Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Proses Apelio

Mae’n bosibl y bydd gan ymgeiswyr/darpar fyfyrwyr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr ynghylch a ydynt yn gymwys i gael Ysgoloriaeth neu Fwrsariaeth.

Ffioedd a Chyllid
Students studying on a laptop and talking.

Gall hyn gynnwys ymgeiswyr sy’n teimlo na allant fodloni’r meini prawf oherwydd Nodweddion Gwarchodedig fel y’u diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Byddwch yn ymwybodol bod apeliadau yn fwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus mewn achosion lle mae gan ymgeiswyr amgylchiadau esgusodol.

Caiff apeliadau eu hystyried gan y Penderfynydd Apeliadau, sy'n annibynnol ar weinyddu Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau'r Brifysgol a gynhelir gan y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.

Gweler tudalennau ysgoloriaethau unigol am ragor o wybodaeth.

Y Broses Apelio

  • Gwnewch eich apêl drwy anfon neges e-bost at [email protected] gan nodi’r canlynol yn y llinell pwnc ‘Apêl Ysgoloriaeth / Bwrsariaeth’.
  • Unwaith y bydd wedi’i derbyn, bydd eich apêl yn cael ei throsglwyddo i’r Penderfynydd Apeliadau a fydd yn ystyried eich achos.
  • Os bydd angen unrhyw fanylion/tystiolaeth bellach ar y Penderfynydd Apeliadau, bydd y Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn cysylltu â'r ymgeisydd i gael y wybodaeth hon. Gall hyn gynnwys cais gan y Penderfynydd Apeliadau am dystiolaeth ychwanegol i gefnogi’r apêl ac, mewn rhai achosion, i gasglu tystiolaeth a allai fod gan drydydd partïon allanol.
  • Unwaith y bydd yr apêl a’r holl wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani wedi dod i law, bydd penderfyniad fel arfer yn cael ei gyfleu i’r ymgeisydd o fewn 20 diwrnod gwaith.

Sylwch mai hwn yw’r penderfyniad terfynol gan y Penderfynydd Apeliadau ynghylch yr apêl.