Dr Shehla Khan
Mae Dr Shehla Khan, uwch ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol, yn arwain rhwydwaith Grymuso Dyfodol.
Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Beth yw rhwydwaith Grymuso Dyfodol?
Mae Grymuso Dyfodol yn cysylltu menywod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol â mentoriaid sy'n deall yr heriau croestoriadol y maent yn eu hwynebu. Mae'r rhaglen yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu hyder proffesiynol, llywio rhwystrau, ac adeiladu rhwydweithiau sy'n hyrwyddo perthyn a thwf personol.
Pam y cafodd ei greu?
Crëwyd y rhwydwaith i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau parhaus a diffyg cynrychiolaeth menywod ethnig lleiafrifol mewn swyddi uwch ac arweinyddiaeth. Mae'n ymateb i'r angen am fentora cynhwysol, sy'n ymwybodol o ddiwylliant ac sy'n cefnogi ecwiti a pherthyn. Mae Grymuso Dyfodol hefyd yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), sydd ill dau yn pwysleisio creu cymdeithas decach, fwy cyfartal, a mwy gwydn. Drwy ganolbwyntio profiad byw a llais cymunedol, mae'r rhwydwaith yn cyfrannu at nodau'r Ddeddf o gydraddoldeb, cymunedau clynol, a Chymru lle gall pawb ffynnu.
Beth mae rôl arweinydd rhwydwaith yn ei olygu?
Fel arweinydd y rhwydwaith, rwy'n cydlynu'r rhaglen fentora, yn cefnogi hyfforddiant mentoriaid a mentoreion, ac yn meithrin partneriaethau â sefydliadau fel Cymdeithas Cyflawniad Menywod Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (EMWWAA), Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), a Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr a chydweithwyr PDC i ymgorffori arferion arweinyddiaeth cynhwysol mewn addysgu ac ymgysylltu cymunedol, gan sicrhau bod y rhwydwaith yn parhau i dyfu a chreu effaith ystyrlon.
Sut mae'r rhwydwaith yn cefnogi menywod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig?
Mae Grymuso Dyfodol yn cynnig lle diogel a chefnogol i fenywod rannu profiadau, dysgu oddi wrth ei gilydd, ac adeiladu hyder proffesiynol. Mae perthnasoedd mentora yn helpu cyfranogwyr i gryfhau eu hymdeimlad o berthyn, tra bod deialog agored yn meithrin dealltwriaeth a chydymdeimlad cydfuddiannol. Mae llawer o gyfranogwyr wedi disgrifio teimlo eu bod wedi'u "gweld, eu cefnogi, a'u hysbrydoli" trwy eu cyfranogiad, sy'n dyst i bŵer grymuso ar y cyd.
Beth mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ei olygu i chi?
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn amser i anrhydeddu cyflawniadau a gwydnwch cymunedau Duon, ond hefyd i fyfyrio ar y gwaith sydd ei angen o hyd i gyflawni cydraddoldeb gwirioneddol. Yn hinsawdd heddiw lle mae rhaniad, casineb ac iaith sy'n polareiddio yn dod yn fwy gweladwy, mae'n teimlo'n bwysicach nag erioed i ganolbwyntio ar adeiladu cymunedau cydlynol sydd wedi'u gwreiddio mewn parch, empathi a dealltwriaeth. Mae'n ymwneud â chwyddo lleisiau sydd wedi bod yn rhy aml heb eu clywed ac ail-ymrwymo i gynhwysiant, perthyn a gwrth-hilioldeb nid yn unig y mis hwn, ond drwy gydol y flwyddyn.
A oes gwaith i'w wneud o hyd?
Ydy. Er bod mentrau fel Grymuso Dyfodol yn cynrychioli cynnydd pwysig, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae'r heriau cynyddol i agendâu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei gwneud hi'n hanfodol parhau i wthio am bolisïau ac arferion sy'n hyrwyddo tegwch a chynrychiolaeth. Mae newid cynaliadwy yn gofyn am weithredu ar y cyd gan sicrhau bod gan bob menyw, waeth beth fo'i chefndir, y cyfle i ffynnu ac arwain yn hyderus.