MA

Gweithio dros Blant a Phobl Ifanc (Cymhwyso Cychwynnol Gwaith Ieuenctid)

Cymhwyswch fel gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol proffesiynol mewn un flwyddyn academaidd trwy astudio'r cwrs achrededig proffesiynol hwn.

Cyflwyno cais yn uniongyrchol Archebu lle ar Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,250*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,000*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,140*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ysgrifennu ar y cyd â chyflogwyr yn y maes i sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r rhinweddau sy’n hanfodol er mwyn eich cyflogi fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bydd ein rhaglen, sydd wedi’i gymeradwyo’n broffesiynol, yn eich galluogi i ddod o hyd i’r gorau mewn plant a phobl ifanc, eu cefnogi nhw fel unigolion a’u helpu i ddatblygu a ffynnu. Mae pob person ifanc yn haeddu’r cyfle i fod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain - ac mae’r cwrs hwn yn eich dysgu sut i wneud yr union beth.

Achredwyd gan

  • Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru 

Llwybrau Gyrfa

  • Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol
  • Cyfiawnder Adferol ac Atal
  • Chwaraeon a Dysgu Awyr Agored
  • Datblygiad Cymunedol 
  • Tai

Sgiliau a addysgir

  • Arweinyddiaeth
  • Sgiliau Ymchwil
  • Ysgrifennu bidiau a rheoli prosiectau
  • Gwerthoedd Proffesiynol
  • Diogelu a Moeseg

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cymhwyso’n Broffesiynol

Cymeradwyaeth broffesiynol gan Addysg Hyfforddiant Sgiliau Cymru (ETS), sy’n eich galluogi i gymhwyso fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol proffesiynol mewn blwyddyn academaidd. Os hoffech gyflawni’r MA yn llawn, bydd angen astudio am ddwy flynedd.

Dyluniwyd ar cyd â Chyflogwyr a Grwpiau Cymunedol

Mae’r cwrs yn adlewyrchu’r sector cymdeithasol ac addysg gwirfoddol a statudol newidiol. Rydym wedi ysgrifennu’n modiwlau ar y cyd â’r rheiny sy’n gweithio yn y maes, i sicrhau eu bod yn gyfredol drwy gydol y cyfnod.

Dysgu Rhyng-broffesiynol

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ymarfer rhyng-broffesiynol, a’r ffordd orau i fodloni anghenion plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau mewn cyd-destun polisi, strategol a gweithredol sy’n newid yn gyson.

Hyfforddiant mewn swydd

Mae’r elfen addysgu ar y cwrs yn digwydd unwaith yr wythnos. Ochr yn ochr â hyn, fe fyddwch yn ymgymryd â dau leoliad proffesiynol am gyfanswm o 300 awr.

Trosolwg o’r Modiwlau

Yn y flwyddyn gyntaf fe fyddwch yn astudio cynnwys modiwlaidd y llwybr. Dyma’r elfen a addysgir ar y cwrs, a bydd angen mynd i ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ynghyd â’ch lleoliad ymarfer proffesiynol ac ystod o leoliadau dysgu awyr agored.

Cymhwyso Gwerthoedd, Egwyddorion a Pholisïau mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
Gwerthoedd, pwrpas a hunaniaeth broffesiynol Gwaith Cymdeithasol, gan alluogi myfyrwyr i ddeall ac arddangos perchnogaeth o’u hunaniaethau proffesiynol eu hunain drwy archwilio theorïau, ymarferion ac egwyddorion sy’n sail i Waith Ieuenctid.

Ymarfer Proffesiynol
Galluogi myfyrwyr i ddatblygu ymhellach a chysoni eu sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau Gwaith Ieuenctid a Chymunedol drwy ymgysylltu â dysgu proffesiynol adeiladol (300 awr) a myfyrdod beirniadol perthnasol.

Cyfiawnder Adferol gyda phlant, pobl ifanc a chymunedau
Beirniadu arferion diwylliannol traddodiadol, anffurfiol a than arweiniad y gymuned sy’n ymateb i wrthdaro ac archwilio sut mae’r rhain wedi dylanwadu’r mudiad a siâp dulliau adferol ar draws gwledydd, disgyblaethau a gwasanaethau.

Moeseg, Myfyrdod a Diogelu
Rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i feddwl yn annibynnol, yn sensitif ac yn feirniadol am rôl gwerthoedd moesegol, a sut mae heriau moesegol yn cael eu trin a’u trafod wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Chwaraeon, Chwarae a Dysgu Awyr Agored mewn Gwaith Ieuenctid
Bydd y myfyriwr yn archwilio datblygiad pobl ifanc drwy chwaraeon, chwarae a dysgu awyr agored, gyda phwyslais ar ddarpariaeth dargedig a myfyrdod ar sail canlyniadau.

Dulliau ymchwil, arweinyddiaeth a rheoli prosiectau
Er mwyn grymuso myfyrwyr â’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i gynllunio ymchwil ac arddangos gweledigaeth, gwreiddioldeb, ymarfer myfyriol ac arweinyddiaeth. 

Mae Blwyddyn Dau yn canolbwyntio ar gwblhau naill ai traethawd hir neu brosiect mawr. Bydd academydd yn goruchwylio, a hynny naill ai’n academydd â diddordeb academaidd neu gefndir proffesiynol perthnasol i’ch maes ymchwil dewisol.

