Addysg a alluogir yn ddigidol
Mae’r tîm Addysg a Alluogir yn Ddigidol (DEE) yn hyrwyddo defnydd effeithiol ac arloesol o dechnolegau digidol i gefnogi Egwyddorion Dylunio Cwricwlwm PDC, a’i ddull dysgu, addysgu ac asesu gweithredol a hyblyg.
Cymorth ar gyfer Addysgu a Dysgu
Fel rhan o’n cenhadaeth i wneud yn siŵr bod gan fyfyrwyr PDC fynediad at brofiadau dysgu digidol ysbrydoledig a chynhwysol, rydym yn cynnig cymorth, cyngor a chyfleoedd datblygu i gydweithwyr academaidd a gwasanaethau proffesiynol ar amrywiaeth o offer ac arferion digidol, gan rannu arfer go iawn i ysbrydoli a hysbysu. Gall cydweithwyr PDC a Cholegau Partner PDC sy’n chwilio am Gymorth Addysg Ddigidol fewngofnodi i’n tudalennau mewnrwyd i gael mynediad i’n desg gymorth a dod o hyd i’n canllawiau addysgegol a thechnegol.
Mewngofnodi PDC a Choleg Partner PDC