Addysg Blynyddoedd Cynnar (Atodol)
Y cwrs Addysg y Blynyddoedd Cynnar (Atodol) hwn yw'r opsiwn perffaith i'r rhai sydd â diddordeb brwd mewn gwaith ymchwil cyfredol i addysg y Blynyddoedd Cynnar.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/ba-early-years-education-top-up.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
X301
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs BA (Anrh) Blynyddoedd Cynnar (Atodol) yn archwilio arferion gorau ym maes addysg y blynyddoedd cynnar o bob cwr o'r byd, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a gwybodaeth ddamcaniaethol, a magu profiad go iawn mewn lleoliadau addysg lleol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs astudio wedi'i fwriadu ar gyfer carfan myfyrwyr amlwladol sy'n croesawu myfyrwyr o'r tu allan i'r DU a'r tu mewn iddi sydd â diddordeb mewn astudio a dysgu arferion gorau ym maes addysg plentyndod byd-eang.
Llwybrau Gyrfa
- Swyddog Prosiect
- Elusennau Plant
- Athro
- Arweinydd Meithrin
Sgiliau a addysgir
- Gweithio'n Annibynnol
- Cydweithio
- Datrys Problemau
- Meddwl yn Feirniadol
- Creadigrwydd
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r modiwlau y byddwch yn eu hastudio drwy gydol y cwrs fel a ganlyn:
Archwilio Addysgeg Blynyddoedd Cynnar
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi archwilio un maes allweddol o addysgeg Blynyddoedd Cynnar yng nghyd-destun datblygiad a gofal plentyndod cynnar. Bydd y modiwl yn archwilio'r dulliau creadigol a beirniadol sydd ar gael mewn ymchwil eilaidd, a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y dulliau addysgu. Ar ddiwedd y modiwl, bydd gofyn i chi ysgrifennu adroddiad ar eich maes dewisol, a fydd hefyd yn dangos tystiolaeth o'ch dealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud ymchwil yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn foesegol. Rhoddir cefnogaeth ar gyfer yr adroddiad, gan gynnwys goruchwyliaeth unigol o 2.5 awr.
Saesneg Academaidd
Caiff y modiwl pwrpasol hwn ei gyflwyno gan y Ganolfan Saesneg Ryngwladol ym Mhrifysgol De Cymru a bydd yn para am y flwyddyn gyfan. Caiff myfyrwyr eu haddysgu am agweddau allweddol ar eirfa academaidd a gaiff ei defnyddio drwy gydol y cwrs gradd, gyda ffocws penodol ar derminoleg a theori pwnc-benodol. Yn ogystal â chymorth ar gyfer gwaith ysgrifenedig, bydd ffocws ar ddatblygu iaith academaidd lafar a thraddodi cyflwyniadau. Caiff y modiwl ei gyflwyno gan weithwyr proffesiynol profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda myfyrwyr y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.
Datblygu Llythrennedd a Rhifedd yn y Blynyddoedd Cynnar
Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn archwilio sut mae plant yn dysgu sgiliau iaith a rhif o enedigaeth hyd at 7 oed. Bydd yn archwilio gwaith ymchwil cyfredol ym maes niwrowyddoniaeth ac yn ei ddefnyddio, yn ogystal â gwaith ymchwil beirniadol a theori sefydledig i feithrin dealltwriaeth o arferion gorau ym maes dysgu ac addysgu.
Mathau o Blentyndod Ledled y Byd
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar arferion gorau ym maes addysg y blynyddoedd cynnar o bob cwr o'r byd. Mae'n ystyried safbwyntiau rhyngwladol ar addysg, yr heriau a wynebir mewn nifer o wahanol wledydd a'r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i ymdrin ag addysg y blynyddoedd cynnar. Bydd gwahanol brofiadau o blentyndod mewn gwahanol rannau o'r byd yn cael eu harchwilio.
Safbwyntiau ar Ddysgu Effeithiol
Bydd y modiwl hwn yn meithrin eich dealltwriaeth feirniadol o ddiffiniadau o ddysgu effeithiol ac ymddygiad ar gyfer dysgu. Bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r addysgeg sy'n ategu dysgu effeithiol, gan archwilio rhwystrau cymdeithasol, emosiynol ac economaidd rhag dysgu ar yr un pryd. Caiff dealltwriaeth ei hategu drwy werthuso modelau damcaniaethol ar gyfer ymddygiad.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Ochr yn ochr â'r ddarpariaeth a addysgir a'r cymorth ar-lein, disgwylir i fyfyrwyr gwblhau 200 awr o waith ymchwil annibynnol ar gyfer y modiwl Ymchwilio i'r Blynyddoedd Cynnar. Ar gyfer y modiwlau sy'n weddill, yn ogystal â'r ddarpariaeth a addysgir, disgwylir i fyfyrwyr gwblhau 100 awr o astudio annibynnol a 60 awr o astudio dan gyfarwyddyd.
Lle y bo'n briodol, caiff darlithwyr gwadd ac arbenigwyr eu gwahodd i rannu eu profiadau ym myd addysg.
Mae'r cwrs yn defnyddio gwahanol ddulliau asesu sy'n seiliedig ar waith cwrs gan mwyaf.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/15-newport-facilities/newport-facilities-early-years-education-and-practice-classroom-20731.jpg)
Staff addysgu
- Philippa Watkins, Arweinydd y Cwrs
- Ceri Brown, Swyddog Lleoliadau
- Dr. Emily Powell
- Rachel Stamp
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/teaching/subject-teaching-classroom-48296.jpg)
Lleoliadau
Yn yr ail dymor, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gwblhau lleoliad mewn lleoliad addysg lleol. Bydd hyn am bythefnos. Y swyddog lleoliadau fydd yn trefnu hyn, a bydd y lleoliad o fewn pellter teithio hawdd i lety'r myfyriwr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/teaching/subject-teaching-placement-libby-white-41243-1.jpg)
Cyfleusterau
Mae gan y cwrs gradd Blynyddoedd Cynnar ystafell addysgu bwrpasol sydd ag adnoddau penodol ar gyfer helpu i addysgu plant rhwng 0 a 7 oed. Gall myfyrwyr hefyd gael budd o ddefnyddio ein hystafell hydra, sy'n cefnogi dysgu realiti rhithwir.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-education-primary-school-teaching-Satinder-Smith-48300.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Rhaid i fyfyrwyr allu dangos dysgu blaenorol cydnabyddedig hyd at lefel 5 i gael cynnig lle ar y cwrs.
Gofynion ychwanegol
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74
Bydd angen cyllideb fach ar fyfyrwyr ar gyfer deunydd ysgrifennu personol ac adnoddau academaidd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.