MA

Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu)

Camwch ymlaen yn eich gyrfa drwy astudio'r cwrs MA Addysg

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) wedi hen ennill ei blwyf gan ei fod yn cael ei gynnig ers 1995, a chaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn adlewyrchu anghenion newidiol y cyfranogwyr.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Fe'i dyluniwyd ar gyfer amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol, gan gynnwys athrawon, darlithwyr a rheolwyr yn y sector addysg bellach; therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, nyrsys, bydwragedd ac aelodau o'r lluoedd arfog a gwasanaeth yr heddlu.

Llwybrau Gyrfa

  • Athro
  • Darlithydd
  • Therapydd Galwedigaethol
  • Therapydd Lleferydd ac Iaith
  • Bydwraig

Sgiliau a addysgir

  • Cymhwysedd Digidol
  • Gweithio'n Annibynnol
  • Gwaith cynllunio a chyfathrebu ar gyfer prosiectau
  • Datrys problemau mewn modd creadigol

Trosolwg o'r Modiwl

Byddwch yn astudio pedwar (neu bump) o fodiwlau 30 credyd a addysgir, a rhaid dewis dau ohonynt o restr benodedig ar gyfer y rhaglen hon, ac yna naill ai modiwl traethawd hir 30 neu 60 credyd, i ennill cyfanswm o 180 credyd ar Lefel 7.

Felly, bydd myfyrwyr ar y cwrs MA Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu yn astudio: Methodoleg Ymchwil (30 credyd) Traethawd Hir Byrrach (30 credyd – 7,500 o eiriau) neu Draethawd Hir Estynedig (60 credyd – 15,000 o eiriau)

O leiaf ddau fodiwl o'r rhestr ganlynol (30 credyd):

Arloesi wrth Gynllunio'r Cwricwlwm

Mae'r modiwl hwn wedi cael ei lunio ar gyfer ymarferwyr addysgol sy'n dymuno archwilio ffyrdd arloesol o hyrwyddo rhagoriaeth wrth gynllunio'r cwricwlwm. Nid yn unig y bydd myfyrwyr yn ystyried beth yw ystyr ‘cynllunio'r cwricwlwm’ mewn amrywiaeth o gyd-destunau, ond byddant hefyd yn ystyried diben hynny, a phwy yw'r gynulleidfa a'r rhanddeiliaid.

Meithrin Cymhwysedd Digidol

Gellir astudio'r modiwl hwn fel rhan ddewisol o unrhyw lwybr MA Addysg. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ddefnyddio technoleg ar gyfer dysgu mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol, bydd yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig ag arwain hunanadolygiadau sefydliadol a datblygu gweithgareddau dysgu ac addysgu gyda chymorth technoleg. 

Datblygu Dysgu mewn Sefydliadau

Nod y modiwl hwn yw cefnogi ac ymestyn datblygiad proffesiynol arweinwyr canol presennol a darpar arweinwyr canol yn ogystal ag ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth. Bydd yn dadansoddi arferion yn yr ystafell ddosbarth yn y presennol a'r gorffennol ac, wrth wneud hynny, yn archwilio ac yn gwerthuso damcaniaethau dysgu a'r hyn sy'n gyfystyr ag addysgu effeithiol. Bydd hefyd yn ystyried pa mor ymarferol yw asesu, a'r problemau sy'n gysylltiedig â sicrhau arferion cyson drwy ysgol gyfan.

Safbwyntiau Rhyngwladol ar Blentyndod Cynnar

Ynghyd â'r holl ddatblygiadau addysgegol, polisïau a gwaith ymchwil ym maes y blynyddoedd cynnar, dyluniwyd y modiwl hwn er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ym maes addysg a gofal plentyndod cynnar.

Un neu ddau fodiwl o'r rhestr ganlynol, fel y bo angen i sicrhau 180 credyd:

AAA/ ADY: Cyd-destun a Chysyniadau:

Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio amrywiaeth eang o safbwyntiau ar AAA/ADY a chynhwysiant ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sector addysg, y sector iechyd, y sector gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.

Dyslecsia: Theori ac Asesu:

Hwn yw'r cyntaf o ddau fodiwl sydd wedi'u hachredu gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain (BDA). Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â'r ffactorau sy'n achosi anawsterau dysgu penodol (dyslecsia), y ffordd y dônt i'r amlwg a'u goblygiadau, gan gynnwys eu cymhlethdod, eu hamrywiaeth a'r potensial iddynt gyd-ddigwydd.

Dyslecsia: Cysylltu Theori, Asesu ac Ymarfer:

Hwn yw'r ail fodiwl dewisol sydd i gyd wedi'u hachredu gan y BDA sy'n adeiladu ar wybodaeth ac ymarfer ym maes asesu a astudiwyd yn y modiwl blaenorol. Caiff egwyddorion dulliau dysgu ac addysgu amlsynnwyr eu cyflwyno i'r myfyrwyr, a byddant yn ystyried yr angen am raglen ymyriadau strwythuredig, gronnus a systematig.

