allan i'r Rheolau Mewnfudo am reswm sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro yn Wcráin, neu’n unigolyn sydd wedi cael caniatâd o dan Bolisi Adleoli a Chymorth Afghanistan (ARAP) neu Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan (ARCS) neu sydd wedi cael Gwarchodaeth Ddyngarol o ganlyniad i Gais Lloches ac felly yn gymwys i dalu cyfradd ffioedd cartref y DU.
  • Cael eich asesu gan Wasanaeth Cyngor Mewnfudo'r Brifysgol fel ffoadur, ar ôl cael caniatâd o dan Gynlluniau Wcráin (Cynllun Teuluoedd Wcráin, Cynllun Nawdd Cartrefi i Wcráin a Chynllun Ymestyn Wcráin), ar ôl cael caniatâd y tu allan i'r Rheolau Mewnfudo am reswm sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro yn Wcráin, neu’n unigolyn sydd wedi cael caniatâd o dan Bolisi Adleoli a Chymorth Afghanistan (ARAP) neu Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan (ARCS) neu sydd wedi cael Gwarchodaeth Ddyngarol o ganlyniad i Gais Lloches gyda'r hawl i astudio yn y DU.
  • Bod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr y DU gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr drwy gydol y cwrs gradd (os ydych wedi astudio mewn coleg neu brifysgol yn y DU yn y gorffennol, gallai hyn eich atal rhag cael cymorth llawn. Cysylltwch â ni am gyngor os mai dyna’r sefyllfa. Gweler y manylion cysylltu isod).
  • Bod wedi gwneud cais i astudio gradd israddedig llawn amser 3 neu 4 mlynedd neu gwrs TYST AU ym Mhrifysgol De Cymru. 
  • Cael eich derbyn ar Raglen Iaith Saesneg Cyn-sesiynol ym Mhrifysgol De Cymru cyn dechrau eich gradd israddedig neu gwrs TYST AU.
  • Derbyn cynnig y Brifysgol o le ar y cwrs o’ch dewis a’r cwrs Saesneg Cyn-Sesiynol ar sail gadarn.

Anfonir neges e-bost atoch yn cynnwys dolen i ffurflen gais ar-lein ar ôl i chi gael cynnig lle ar gwrs. Bydd y neges e-bost yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad e-bost a restrir ar eich cais i'r Brifysgol.

Bydd y Tîm Cyngor Ariannol Myfyrwyr yn rhoi gwybod i chi eich bod yn gymwys drwy e-bost, gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a restrir ar ffurflen gais y cynllun. Ein nod yw anfon neges e-bost atoch i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law o fewn deg diwrnod gwaith. Bydd yr e-bost hefyd yn cynnwys manylion am y broses o wneud penderfyniadau.  

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ynghylch eu cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Noddfa Ffoaduriaid. Gweler y broses Proses Apelio Ysgoloriaethau a BwrsariaethauApelio Ysgoloriaeth / Bwrsariaeth i gael rhagor o fanylion.

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â'r broses ymgeisio ar gyfer y cwrs, cysylltwch â'r Tîm Ymholiadau a Derbyniadau Myfyrwyr

E-bost: [email protected]  

Rhif ffôn: 01443 655450

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â'ch sefyllfa mewnfudo neu os ydych yn gymwys i astudio fel ceisiwr lloches, cysylltwch â'r Tîm Cyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol a Mewnfudo:

E-bost: [email protected]  

Rhif ffôn: 01443 482083

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â'r Cynllun Noddfa Ffoaduriaid, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr:

E-bost:  [email protected] 

*Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar y sail y gallent newid, os bydd newidiadau i'r drefn cymorth i fyfyrwyr a ffioedd sy'n berthnasol yng Nghymru. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.