Addysg (Cymru)
Llunio dyfodol addysg gyda chwrs ôl-raddedig sy’n cyfuno’i ddefnydd yn y byd go iawn a chipolygon beirniadol. Â’i wreiddiau yng Nghymru, mae’n archwilio diwygiadau a heriau allweddol trwy sbectol genedlaethol a rhyngwladol – gan baratoi addysgwyr i arwain, dylanwadu ac ysbrydoli ar draws tirweddau addysgol amrywiol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/education-ma-education-wales-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,083*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Estynnwch eich gwybodaeth, ymgysylltwch ag ymchwil a gyrrwch newid addysgol – gan adlewyrchu ymarfer proffesiynol a blaenoriaethau Cymru.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Athrawon ac ymarferwyr sy’n gweithio mewn ysgolion ac addysg bellach, o athrawon gyrfa gynnar i uwch arweinwyr. Mae’r cwrs hwn yn berffaith i’r bobl hynny sy’n ymroi i ddatblygu eu hymarfer a pharhau â’u gyrfa, ac mae’r holl ddarpariaeth ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
Llwybrau gyrfa:
- Darlithydd
- Rolau arwain addysgol
- Rôl ADY arbenigol
- Arbenigeddau addysgeg
Y sgiliau sy’n cael eu haddysgu:
- Datblygu’r cwricwlwm
- Arweinyddiaeth
- Ymagweddau at ADY
- Ymarfer lles a thegwch
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'n debygol y bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs TAR gan ennill 60 credyd ar Lefel 7 wedi'i heithrio o'r flwyddyn astudio gyntaf. Bydd y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi ennill y cymhwyster hwn yn astudio tri modiwl yn y flwyddyn gyntaf:
- Addysgeg ac Ymarfer
- Cydweithio ac Ymarfer Proffesiynol
- Ymarfer ar sail Tystiolaeth
Ym Mlwyddyn 2, bydd y myfyrwyr yn astudio un modiwl craidd, ochr yn ochr ag unrhyw ddau fodiwl dewisol (20 credyd i bob un)
- Uwch-sgiliau Ymholiad Ymchwil (craidd)
Modiwlau dewisol:
- Arwain a Rheoli ADY
- Ymarfer Cynhwysol yn yr Ystafell Ddosbarth
- Arwain a Rheoli Gweithwyr Addysg Proffesiynol
- Arwain Newid Sefydliadol
- Cynllunio a Gwireddu'r Cwricwlwm
- Arweinyddiaeth ac Arloesi yn y Cwricwlwm
- Archwilio Addysgegau
- Llesiant Emosiynol a Meddyliol
- Tegwch ac Amrywiaeth
- Ymateb i Dlodi ac Anfantais mewn Addysg
- ADY: Ymarfer Rhagorol
- Arwain o Fewn Systemau a Rhyngddynt
Yn y drydedd flwyddyn, sef y flwyddyn olaf, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar y traethawd hir.
- Traethawd Hir
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Byddwch chi’n dysgu trwy gyfuniad o gynadleddau ar-lein cenedlaethol a gynhelir ar ddydd Sadwrn a sesiynau rhyngweithiol gyda’r nos, bob un wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch bywyd proffesiynol. Bydd y sesiynau hyn yn dwyn myfyrwyr o bob cwr o Gymru ynghyd, gan greu profiad dysgu unigryw rhwng cymheiriaid. Disgwyliwch ddysgu gweithredol gydag ystafelloedd grŵp, trafodaethau difyr, a chyfleoedd i ofyn cwestiynau mewn amgylchedd ar-lein. Mae cydweithredu â myfyrwyr o amrywiol brifysgolion a rhanbarthau yn cyfoethogi eich profiad, gan ganiatáu i chi rannu cipolygon a safbwyntiau. Er bod yr holl ddysgu yn cael ei gyflawni ar-lein, mae croeso i chi ymweld â’r campws i ddefnyddio’r cyfleusterau a’r llyfrgell. Mae’r ymagwedd ddynamig hon yn sicrhau amgylchedd dysgu cydweithredol, cyfoethog.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/ma-education-innovation-in-learning-and-teaching.jpg)
Staff addysgu
Arbenigwyr blaenllaw sy’n dod ag amrywiol safbwyntiau ac arbenigedd dwfn i’r cwrs fydd yn eich addysgu. Nid dim ond academyddion sy’n aelodau o’n tîm addysgu - maen nhw’n ymchwilwyr gweithgar sydd â chysylltiadau hen sefydledig â llunwyr polisi, ac maent yn flaenllaw mewn datblygiadau ym maes addysg.
Mae fformat ar-lein y cwrs hefyd yn caniatáu am gydweithredu ag arbenigwyr o sefydliadau niferus, gan sicrhau ymagwedd gymesur a hollgynhwysol. A chanddynt ffocws ar brofiad go iawn ac ymchwil, mae’r staff addysgu’n creu amgylchedd cefnogol, dynamig, lle gallwch ddysgu’n unigryw oddi wrth y goreuon yn y maes.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/45-university-staff/profile-staff-carmel-conn-41700.jpg)
Cyfleusterau
Er mai ar-lein y mae’r addysgu, mae croeso i chi hefyd ymweld â’n campws yng Nghasnewydd, lle cewch fynediad i gyfleusterau gwych. O ardaloedd dysgu modern i ystafelloedd TG â chyfarpar da a llyfrgell helaeth, mae’r cyfan y bydd ei angen arnoch ar gael yn hwylus. Hefyd, mae llyfrgellydd addysg dynodedig a chronfeydd data ar-lein i gefnogi eich ymchwil i lenyddiaeth a modiwl y traethawd hir. Yn ogystal, mae ystafelloedd astudio i’w bwcio, y Ganolfan Ddysgu, a’r Parth Cyngor yn hygyrch yn ystod eich cyfnod yn PDC.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/12-campus-spaces/campus-spaces-newport-library-27741.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Statws Athro Cymwysedig (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol) a bod yn gyflogedig ar hyn o bryd yn y sector addysg orfodol yn y DU. Mae’r cwrs hefyd yn agored i’r rheini sy’n gweithio fel darlithwyr mewn colegau AB, staff ysgolion partner AGA, Cynorthwywyr Addysgu sy’n bodloni gofynion mynediad academaidd y rhaglen, Partneriaid Gwella Ysgolion, staff Consortia Rhanbarthol, Estyn a staff yr Awdurdod Lleol.
Llwythwch y canlynol i fyny i'ch cais ar-lein:
- Tystiolaeth o'ch Rhif DfES - llythyr swyddogol gan y cyngor addysgu
- Cyfeiriad at bapur pennawd llythyr sefydliad / cwmni
Ffurflen Gais Atodol (lawlwythwch y ddogfen isod)
Ffurflen Cydnabod Dysgu Blaenorol (lawrlwythwch y ddogfen isod)
Yn anffodus nid yw MA Addysg (Cymru) yn addas ar gyfer myfyrwyr tramor (heblaw'r UE). Fodd bynnag, mae MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) ac MA Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg) yn agored i fyfyrwyr tramor (heblaw'r UE).
Gweler gwefan Addysg MA Genedlaethol (Cymru) am ragor o wybodaeth, Cwestiynau Cyffredin a manylion ariannu.
Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol
Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£1,083
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.