Arwain a Rheoli AAA/ ADY:

Nod y modiwl yw rhoi cyfle i ymarferwyr addysgol fyfyrio mewn modd systematig ar eu gwerthoedd a'u hymarfer proffesiynol er mwyn gwella profiadau a deilliannau plant a phobl ifanc ac oedolion sydd ag AAA/ADY. Mae cynnwys megis cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac arferion gweithio cydweithredol ymhlith nodweddion y modiwl hwn. 

Awtistiaeth: Cyd-destun a Chysyniadau:

Nod y modiwl hwn yw gwerthuso damcaniaethau presennol ynghylch awtistiaeth ac archwilio eu goblygiadau i unigolion awtistig, eu teuluoedd, ac ymarferwyr. Bydd yn ceisio dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr mewn perthynas â gwahaniaethau canfyddiadol synhwyraidd awtistiaeth ac yn ystyried ym mha ffyrdd y gall y rhain arwain at ffordd wahanol o fod yn rhan o'r byd.

Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Cyd-destun a Chysyniadau:

Mae'r modiwl hwn yn rhoi rhagarweiniad i fyfyrwyr ar gyd-destun Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn y Deyrnas Unedig, y ffordd y cânt eu trefnu, a chysyniadau allweddol ym maes Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed megis risg a gwydnwch. Bydd y sesiynau dilynol yn edrych yn fanylach ar anawsterau iechyd meddwl penodol.

Datblygu Pobl mewn Sefydliadau:

Nod y cwrs yw cefnogi ac ymestyn datblygiad proffesiynol arweinwyr canol presennol a darpar arweinwyr canol yn ogystal â chefnogi ac ymestyn datblygiad ymarferwyr mewn meysydd cysylltiedig. Bydd yn defnyddio syniadau cyfredol ym maes arweinyddiaeth a rheoli a'r ffordd y cânt eu cymhwyso er mwyn gwella sefydliadau cyfan. 

Rheoli a Chefnogi Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol:

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y theori sy'n sail i ymarfer yn y maes gwaith hwn. Bydd y modiwl yn dechrau drwy edrych ar faterion cysyniadol sy'n ymwneud ag Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol, ac yna'n symud ymlaen i archwilio sut mae theori'n effeithio ar ymyriadau mewn gwahanol fodelau (therapiwtig, ymddygiadol a bio-seico-gymdeithasol).

Rheoli a Chefnogi Awtistiaeth:

Mae'r modiwl hwn wedi'i ddylunio ar gyfer ymarferwyr proffesiynol neu ddarpar ymarferwyr proffesiynol sydd am feithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth mewn perthynas â'r dystiolaeth bresennol o arferion gorau ar gyfer rheoli a chefnogi awtistiaeth.

Gweithio gyda Grwpiau Agored i Niwed:

Bydd y modiwl hwn yn dechrau drwy archwilio modelau cyfoes o blentyndod a'r glasoed a chyflwyno cysyniadau bod yn agored i niwed, risg a gwydnwch. Bydd y sesiynau hyn ar Blentyndod yn yr 21ain Ganrif, Plant yn y Byd Digidol a Diogelu yn gosod yr olygfa ar gyfer astudiaethau achos mwy penodol ar grwpiau agored i niwed.

GOFYNION MYNEDIAD

Dylech fod yn berson graddedig neu, os nad ydych yn raddedig, bydd angen profiad perthnasol arnoch.

Bydd angen i fyfyrwyr llawn amser a rhan-amser sy’n dewis modiwlau sydd ag elfen leoliad fel rhan o’r broses asesu, neu fyfyrwyr amser llawn sy’n dymuno manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y Cynllun Interniaeth ddarparu tystiolaeth o wiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Bydd angen i’r gwiriad hwn fod ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a chynnwys tanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS, (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os yw'n fyfyriwr o'r UE neu'n fyfyriwr rhyngwladol).

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr a fydd yn dilyn y rhaglen ran-amser yn treulio dwy flynedd ar y modiwlau a addysgir (un noson yr wythnos fel arfer) ac yn cwblhau eu traethawd hir yn eu trydedd flwyddyn. Fodd bynnag, caniateir i fyfyrwyr gymryd hyd at bum mlynedd i gwblhau'r rhaglen gyfan.

Bydd pob myfyriwr yn cwblhau'r cwrs drwy wneud traethawd hir. Dylai'r traethawd hir ganolbwyntio ar bwnc ymchwil gwreiddiol, a gellir ei gwblhau am 30 credyd neu 60 credyd.

Staff addysgu

  • Melanie Smith
  • Matt Hutt
  • Sue Roberts
  • Shirley Egley
  • Susan Haywood
  • Amanda Kelland
  • Sharon Drew
  • Carmel Conn
  • Rebecca Haycock 
  • Andy Henderson

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Bydd angen gradd Meistr er mwyn camu ymlaen mewn nifer o alwedigaethau proffesiynol, ac ystyrir yn gyffredinol bod hynny'n dystiolaeth o ymrwymiad llwyddiannus i ddatblygiad proffesiynol ar lefel uchel. Bydd dyfarniad MA Addysg cyffredinol yn dangos eich bod wedi dysgu sgiliau a gwybodaeth mewn amrywiaeth o wahanol feysydd.

Llwybrau gyrfa posibl

  • Athro / Athrawes 
  • Darlithydd 
  • Therapydd Galwedigaethol 
  • Therapydd Lleferydd ac Iaith 
  • Bydwraig