AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
Annog gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o'r tueddiadau a'r datblygiadau ym maes darpariaeth ar gyfer AAA/ADY ac anabledd mewn ysgolion a lleoliadau perthnasol.
Gwneud cais yn uniongyrchol Gwneud Cais Drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â niManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,000*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,000*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,140*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs MA AAA/ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc y mae anawsterau dysgu neu ymddygiad yn effeithio ar eu datblygiad.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Pobl sy'n gweithio ym myd addysg ond hefyd y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd, fel therapyddion lleferydd ac iaith a therapyddion galwedigaethol.
Llwybrau Gyrfa
- Therapydd Lleferydd ac Iaith
- Addysg
- Gwasanaeth Iechyd
- Therapydd Galwedigaethol
Sgiliau a addysgir
- Gwerthusiad
- Ymchwil
- Dadansoddi
- Gwaith cynllunio a chyfathrebu ar gyfer prosiectau
- Datrys problemau mewn modd creadigol
Trosolwg o'r Modiwl
Mae ein cwrs AAA/ADY yn cynnig ffocws manwl ar safbwyntiau cyfoes ar AAA/ADY, anableddau dysgu ac ymarfer cynhwysol, yn ogystal â chyfle i ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.
Y Sbectrwm Awtistig
Mae'r modiwl hwn yn archwilio theori, polisi ac ymarfer mewn perthynas â phob agwedd ar awtistiaeth.
Theori ac Asesu ym maes Dyslecsia a Gweithio gyda Dyslecsia: Cysylltu Theori, Asesu ac Ymarfer
Mae'r ddau fodiwl wedi'u hachredu'n allanol gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain, a hynny naill ai ar lefel athro/ymarferydd cymeradwy (ATS/APS) neu ar lefel aelodaeth gyswllt (AMBDA). Maent yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ag anawsterau dysgu penodol ac sydd am ennill cymhwyster cydnabyddedig yn y maes hwn.
Arwain a Rheoli AAA/ADY
Mae'r modiwl hwn wedi'i fwriadu ar gyfer ymarferwyr addysg sy'n cyflawni rôl Cydlynydd AAA/ADY, neu sy'n dyheu am wneud hynny. Mae'r modiwl wedi'i ddylunio i wella dealltwriaeth myfyrwyr o'r gwaith theori a'r gwaith ymarferol sy'n gysylltiedig â'r sgiliau amrywiol a heriol y mae angen i'r Cydlynydd AAA/ADY feddu arnynt er mwyn ymateb i dirwedd newidiol AAA/ADY.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae gradd gyntaf dda yn cael ei ffafrio ond mae profiad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Gofynion Ychwanegol:
- Bydd angen i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser sy'n dewis modiwlau sydd â chydran lleoliad fel rhan o'r broses asesu, ddarparu tystiolaeth o wiriad DBS gwell cyfredol (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE neu'n fyfyriwr rhyngwladol)
- Bydd angen i fyfyrwyr amser llawn sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y Cynllun Interniaeth hefyd ddarparu tystiolaeth o wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Gwell Cyfredol (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os ydych chi'n fyfyriwr UE neu ryngwladol)
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£1,140
fesul blwyddyn*£10,250
fesul blwyddyn*£1,140
fesul blwyddyn*£16,000
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Caiff y cwrs AAA/ADY hwn ei gynnal ar nos Lun a nos Fawrth, o 5pm tan 8pm ar gampws Dinas Casnewydd.
Caiff y modiwlau eu hasesu drwy aseiniad ysgrifenedig 5,000 o eiriau fel arfer.
Staff addysgu
- Amanda Kelland, arweinydd y dyfarniad
Lleoliadau
Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r modiwlau Anawsterau Dysgu Penodol, gyda'r bwriad o gael eu hachredu gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain, yn ymgymryd ag ymarfer addysgu arbenigol. I fyfyrwyr eraill, mae'n bosibl y bydd cyfleoedd i gysylltu â lleoliadau arbenigol ar sail wirfoddol.