AAA/ADY (Awtistiaeth)
Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Awtistiaeth) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sydd am ddod yn uwch-ymarferwyr ym maes awtistiaeth drwy ennill cymhwyster perthnasol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio Gyda NiManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru yn unigryw yng Nghymru. Dyma'r unig astudiaeth seiliedig ar ymarfer o awtistiaeth yn y rhanbarth, ac mae'n dod ag amrywiaeth eang o fyfyrwyr ynghyd o dde Cymru a gorllewin Lloegr, yn ogystal â myfyrwyr rhyngwladol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bydd y cwrs o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector ac sy'n dod i gysylltiad â phlant neu oedolion awtistig.
Llwybrau Gyrfa
- Uwch Ymarferydd
Sgiliau a addysgir
- Ymchwil
- Gwerthusiad
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae’r cwrs awtistiaeth yn archwilio theori, polisi ac ymarfer mewn perthynas â phob agwedd ar awtistiaeth fel y’i deellir ar hyn o bryd o fewn cyd-destunau gwahanol. Mae cynnwys modiwlaidd wedi'i gynllunio i roi'r cyfle i deilwra'ch gradd ôl-raddedig i ddiwallu'ch anghenion proffesiynol neu bersonol unigol.
Mae dau fodiwl penodol yn canolbwyntio ar awtistiaeth:
Awtistiaeth: Cyd-destunau a Chysyniadau
Mae'r modiwl hwn yn archwilio datblygiad damcaniaethau presennol ynghylch awtistiaeth a'u goblygiadau i unigolion awtistig, eu teuluoedd, ac ymarferwyr. Bwriedir iddo geisio dyfnhau eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth mewn perthynas â gwahaniaethau canfyddiadol synhwyraidd awtistiaeth ac yn ystyried ym mha ffyrdd y gall y rhain arwain at ffordd wahanol o fod yn rhan o'r byd.
Rheoli a Chefnogi Awtistiaeth
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i werthuso'r continwwm o ddarpariaeth ar gyfer pobl awtistig yng ngoleuni'r damcaniaethau dysgu a chan gyfeirio at fodelau pwysig o anabledd.
Yn yr un modd â phob un o'r rhaglenni Dysgu Proffesiynol, rhaid i chi ddilyn y modiwl craidd Methodoleg Ymchwil os ydych chi'n astudio'r cwrs Meistr llawn.
Yn ogystal â'r ddau fodiwl hyn, gallwch ddewis dau neu dri modiwl ychwanegol o'r Rhaglen Dysgu Proffesiynol, er enghraifft:
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (dewisol)
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y ffactorau sy'n achosi anawsterau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc, y ffordd y dônt i'r amlwg a'u goblygiadau.
AAA: Cyd-destunau a Chysyniadau (dewisol)
Mae'r modiwl hwn yn archwilio ymarfer ym maes AAA/ADY, anableddau dysgu ac addysg gynhwysol ac yn myfyrio'n feirniadol ar y tensiwn rhwng adnabod angen ac athroniaeth cynhwysiant
Arwain a Rheoli AAA/ADY (dewisol)
Mae'r modiwl hwn wedi'i ddylunio i wella dealltwriaeth myfyrwyr o'r gwaith theori a'r gwaith ymarferol sy'n gysylltiedig â rôl y Cydlynydd AAA/ADY er mwyn iddynt allu ymateb i dirwedd newidiol AAA/ADY.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Caiff y cwrs Awtistiaeth hwn ei gynnal ar nos Lun, nos Fawrth neu nos Fercher, o 5pm tan 8pm ar gampws Dinas Casnewydd. Bydd angen i fyfyrwyr rhan-amser fod yn bresennol ar un noson yr wythnos, o 5pm tan 8pm am ddau tymor (tymor yr hydref a thymor y gwanwyn).
Caiff y cynnwys ei gyflwyno mewn ffyrdd diddorol a rhyngweithiol, gyda chyfarwyddiadau clir a chymorth ar gyfer deunydd darllen hanfodol a gwaith ysgrifenedig ar lefel academaidd.
Staff addysgu
- Yasmeen Multani, arweinydd y modiwl
Caiff y modiwl ei addysgu gan arweinydd y modiwl ynghyd â siaradwyr gwadd
Lleoliadau
Os nad ydych yn gweithio mewn ymarfer proffesiynol, ond yn awyddus i gael profiad i weithio'n broffesiynol ym maes addysg a chymorth awtistiaeth, gallwch gael help i sefydlu interniaeth.
Cyfleusterau
Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Ganolfan Astudiaethau Ôl-radd ar gampws Dinas Casnewydd.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd gyntaf a/neu brofiad perthnasol digonol o awtistiaeth a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar.
Gofynion Ychwanegol:
Bydd angen i fyfyrwyr amser llawn sydd eisiau cymorth i ddod o hyd i interniaeth hefyd ddarparu tystiolaeth o wiriad uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os yw'n fyfyriwr o'r UE neu'n fyfyriwr rhyngwladol).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.