Mewn Sgwrs:

YR ATHRO CHARLOTTE WILLIAMS OBE

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE, PhD Cymru, DLitt Keele, FLSW, yn Athro Ymweld ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn Is-adran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, ac yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Professor Charlotte Williams OBE, Visiting Professor

Mae’r Athro Williams yn actifydd cyfiawnder cymdeithasol, sydd o dras Gymreig-Guyana. Mae hefyd yn academydd o fri, yn feirniad diwylliannol ac yn athro arobryn, sydd wedi bod yn taflu golau hanfodol a phwysig ar bolisïau cyhoeddus Cymru, a syniadau o Gymreictod ers degawdau. Yma, mae hi’n rhannu ei barn â’r Athro Roiyah Saltus ar berthyn, datganoli i Gymru, a’r cysylltiadau i’w gwneud rhwng dad-drefedigaethu academaidd ac arferion gwrth-hiliaeth.

Sut beth oedd dychwelyd ac ail-setlo yng Nghymru, ar ol treulio bron i ddegawd fel Athro Gwaith Cymdeithasol a Dirprwy Ddeon ym Mhrifysgol RMIT, Awstralia?

Ro’n i wastad yn bwriadu dod adref. Roedd Awstralia’n brofiad hyfryd mewn sawl ffordd, ond fel maen nhw’n ei ddweud, does unman yn debyg i adref, a Chymru sydd â’m calon. Nes i gadw cyswllt â rhai pethau Cymreig. Pan ymddeolais o Brifysgol RMIT yn 2020, ro’n i’n sicr fy mod eisiau cyfrannu ymhellach at fy ngwlad. Ond mae’n rhaid imi ddweud fy mod wedi dysgu llawer iawn yn Awstralia, yn enwedig o ran yr heriau o ddygymod ag etifeddiaeth hanesyddol sydd wedi achosi cymaint o anghydraddoldebau rhwng y cenhedloedd. Eleni, bydd pobl Awstralia yn pleidleisio dros lais cyfansoddiadol i bobl Frodorol. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn symudiad hanesyddol at wneud yn iawn. Mae’r hanesion coll hyn - hanesion du - mor bwysig i hawliau a lles cyfoes. Cyrhaeddais adref gyda phersbectif newydd o ran trin a thrafod y gorffennol trefedigaethol.

Felly, wnelo hyn ddim ag ail-setlo, oherwydd mewn sawl ffordd, nes i fyth adael. Mae fy nheulu a’m cartref yng Nghymru.

Mae’r erthygl semenol a ysgrifennaist bron ugain mlynedd yn ôl o’r enw Devolution, multicultural citizenship and race equality: From Laissez-faire to nationally responsible policies (2006) yn dod i’m meddwl. Rwyf hefyd yn cofio ein bod wedi ysgrifennu pennod gyda’n gilydd ar gyfer fersiwn ddiweddaraf dy lyfr a olygwyd A Tolerant Nation?: Revisiting Ethnic Diversity in a Devolved Wales (2015). Rwy’n cofio darllen dy sylwad bod pobl yn aml yn anghofio’r marc cwestiwn yn nheitl y llyfr. Alli di rannu rhai enghreifftiau o os, pam, ac i ba raddau mae pethau wedi newid dros y ddau ddegawd o ran sut y cydnabyddir ac yr eir i’r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfiawnder gan ein harweinwyr a’n systemau gwleidyddol? A ddylem fod yn obeithiol?

