Addysgu mewn Addysg Uwch
Mae’r PgCertHE wedi’i ddylunio ar gyfer ymarferwyr sy’n darparu ar raglenni addysg uwch ar draws sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae’n cynnig datblygiad mewn Dysgu ac Addysgu yn yr amgylchedd Addysg Uwch modern, yn ogystal â chyflwyno ymarferwyr i ystod eang o ymagweddau sy’n bodloni canllawiau PDC ar Ddysgu Gweithredol wedi’i Alluogi’n Ddigidol a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/teaching/teaching-postgraduate-certificate-teaching-in-higher-education-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol ym maes Addysg Uwch.
Cynlluniwyd Ar Gyfer
Mae’r cwrs PgCertHE wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai sydd â llai na phedair blynedd o brofiad yn addysgu mewn amgylchedd Addysg Uwch, boed hynny yn y brifysgol neu mewn coleg partner yn darparu cyrsiau addysg uwch. Mae’r cwrs ar gyfer darlithwyr, myfyrwyr PhD, staff gwasanaethau proffesiynol, neu dechnegwyr sydd â chyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd â myfyrwyr.
Wedi’i achredu gan
- AU Ymlaen
Sgiliau a addysgir
- Cynllunio gwersi
- Dylunio cwricwlwm
- Ymchwil weithredol
- Defnyddio technolegau digidol
- Dylunio asesiadau
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Nod y cwrs yw cefnogi a gyrru’r rhai sy’n newydd i addysgu ym maes Addysg Uwch at eu gyrfaoedd academaidd, gyda dealltwriaeth glir o arferion sefydliadol ac ymagweddau tuag at ddysgu ac addysgu ym maes addysg uwch. Mae’n gyfle gwych iddyn nhw ganolbwyntio ar agweddau penodol ar eu haddysgu; casglu syniadau newydd, cyfnerthu a meddwl am eu hymarfer presennol. Bydd yn eu paratoi â gwybodaeth, sgiliau, gwerthoedd proffesiynol a gwerthfawrogiad o ofynion y cyd-destun gweithio ym maes addysg uwch, fel bod modd iddynt ddod yn athro effeithiol, myfyriol, hyblyg ac ymatebol.
Cynllunio ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch
Mae’r modiwl hwn yn annog cyfranogwyr i fyfyrio’n feirniadol ar ddamcaniaeth ac arfer dysgu mewn cyd-destun addysg uwch. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan feirniadol ac yn arbrofi gydag addysgeg a thechnoleg sy’n galluogi dysgu sydd â’r myfyriwr yn ganolog iddo ar draws disgyblaethau ac amgylcheddau dysgu amrywiol.
Dylunio Cwricwlwm – beth rydyn ni’n ei ddysgu, pam a sut
Mae’r modiwl hwn yn galluogi cyfranogwyr i archwilio a chymhwyso egwyddorion dylunio cwricwlwm a chyd-destunau ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang er mwyn datblygu arfer arloesol ac effeithiol mewn modd beirniadol. Bydd gan gyfranogwyr gyfle i greu cwricwlwm modiwl eu hunain, ac i’w amddiffyn ar banel dilysu efelychiedig.
Ymholiad Ymarferwr
Modiwl sy’n seiliedig ar broblemau yw hwn. Bydd gan y cyfranogwyr gyfle i gyflawni prosiect Ymchwil Weithredol i werthuso effeithiolrwydd enghraifft o newid addysgeg y byddan nhw wedi’i gyflwyno yn eu dosbarthiadau/tiwtorialau eu hunain.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae’r cwrs yn croesawu ceisiadau gan staff academaidd PDC a hefyd staff AU mewn colegau o fewn rhwydwaith colegau partner Prifysgol De Cymru.
I gael mynediad i'r PgCertHE, bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster lefel 6 yn eu maes pwnc addysgu. Mae angen o leiaf 4 awr/wythnos addysgu ar draws hyd y cwrs.
Byddai ymgeiswyr yn newydd i ddysgu ac addysgu AU; fel arfer gyda llai na 4 blynedd o brofiad addysgu mewn AU.
