MA

CAMH (Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed)

Byddwch yn archwilio lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc mewn cwrs sydd wedi'i seilio ar ymarfer ac ymchwil sydd, yn eu tro, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae hwn yn MA anghlinigol sy'n cynnig amgylchedd cefnogol, rhyngddisgyblaethol lle byddwch yn datblygu mewnwelediad adfyfyriol ac yn cyfrannu at hyrwyddo maes iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £11,060*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,229*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd yr MA hwn, sydd wedi’i lywio gan ymchwil, yn eich helpu i adfyfyrio ar arferion presennol, i archwilio materion allweddol ym maes CAMH a lles, ac i gael effaith gadarnhaol a pharhaol trwy eich taith broffesiynol neu academaidd.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc o fewn y sector addysg, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ysgolion, amgylcheddau cymorth a'r trydydd sector. Mae'r cwrs hwn hefyd yn croesawu myfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar o ddisgyblaethau fel gwyddorau cymdeithasol, addysg, a gwaith ieuenctid ac sy'n barod i archwilio iechyd meddwl plant a phobl ifanc ar lefel ôl-raddedig.

Llwybrau Gyrfa

  • Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl a Lles
  • Ymchwilio
  • Ymgynghori a hyfforddi
  • Datblygu polisi  
  • Astudio pellach (PhD)

Sgiliau a addysgir

  • Ymchwilio
  • Datrys problemau
  • Meddwl yn feirniadol
  • Defnyddio dulliau moesegol ac wedi’u seilio ar dystiolaeth
  • Ysgrifennu a dadansoddi academaidd  

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Ymchwil sy'n cael effaith

Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio cryf ac yn archwilio materion go iawn sy'n dylanwadu ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Siapio eich llwybr eich hun

Gallwch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau i deilwra eich dysgu, yn dibynnu ar eich llwybr gyrfa presennol a'ch gobeithion at y dyfodol.

Profiadau o’r byd go iawn

Byddwch yn dysgu gan staff arbenigol a siaradwyr gwadd sy'n gweithio ym meysydd addysg, gwasanaethau ieuenctid ac iechyd meddwl.

Dull amlddisgyblaethol

Yn arwain at ddealltwriaeth eang o CAMH a lles mewn ystod o leoliadau cymorth ac addysg.

Canlyniadau Graddedigion Rhagorol

Mae 99% o raddedigion Addysg Prifysgol De Cymru mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion 2022/23)

Trosolwg o'r Modiwl

Bydd myfyrwyr ar y cwrs Meistr mewn Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yn cwblhau tri modiwl craidd 30 credyd, un neu ddau fodiwl arbenigol ychwanegol, a Modiwl Traethawd Hir (30 credyd neu 60 credyd). Bydd dewis y Traethawd Hir byrrach yn galluogi myfyrwyr i ddewis modiwl arbenigol ychwanegol.

Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Cyd-destunau a Chysyniadau 

Mae ffocws damcaniaethol i'r modiwl hwn, ac mae'n rhoi rhagarweiniad i fyfyrwyr ar gysyniadau allweddol ym maes Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac yn datblygu eu gallu i edrych ar faterion yn ymwneud ag Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed mewn ffordd feirniadol, er enghraifft drwy edrych ar gysyniadau risg a ffactorau amddiffynnol mewn perthynas â deilliannau da i blant a phobl ifanc.

Rheoli a Chefnogi Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio'n fwy ar ddamcaniaeth ymarfer ac yn datblygu eich gallu i edrych yn feirniadol ar yr amrywiaeth o ddulliau atal ac ymyriadau drwy archwilio amrywiaeth o ddulliau ac ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth.

Methodoleg Ymchwil 

Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i allu gwneud darn o waith ymchwil sylfaenol neu eilaidd.

 

Traethawd hir (30 credyd neu 60 credyd)

Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chwblhau darn o waith ymchwil sylweddol. Bydd dewis y Traethawd Hir byrrach yn galluogi myfyrwyr i ddewis modiwl arbenigol ychwanegol.

Y Modiwlau Dewisol

  • Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu
  • Arwain a Rheoli AAA / ADY
  • Arloesi wrth Gynllunio'r Cwricwlwm
  • Gweithio gyda Grwpiau Agored i Niwed
  • Awtistiaeth: Cyd-destunau a Chysyniadau
  • Rheoli a Chefnogi Awtistiaeth
  • Meithrin Cymhwysedd Digidol
  • Datblygu Dysgu mewn Sefydliadau
  • Datblygu Pobl mewn Sefydliadau
  • Safbwyntiau Rhyngwladol ar Blentyndod Cynnar

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Mae'r cwrs hwn yn eich dysgu i fod yn ymarferydd adfyfyriol gyda gwybodaeth a sgiliau cryf mewn iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd anffurfiol a gweithgareddau grŵp bach gydag aseiniadau i gefnogi eich sgiliau a'ch ymarfer proffesiynol. Yn y cwrs cyfan, mae pwyslais ar ddod o hyd i wybodaeth a’i chyfleu i eraill, gyda chyfleoedd i rannu mewnwelediadau yn rheolaidd a chyfrannu at drafodaethau beirniadol. .

Mae’r addysgu’n digwydd wyneb yn wyneb mewn deg sesiwn 2.5 awr gyda’r nos fesul modiwl, ac yn cynnig hyblygrwydd i fyfyrwyr rhan amser. Mae holl asesiadau’r cwrs wedi'u cynllunio i gysylltu theori â'ch ymarfer yn y byd go iawn, gan sicrhau bod eich dysgu yn cael effaith ystyrlon ar y plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw.  Mae pob modiwl yn cael ei asesu trwy waith cwrs. Anogir myfyrwyr i drafod ffocws eu haseiniad.

Staff addysgu

Mae’r addysgu yn cael ei gyflwyno gan dîm amrywiol o'r grŵp Addysg a Dysgu Proffesiynol (ADP), ag arbenigedd mewn meysydd fel addysg, AAA/ADY, awtistiaeth, gwaith ieuenctid a chymunedol, a gwaith cymdeithasol. Mae ein staff yn cyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad yn y byd go iawn, gan sicrhau bod yr addysgu wedi'i seilio ar yr ymarfer a’r ymchwil diweddaraf. Byddwch hefyd yn dysgu gan siaradwyr gwadd sy'n gweithio ar reng flaen gwasanaethau CAMH sylfaenol ac arbenigol, fydd yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i ystod o sectorau a safbwyntiau proffesiynol.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Bydd gennych hyblygrwydd i drefnu profiad gwaith sy'n gweddu i'ch diddordebau - boed mewn ysgol, neu leoliad addysg neu gymorth arall. Gall profiad gwaith ochr yn ochr â'ch astudiaethau eich galluogi i gael mewnwelediadau newydd, ehangu eich arbenigedd, ac adeiladu CV cryfach i ddatblygu eich gyrfa ymhellach. Bydd y sesiynau addysgu gyda'r nos yn caniatáu i chi sicrhau cydbwysedd rhwng astudio a phrofiad ymarferol, ac yn rhoi cyfle i chi gymhwyso'r hyn rydych chi'n ei ddysgu i’ch gwaith. Bydd y tîm addysgu wrth law i gynnig cymorth ac ysgrifennu geirdaon os byddwch am ymgymryd â phrofiad gwaith tra byddwch yn astudio.

Cyfleusterau

Mae astudio ar ein campws yng Nghasnewydd yn golygu y bydd gennych fynediad at gyfleusterau gwych sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cydweithio. O hybiau dysgu modern i ystafelloedd TG â chyfarpar gwych a llyfrgell helaeth, bydd y cyfan sydd ei angen arnoch chi ar gael yn hwylus. Mae yna hefyd lyfrgellydd addysg pwrpasol a chronfeydd data ar-lein fydd o gymorth i chi gyda’ch modiwlau ymchwil i lenyddiaeth a thraethawd hir. Bydd ystafelloedd astudio y gellir eu harchebu, y Ganolfan Ddysgu a'r Parth Cynghori hefyd ar gael i chi tra byddwch gyda PDC.  

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 7 a fydd yn dyfnhau eich arbenigedd o ran ymarfer, theori a mewnwelediad beirniadol ym maes iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae llawer o'n graddedigion yn camu'n hyderus i rolau arwain, gan ddylanwadu ar waith datblygu polisi a sbarduno newid strategol yn eu sefydliadau. Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i rannu eich gwybodaeth drwy addysg a hyfforddiant, neu i ddilyn gyrfaoedd ymchwil ac academaidd. Boed yn symud yn eu blaen o fewn y gwasanaethau rheng flaen neu'n llunio mentrau iechyd meddwl a lles ar lefel strategol, mae ein graddedigion yn gadael wedi'u paratoi i gael effaith ystyrlon a pharhaol ar les plant a phobl ifanc.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae graddedigion y cwrs hwn yn dilyn llwybrau gyrfa amrywiol o fewn addysg, gwaith cymdeithasol, nyrsio a rolau cymorth, gan symud yn aml i swyddi ymgynghori, hyfforddi a rheoli gyda ffocws ar iechyd meddwl a lles. Mae rhai yn parhau â'u taith academaidd drwy raglenni ymchwil Lefel 8, yn symud yn eu blaen fel ymchwilwyr neu addysgwyr. Mae graddedigion yn aml yn sôn wrthon ni am ennill dyrchafiadau neu rolau newydd mewn gofal yn seiliedig ar drawma, gwasanaethau ymgynghori iechyd meddwl, ac arweinyddiaeth strategol. 

Cymorth Gyrfa

Bydd siaradwyr gwadd o amrywiaeth o sectorau CAMH, addysg a gofal cymdeithasol yn dod â mewnwelediadau o’r byd go iawn i'r cwrs, gan ddarparu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr a chyfle i ddeall yr ymarfer diweddaraf a’r llwybrau gyrfa sy'n dod i'r amlwg. Bydd gwasanaeth gyrfaoedd PDC hefyd yn eich helpu i ystyried posibiliadau gyrfa yn ystod ac ar ôl eich gradd. Byddwch yn derbyn cymorth gydag ysgrifennu CVs, ceisiadau am swyddi, cyfweliadau, a phrosesau recriwtio. Gallwch hefyd fynychu gweithdai sgiliau, sesiynau gyda chyflogwyr, a ffeiriau gyrfaoedd i ymgysylltu â chyflogwyr, datblygu sgiliau, a gwella eich hyder.

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Mae gradd gyntaf dda yn cael ei ffafrio ond mae profiad yn cael ei werthfawrogi'n fawr. 
  • Bydd angen i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser sy'n dewis modiwlau sydd â chydran lleoliad fel rhan o'r broses asesu, ddarparu tystiolaeth o wiriad DBS gwell cyfredol (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE neu'n fyfyriwr rhyngwladol) 
  • Bydd angen i fyfyrwyr amser llawn sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i gymryd rhan yn y Cynllun Interniaeth hefyd ddarparu tystiolaeth o wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Gwell Cyfredol (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo os ydych chi'n fyfyriwr UE neu ryngwladol)  

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£11,060

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

ROEDD CYNNWYS Y CWRS YN ARDDERCHOG A’R DARLITHWYR YN GEFNOGOL. ROEDD GANDDYN NHW WIR DDIDDORDEB YN EIN SYNIADAU YMCHWIL AC RO’N NHW’N BAROD IAWN I RANNU EU PROFIADAU.

Lyndsi

MA CAMH

MAE'R CWRS MA CAMH WEDI FY NGALLUOGI I YMCHWILIO'N DDYFNACH I AMRYWIAETH O BYNCIAU, AC MAE HYN WEDI CYNYDDU FY NEALLTWRIAETH BROFFESIYNOL A PHERSONOL.

Andy

MA CAMH

HELPODD FY NHIWTOR FI I DDOD O HYD I FY LLAIS ACADEMAIDD A DATBLYGU HYDER WRTH FEIRNIADU AC YMGYSYLLTU Â'R BROSES YMCHWIL.

Lucy

MA CAMH

GWNAETH Y CYFLE I WRANDO AR BROFIADAU BYW AELODAU STAFF, SIARADWYR GWADD A MYFYRWYR WEDI GYFOETHOGI FY NHAITH DDYSGU YMHELLACH HYD YN OED, A PHONTIO’N RHWYDD RHWNG THEORI A REALITI AC YMARFER.Katerina

Katerina

MA CAMH

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.