Roedd adeg y datganoli’n hynod bwysig i bobl o liw yng Nghymru. Bu i’r setliad cyfansoddiadol ymgorffori cydraddoldeb hiliol a rhoi dyletswyddau penodol ar bob corff cyhoeddus. Cafodd hyn ei alw’n ‘creu prif-lif’. Roedd gennym lais a lle rownd y bwrdd llywodraethu, a dechreuodd sefydliadau Cymdeithas sifil gael eu tynnu i mewn i’r broses o lunio polisïau. Dw i’m yn meddwl y dylem fychanu pa mor bwysig oedd yr adeg honno, o ran pennu synnwyr o gyd-hunaniaeth i bobl ddu Cymreig. Ond yn gyffredinol, roeddem yn bartner gwan yn y trefniadau newydd. Cawsom ein cynnwys, ond roedd ein hymateb yn anghymesur, ac yn anodd ei gynnal. Roeddem yn dibynnu ar fentrau o’r top i’r gwaelod i ymateb i anghydraddoldebau, a fawr ddim oedd y dystiolaeth gadarn yn ein meddiant i’w harddangos. Roedd ymchwil a thystiolaeth i gyflwyno’r achos polisi yn dod i’r amlwg, ond yn araf deg. Hefyd, nid oedd y gweision sifil yn barod i weithio mewn ffordd newydd yn hyn o beth.

Mae hi’n hollol wahanol erbyn hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod ei dull cychwynnol o daclo cydraddoldeb hiliol wedi methu o ran gweithrediad ac allbynnau. Mae datblygiad a chyflwyniad Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn crybwyll dyhead rhyfeddol o greu Cymru gwrth-hiliol erbyn 2030. Mae’r cynllun hwn wedi’i greu mewn partneriaeth â phobl â phrofiadau bywyd go iawn, a chan fanteisio ar eu harbenigedd, ac ymchwil y rhai ohonom sydd wedi bod ynghlwm wrth greu ac adolygu’r sail dystiolaeth. Mae’r math hwn o gyd-gynhyrchu’n torri tir newydd, gan ei fod yn rhannu cyfrifoldeb dros ddeilliannau, yn adeiladu ar fonitro’r fethodoleg ac eiriolaeth, ac yn creu sianel ddwyffordd o addysg a dysgu rhwng y llunwyr polisïau a’r rhanddeiliaid polisi lleyg.

Ti sy’n Cadeirio’r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Cynefin Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd. Mae PDC eisoes ar daith o ail-lunio sut mae’n ymwneud ac yn ymyrryd yn ei harferion a’i phrosesau bob dydd. Beth all y gwaith i ddatblygu cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru gynnig i’r rhai mewn lleoliadau Addysg Uwch sy’n ceisio trawsnewid (dad-drefedigaethu mewn gwirionedd) y cwricwlwm sefydledig yn rhan o agenda fwy i gydnabod a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd o fewn polisïau, arferion a diwylliant PDC?

Mae llawer iawn o weithredu ar bob haen o’r sector addysg yng Nghymru i drawsnewid nid yn unig cynnwys y cwricwlwm, ond i ystyried sut rydym yn gweithio (addysgeg), ac am gynrychiolaeth, neu ddiffyg hynny, rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu addysg. Dw i’n credu mai’r neges gyffredinol yw bod angen dull system gyfan - gwnaethom ei alw’n ddull ysgol gyfan yn ein hadroddiad gweithgor. Does dim pwrpas i addysgu rhagor o gynnwys ar safbwyntiau du yn y cwricwlwm heb ystyried y profiad dysgu yn ei gyfanrwydd i bawb ynghlwm. Dylid cysylltu dad-drefedigaethu academaidd ag arferion gwrth-hiliaeth. Mae’n siŵr mai neges fawr i PDC fyddai i edrych yn ofalus ar bob agwedd ar yr amgylchedd dysgu. Yn benodol, mae angen llawer o waith ar asesu, gan ei fod yn yrrwr mawr o ran deilliannau anghyfartal.

Ar y cyd â Neil Evans, fi hefyd yw Golygydd Cyfres Newydd Gwasg Prifysgol De Cymru: Hil, Ethnigrwydd, Cymru a’r Byd a fydd yn cysoni ac yn sbarduno llawer mwy o sylw sylweddol ar hil mewn astudiaethau Cymreig - adnodd gwerthfawr I’r sector addysg yng Nghymru a thu hwnt.

