Arwain a Rheoli (Addysg)
Cyfle i feithrin dealltwriaeth ddyfnach ac ehangach o'r datblygiadau diweddaraf yn y sector, ymwneud yn feirniadol â syniadau a gwaith ymchwil ym maes theori addysg a rheoli, a chymhwyso'r hyn y byddwch yn ei ddysgu at eich ymarfer eich hun.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/education-leadership-and-management-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs MA Arwain a Rheoli (Addysg) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sydd, neu'n sy'n dyheu am fod, yn arweinwyr neu'n rheolwyr mewn lleoliad addysg. Gallwch fod yn gweithio mewn ysgolion neu sefydliadau eraill yn barod, megis y gwasanaeth iechyd neu'r heddlu.
DYLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs ôl-radd hwn yn addas ar gyfer amrywiaeth o ymarferwyr, o'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliad meithrin i'r rhai sy'n gweithio mewn amgylchedd dysgu oedolion.
Sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth
- Ymchwil
- Gwaith cynllunio a chyfathrebu ar gyfer prosiectau
- Datrys problemau mewn modd creadigol
Trosolwg o'r Modiwl
Byddwch yn astudio'r ddau fodiwl arwain a rheoli arbenigol canlynol.
Datblygu Dysgu mewn Sefydliadau
Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â hwy mae rheoli dysgu, yr agenda lles, rôl uwch reolwyr a rheoli mentrau cwricwlwm newydd, asesu ar gyfer dysgu, cyfranogiad rhieni a chymunedol.
Datblygu Pobl mewn Sefydliadau
Bydd y modiwl hwn yn apelio at bobl sydd, neu sy'n dyheu am fod, yn arweinwyr mewn sefydliadau â lleoliad addysg. Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â nhw mae meithrin tîm, arweinyddiaeth effeithiol, arfarnu a mentora a rheoli newid mewn sefydliadau. Caiff gwahanol fodelau arwain eu hystyried ochr yn ochr â mentrau cenedlaethol.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Fe ddylech chi fod wedi graddio neu, os ydych chi'n raddedig, bydd angen profiad perthnasol arnoch chi. Ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisoes wedi ennill cymhwyster proffesiynol (er enghraifft a NPQH) efallai y bydd yn bosibl achredu dysgu neu gyflawniad blaenorol ar gyfer y gwaith hwn, ar yr amod bod aseiniad pontio yn cael ei gyflwyno (codir ffi o £ 100 am gefnogi ac asesu'r aseiniad hwn).
Gofynion Ychwanegol:
- Bydd angen i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser sy'n dewis modiwlau sydd â chydran lleoliad fel rhan o'r broses asesu, ddarparu tystiolaeth o wiriad DBS gwell cyfredol (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE neu'n fyfyriwr rhyngwladol)
- Bydd angen i fyfyrwyr amser llawn sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y Cynllun Interniaeth hefyd ddarparu tystiolaeth o wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Gwell Cyfredol (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os ydych chi'n fyfyriwr UE neu ryngwladol)
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'n annog myfyrwyr i fyfyrio ar gynnwys y modiwl, a chymhwyso hynny at eu cyd-destun proffesiynol neu academaidd perthnasol lle bo modd, er mwyn cynnal trafodaeth academaidd a beirniadol ar agweddau a chysyniadau allweddol.
Ni chaiff asesiadau eu cynnal drwy arholiadau, na thrwy gyfres safonol o gwestiynau aseiniad.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/12-campus-spaces/campus-spaces-newport-library.jpg)
Staff addysgu
- Bethan Mitchell, Arweinydd y Cwrs
- Matt Hutt
- Carmel Conn
- Rebecca Haycock
- Yasmeen Multani
- Elsa Torres
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-academic-staff-matt-hutt-postgraduate-education-35846.jpg)
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.