Swyddi Yn Pdc

PSS yn PDC

Mae PSS wrth galon PDC, gan ddarparu gwasanaethau cymorth proffesiynol hanfodol ar draws y Brifysgol.

Swyddi Yn Pdc Amdanom ni
two members of staff, one standing one sitting, talking at a desk

PSS yn PDC

Mae Professional and Support Services Limited yn is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy’n darparu gwasanaethau i’r Brifysgol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers 2021, mae ymgeiswyr allanol llwyddiannus ar gyfer rolau gwasanaethau proffesiynol yn y Brifysgol wedi'u cyflogi gan PSS Limited. 

Mae dros 300 o bobl yn gweithio i PSS yn PDC mewn amrywiaeth o rolau gwasanaethau proffesiynol: arlwyo, gweinyddol, marchnata, cyllid, adnoddau dynol a rheolwyr, i gyd yn helpu i drawsnewid dyfodol ein myfyrwyr. 

Rydym yn gymuned yn y Brifysgol ac rydym yn dal i weithio tuag at yr un nodau, yr un Strategaeth 2030 PDC a’r un Gwerthoedd Craidd. Rydyn ni eisiau i bawb deimlo'n rhan ohono. 

Os ydych chi’n gweithio i PSS Ltd yn PDC byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr PDC a PSS yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’w yfory: mae pob person sy’n gweithio yn PDC neu PSS Limited yn chwarae eu rhan yn nhaith y myfyriwr. Rydym yn llythrennol yn trawsnewid bywydau pobl. 

Byddwch yn rhan o gymuned PDC ac rydym am i chi fod yn falch ohoni! Ar eich CV a LinkedIn byddwch yn gallu dweud eich bod yn gyflogedig yn PSS Ltd, yn gweithio ym Mhrifysgol De Cymru. 

Anaml y byddai hyn yn digwydd, ond mae contract cyflogaeth PSS yn caniatáu i rywun a gyflogir gan PSS Ltd ddarparu gwasanaethau i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel arfer, ar ôl i chi gael eich nodi fel un sy’n darparu gwasanaethau i Brifysgol De Cymru, dyna fyddai eich ffocws parhaus. 

student-25

Creu Gwell Yfory

P’un a ydych chi’n gyflogedig gan PDC neu PSS, rydyn ni i gyd yn rhan o’r un gymuned PDC, yn gweithio tuag at yr un nod.