Nifer fach iawn o staff PDC sy’n fenywod o liw (a dynion a dweud y gwir). Wrth inni baratoi ar gyfer cylch Newydd o Hanes Pobl Ddu Cymru 365 ble byddwn yn dod o hyd i ffyrdd I goffau, gweld gwerth a thaflu golau ar lwyddiannau pobl Affrica a’r diaspora Affricanaidd, pa air o gyngor fyddet ti’n ei roi I’n staff o liw, waeth os ydyn nhw megis dechrau eu gyrfaoedd neu mewn swyddi uwch? Beth sydd wedi cadw dy draed ar y ddaear, dy wneud di’n ddewr, ac wedi dy helpu i fod yr arweinydd ysbrydoledig yr wyt ti heddiw?

Wrth ysgrifennu, dw i wedi cyfeirio atom fel ‘Blacademics’. Roedden nhw wrth eu boddau â’r term pan fues i’n annerch mewn cynhadledd yn Cape Town, De Affrica lle, fel y gwyddoch chi, maen nhw’n brwydro sgil-effaith degawdau o apartheid. Mae cryn dipyn wedi’i ysgrifennu am y profiad o fod yn ddu yn y Twr Ifori, gan gynnwys llyfr gwych Inside the Ivory Tower (2017).

Mae’r syndrom yn cael ei gydnabod yn helaeth. Yn fy marn i, mae dod o hyd i, meithrin a chynnal rhwydwaith personol cryf yn bwysig, yn ogystal â chynghreiriaid. Dw i’n tueddu i ddal fy ngafael ar y bobl ddu y byddaf yn gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd, ble bynnag y maen nhw, gan alw ar eu cymorth a chyngor sawl gwaith. Does dim angen bod yn ynysig mwyach - mae angen achub ar y cyfle i ofalu am ein hunain a chysylltu â’r chwaeroliaeth ehangach.

HANES DU YW HANES CYMRU A HANES CYMRU YW HANES DU

Professor Charlotte Williams OBE, PhD

Cefais hyd i un o dy ddyfyniadau hyfryd yn dy ran di o Writers Mosaic:

“Hoffwn i bob ddarn a ysgrifennaf fod yn arysgrif ar fy nghenedl. Yn ei dro, rwyf am roi fy hun yng Nghymru a harddwch Cymru ynoch chi.”

Mae’r dyfyniad yn ymwneud â dy waith llenyddol, ond i mi, mae’n debyg ei fod hefyd yn ymwneud â’th etifeddiaeth, a’r hyn yr wyt wedi’i roi i Gymru dros dy fywyd. Oes modd i ti rannu’r rhesymeg a’r teimlad y tu ôl i’r dyfyniad, a rhoi cipolwg i ni ar dy fywyd llenyddol a’th waith presennol, os gweli di’n dda?

Wel diolch am wrando! Mae mynegi fy hun drwy waith llenyddol wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ac yn ffordd aral o gyfleu negeseuon pwysig am hunaniaeth a pherthyn. Fy angerdd a’m ffocws erioed yw fy nghenedl, Cymru. Dw i’n meddwl bod llawer yn diystyru Cymru a Chymreictod yn y DU yn ehangach a thu hwnt. Gwn fod gennym ddiwylliant cyfoethog a phositif, rhai o’r tirweddau mwyaf anhygoel yn y byd ac ysbryd o wydnwch di-dor. Dw i wrth fy modd yn rhannu hyn â gweddill y byd. Ar yr un pryd, hoffwn gynnal deialog gyda’n cenedl am bwy sy’n perthyn, pwy sy’n cael ei gynnwys, pwy sy’n cael llais a sut mae Cymru wedi elwa ar ei berthnasoedd trefedigaethol hanesyddol, a beth mae hynny’n ei olygu i anghydraddoldebau presennol. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn glir: