Mis Hanes Pobl Dduon

Mewn Sgwrs: Ail-Ddychmygu

Mae’r Athro Roiyah Saltus yn siarad â Dr Adeola Dewis am Laku Neg, cydweithfa o fenywod, artistiaid gwasgaredig, pobl greadigol ac actifyddion, a’i gwaith gydag Amgueddfa Cymru.

Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
masthead profile

Sefydlwyd Laku Neg gan Dr Adeola Dewis, sydd wedi darlithio ym Mhrifysgol De Cymru ers sawl blwyddyn. Yn 2022, roedd grŵp o artistiaid, a oedd yn gysylltiedig â Laku Neg, yn rhan o gomisiwn gan Amgueddfa Cymru i ail-fframio etifeddiaeth Thomas Picton.


Yn y comisiwn hwn, cynrychiolwyd Laku Neg gan dri aelod o dreftadaeth Drinidadaidd, sy’n byw ac yn gweithio yn y DU, mewn cydweithrediad â’r artist metel Cindy Ward. Mae'r grŵp yn hyrwyddo mynegiant o wybodaeth wasgariad Affricanaidd trwy'r celfyddydau. Roedd eu comisiwn yn archwilio ail-gyflwyniad o Louisa, Present a Thisbe - merched ifanc a menywod a ddaeth yn ddioddefwyr o dan reolaeth greulon Picton yn Nhrinidad. Dyfarnwyd comisiwn yr amgueddfa hefyd i Gesiye (yngenir: gay-see-yay), artist amlddisgyblaethol o Drinidad a Thobago. Yma, mae’r Athro Roiyah Saltus yn siarad ag Adeola Dewis am Laku Neg a’i waith.

Soniwch wrthon ni am Laku Neg?

Laku Neg. Laku - 'iard' lle, o fewn cyd-destun Caribïaidd, mae gwaith creadigol yn digwydd, ynghyd â rhannu, sgwrsio a thrafod. Neg - 'Du' yn iaith Kreyol Haiti, sef yr enw rydyn ni'n ei ddefnyddio amdanon ni’n hunain, yn symbol o rymuso a gwrthsefyll. Mae Laku Neg yn gwmni sy'n cael ei redeg gan artistiaid sy’n rhan o ddiaspora Affrica neu sydd â diddordeb ynddo. Wrth galon y fenter hon, mae cyfnewid gwybodaeth graidd am y diaspora Affricanaidd fel ffocws allweddol ar gyfer yr agenda gwneud iawn am gamweddau’r gorffennol. Rydym yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymdrechion i roi mynegiant i wybodaeth diaspora Affrica drwy wahanol ffurfiau gan gynnwys: y cof, athroniaeth, bwyd, cerddoriaeth, cân, dawns, perfformiad, carnifal, masquerade, defod, diwylliannau gwerin, celfyddydau gweledol, ysgrifennu a storïa. Mae ein cyrhaeddiad yn fyd-eang, a nod y cysyniad o ddiaspora yw cysylltu pobl greadigol sy'n gweithio mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys yng Nghymru, y DU yn ehangach, Gogledd America, Y Caribî, De America, Affrica ac Asia. Rydym yn cydnabod yr heriau sy’n codi o’r gwahaniaethau mawr o fewn diaspora Affrica, ond o dan yr enfys hon o gelfyddydau diasporig Affricanaidd mae'r fenter yn ceisio adalw, ail-gofio, ail-adeiladu, ail-ddychmygu'r ffyrdd rydyn ni’n ymgysylltu, gwella a thyfu. Yn syml, ein gweledigaeth yw: dychmygu. 

Beth wnaeth eich ysbrydoli i dderbyn gwahoddiad gan Amgueddfa Cymru i ymgymryd â’r gwaith o ail-fframio Picton?