Croesewir ceisiadau gan staff ffracsiynol a hefyd Darlithwyr parhaol sy'n cael eu talu fesul awr sy'n bodloni'r gofynion uchod.
Mae academydd o Brifysgol De Cymru sydd â chontract ffracsiynol o lai na 0.4FTE yn gallu cael mynediad i fodiwl cyntaf y cwrs, Cynllunio ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud cais am AFHEA a'i hawlio ar ôl cwblhau'n llwyddiannus.
Gofynion ychwanegol
Bydd angen i ymgeiswyr gael addysgu cydamserol gyda rhyngweithio â myfyrwyr ar draws hyd y modiwlau.
Bydd angen cefnogaeth hefyd i fynychu'r cwrs gan y Pennaeth Pwnc/Rheolwr Llinell priodol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Cwrs dysgu cyfunol yw hwn, sydd â chyfuniad o sesiynau dysgu ar-lein a wyneb yn wyneb, dysgu ar leoliad, a deialogau proffesiynol / tiwtorialau ar-lein. Mae’r asesu ar y cwrs hwn yn gwbl seiliedig ar waith cwrs, ac mae’n wahanol ar gyfer pob modiwl. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyflwyniadau, cynllun gwers anodedig ac adroddiad, ac mae’r cyfan wedi’i ddylunio i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen fel darlithydd addysg uwch. Ar ddechrau’r cwrs, mae sesiwn gynefino dair awr wyneb yn wyneb.
Ar gyfer pob modiwl, mae sesiwn dair awr ar-lein bob wythnos am wyth wythnos. Mae dwy awr yn cael eu hwyluso gan arweinydd y modiwl, ac mae’r drydedd awr yn rhoi amser i’r cyfranogwyr ymgymryd â thasgau gosod mewn grwpiau.
Bydd modd i gyfranogwyr ddewis mynd i’r sesiwn ar-lein naill ai ar foreau Llun (9am-12pm) neu ar brynhawniau Mawrth (1pm-4pm). Ar gyfer pob modiwl, mae hefyd dwy sesiwn wyneb yn wyneb, yn wythnos 5 ac yn wythnos 10. Bydd gan gyfranogwyr ddewis i fynd naill ai ar foreau Llun (9am-12pm) neu ar brynhawniau Mawrth (1pm-4pm).
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/teaching/teaching-preparing-to-teach-placeholder-01.jpg)
Staff addysgu
- Dr Carol Wood
- Beth Dando
- Dr Giovanna Comerio
Bydd rhai sesiynau’n cael eu darparu gan ddarlithwyr gwadd.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/teaching/teaching-postgraduate-certificate-in-post-compulsory-education-and-training-pgce-pcet-placeholder-01.jpg)
Lleoliadau
Ar ddechrau’r cwrs, mae sesiwn gynefino dair awr wyneb yn wyneb. Ar gyfer pob modiwl, mae sesiwn dair awr ar-lein bob wythnos am wyth wythnos. Mae dwy awr yn cael eu hwyluso gan arweinydd y modiwl, ac mae’r drydedd awr yn rhoi amser i’r cyfranogwyr ymgymryd â thasgau gosod mewn grwpiau.
Bydd modd i gyfranogwyr ddewis mynd i’r sesiwn ar-lein naill ai ar foreau Llun (9am-12pm) neu ar brynhawniau Mawrth (1pm-4pm).
Ar gyfer pob modiwl, mae hefyd dwy sesiwn wyneb yn wyneb, yn wythnos 5 ac yn wythnos 10. Bydd gan gyfranogwyr ddewis i fynd naill ai ar foreau Llun (9am-12pm) neu ar brynhawniau Mawrth (1pm-4pm).
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/education/teaching-in-higher-education-placeholder.jpg)
Cyfleusterau
Darperir y rhan fwyaf o’r cwrs ar-lein gan ddefnyddio Blackboard Collaborate. Cynhelir y sesiynau ar y campws ar gampws gwahanol PDC ar gyfer pob modiwl, fel bod modd i chi ymgyfarwyddo â’r gofodau dysgu amrywiol a deniadol sydd ar gael yn PDC.
Mae cyfleusterau llyfrgell ar gael ar bob campws.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-treforest-library-22787.jpg)
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.