Canolfan i Wella Dysgu ac Addysgu
Yn partneru i wella dysgu, addysgu a phrofiad myfyrwyr yn PDC.
Addysg a alluogir yn ddigidol Datblygiad Proffesiynol Ysgolheictod Addysgu a Dysgu Asesu a Chwricwlwm 2030 PDC
Mae'r Ganolfan i Wella Dysgu ac Addysgu (CELT) yn gweithio gyda staff a myfyrwyr ledled Prifysgol De Cymru i gefnogi dysgu ac addysgu cynhwysol, arloesol ac o ansawdd uchel. Rydym yn dwyn ynghyd arbenigedd ar draws dylunio cwricwlwm, addysg wedi'i alluogi'n ddigidol, ymgysylltu myfyrwyr a datblygiad staff i ddarparu ymarfer effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Yr hyn a wnawn
Mae CELT yn cefnogi blaenoriaethau strategol y Brifysgol drwy weithio mewn partneriaeth â chyfadrannau a gwasanaethau proffesiynol i wella dysgu, addysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr.
- Cwricwlwm ac asesu – cefnogi dylunio cyrsiau, dysgu gweithredol a chynhwysol, ac asesu ac adborth effeithiol.
- Addysg ddigidol – cryfhau gallu digidol a gyrru defnydd effeithiol o ddulliau digidol o ansawdd uchel mewn dysgu ac addysgu.
- Datblygiad proffesiynol – darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), rhaglenni achrededig a chyfleoedd i staff ddatblygu eu hymarfer.
- Ymgysylltu â myfyrwyr – cryfhau llais myfyrwyr, partneriaeth ac ymdeimlad o berthyn
I gael rhagor o wybodaeth am CELT a'n holl waith, gall staff PDC ymweld â'n tudalennau SharePoint.
Pwy ydyn ni
Mae CELT yn cyflogi timau o arbenigwyr ymroddedig ym meysydd asesu, cwricwlwm a datblygiad proffesiynol; ysgolheictod addysgu a dysgu; ac addysg a alluogir yn ddigidol; a gefnogir gan arbenigwyr mewn dylunio, cyfathrebu, trefnu digwyddiadau a gweinyddu.
Cwrdd â'n timau