Roedd y gwahoddiad gan Amgueddfa Cymru ar gyfer artistiaid o Drinidad neu â chysylltiadau â Thrinidad. Mae rhai ohonon ni yn Laku Neg â gwreiddiau yn Nhrinidad ac roedden ni’n ymwybodol o Picton fel Llywodraethwr cyntaf ein hynys. Gofynnon ni i ni’n hunain a ddylen ni wneud cais am y comisiwn fel artistiaid unigol neu ar y cyd fel Laku Neg. Y consensws oedd fel Laku Neg. Roedd gennym ddiddordeb yng nghyd-destun galwad yr amgueddfa - edrych ar naratifau dathlu tuag adeg Picton - ac nid ar Picton ei hun fel y cyfryw.

student-25

Beth oeddech chi wedi gobeithio ei gyfleu?

Roedden ni eisiau sôn am drawsnewid, anrhydeddu hynafiaid a breuddwydio. Wrth freuddwydio'r gwaith hwn, roedden ni'n meddwl am y menywod. Beth fyddai Luisa, Present a Thisbe yn ei ddweud pe bydden nhw'n gallu siarad drwyddon ni?

Sut gallen ni drawsnewid eu poen a'u dioddefaint – troi sgrech yn gân, artaith yn ddawns? Roedden ni eisiau sôn am etifeddiaeth y cyfnod hwnnw a'i effaith arnon ni heddiw. Roedden ni eisiau dathlu, er gwaethaf pawb a phopeth, ein bod ni yma o hyd.


Beth mae gwneud y gwaith ail-ddychmygu hwn wedi’i olygu i chi?

Mae wedi bod yn gyfle gwych, comisiwn cyntaf Laku Neg. Rydyn ni wedi dysgu am gydweithio - sut rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd fel artistiaid sydd â phrosesau gweithio gwahanol a sut rydyn ni'n gweithio gyda gofodau fel yr amgueddfeydd. Roedd y comisiwn hwn yn gyfle i wneud gwaith oedd yn bwysig i ni. O beidio â chael y pwysau o orfod canolbwyntio ar Picton, na’i enwi hyd yn oed,  canolbwyntion ni ar ein lleisiau, ein calonnau, ac roedd ein profiad yn berthnasol, yn hanfodol, yn wir, i'r dweud. Fe wnaethon ni lawer o ddarllen ac ymchwil. Daeth y gwaith hefyd at sylw ymgyrchwyr yn Nhrinidad sy'n galw ar y llywodraeth i ailenwi strydoedd a disodli cerfluniau o ffigyrau, fel Picton a Columbus, sy'n dal i arglwyddiaethu dros ein sgwariau cyhoeddus. Roedd y gwaith ail-ddychmygu hwn yn teimlo'n angenrheidiol ac amserol.

Soniwch am dri pheth y gallai sefydliadau fel PDC ddysgu o'r gwaith wnaethoch chi i ail-ddychmygu ac ail-fframio 'ffyrdd o wneud, bod a gweld' gyda'r Amgueddfa?

  • Dechreuwch lle rydych chi'n
  • Byddwch yn chwilfrydig
  • Gwrandewch yn astud

Pa un darn o gyngor allech chi ei gynnig i'r rhai ohonon ni yn PDC sy'n ceisio derbyn yr her i ail-fframio’r Brifysgol?

Nid pobl yw sefydliadau mawr. Bydd pobl o fewn gofodau’r sefydliadau hyn yn barod i'ch cefnogi ac yn  cael eu cyffroi gan eich gwaith. Mae newid systemig yn fwystfil o beth. Dechreuwch gyda’r gwaith sydd agosaf at eich calon a chaniatewch ofodau i'r gwaith hwn fwrw gwreiddiau. Mae'r gwaith hwn yn troi'n ddrych. Daliwch ati. Bydd newid yn digwydd.

O'r holl ddelweddau posib, pa un ddelwedd gawn ni ei rhannu i ddarlunio ein sgwrs heddiw?

Rwy’n meddwl bod hon gan Mary-Anne o "Brodwaith y cof a’r deall" yn crisialu pethau.  Gwehyddu  papur newydd oedd agwedd fwyaf cymunedol ein gwaith – ac fe ddewison ni hyn i ddarlunio estheteg sy’n seiliedig ar greu rhywbeth â llaw o ddim byd, gydag arlliw’r Carnifal amdani. Mae'n crisialu'r amser, y gwaith, y defnydd a wneir o'r hyn sydd wrth law.