Prosiect Mawr
Galluogi myfyrwyr i greu astudiaeth resymegol, cydlynol y mae modd ei gwarchod, sy’n arfarnu’r broses ymchwil a’r canfyddiadau, ac sy’n dod i gasgliadau rhesymegol ac ystyrlon ac argymhellion ar gyfer ymarfer a/neu ymchwil pellach.

Traethawd Hir
Galluogi myfyrwyr i greu astudiaeth resymegol, cydlynol y mae modd ei gwarchod, sy’n arfarnu’r broses ymchwil a’r canfyddiadau, ac sy’n dod i gasgliadau rhesymegol ac ystyrlon ac argymhellion ar gyfer ymarfer a/neu ymchwil pellach.

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,250

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,140

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,000

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

GOFYNION MYNEDIAD

Mae’r cwrs arloesol hwn ar gyfer graddedigion o gefndir academaidd perthnasol (2:2 neu uwch) a phroffesiwn, sy’n bwriadu ennill cymhwyster proffesiynol JNC mewn Gwaith Ieuenctid a chymhwyster ôl-raddedig. 

Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd modd ystyried myfyrwyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf academaidd os gallent ddangos tystiolaeth helaeth o waith Ieuenctid a Chymunedol. Gwneir penderfyniadau o’r fath ar y cyd ag ETS Cymru. 

Gofynion Ychwanegol

Dylai ymgeiswyr allu dangos o leiaf 200 awr o brofiad ymarferol gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Cyflwynwch eirda gyda’ch cais i gadarnhau hyn. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

COSTAU YCHWANEGOL

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Mae'r ffi hon yn cynnwys £40 ar gyfer tystysgrif y gwiriad manylach, ffi weinyddiaeth y Swyddfa Bost a'r ffi weinyddiaeth ar-lein.

Cost: £55.42

Mae angen tanysgrifiad ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs am ffi flynyddol o £13. Nodwch fod rhaid ymuno â'r gwasanaeth hwn o fewn 30 diwrnod o dderbyn tystysgrif eich gwiriad manylach.

Cost: £13

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Mae perthnasoedd gyda chyflogwyr, cynrychiolwyr y gweithlu a grwpiau cymunedol yn llywio dull addysgu cynnwys y cwrs. Rydym yn galw ar arbenigedd ystod helaeth o ymarferwyr Gwaith Ieuenctid a Chymunedol sy’n darparu elfennau ar fodiwlau mewn ffordd sy’n cysylltu profiad ymarferol â’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol y bydd myfyrwyr yn ei datblygu yn y modiwlau a addysgir. Mae’r berthynas gydag ymarferwyr yn hanfodol er mwyn galluogi a hwyluso’r ffordd y mae’r myfyrwyr yn myfyrio ar sut mae theori’n gysylltiedig ag ymarfer ac ati. 

Mae amrywiaeth o weithgareddau asesu priodol yn creu profiad cyfoethocach i fyfyrwyr (Arholwr Allanol, 2018). Mae’r cwrs hwn yn adeiladu ar yr asesiadau creadigol ac arloesol a welwyd yn y fersiwn flaenorol, gan gynnwys rhagor o sgiliau cyflogadwyedd a chynnig cwricwlwm ac asesu mwy amrywiol a chynhwysol. 

Staff Addysgu

  • Mark Iggulden – Arweinydd Cwrs MA. Arweinydd Modiwl: Chwaraeon, chwarae a dysgu awyr agored, Dulliau ymchwil, arweinyddiaeth a rheoli prosiectau a Traethawd Hir/Prosiect Mawr.
  • Louise Simpson - Cydlynydd lleoliadau lefel saith.
  • Lise Jacobsen – Arweinydd Modiwl: Cymhwyso gwerthoedd, egwyddorion a pholisïau mewn gwaith Ieuenctid a Chymunedol.
  • Jon Airdrie - Arweinydd Modiwl: Cyfiawnder adferol gyda phlant, pobl ifanc a chymunedau.
  • Kelly McCarthy – Arweinydd Modiwl: Ymarfer proffesiynol.
  • Paul Lewis – Arweinydd Modiwl: Moeseg, Myfyrio a Diogelu.
  • Alun Prosser – Darlithydd Moeseg, Myfyrio a Diogelu.

Lleoliadau

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys dysgu ac addysgu sy’n sail i brofiadau ymarferol myfyrwyr. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu am gysyniadau damcaniaethol, a’u deall, sy’n sail i’w darpariaeth wyneb yn wyneb o Waith Ieuenctid a Chymunedol mewn lleoliadau amrywiol. Mae 300 awr mewn lleoliad proffesiynol yn un o amodau’r PRSB er mwyn i fyfyrwyr gael cymhwyster JNC.

Cyfleusterau

Addysgir y rhaglen MA hon mewn amrywiaeth o amgylcheddau dysgu, dosbarthiadau, darlithfeydd, dosbarthiadau dysgu awyr agored, llynnoedd, ceunentydd ac amgylcheddau mynyddig.

Cyrsiau Blasu Byr

Meddwl am yrfa mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol? Dysgwch fwy am y maes a’r mathau o sgiliau y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen, trwy gyrsiau blasu Gwaith Ieuenctid a Chymunedol PDC.

Cyrsiau Blasu Gwaith Ieuenctid a Chymunedol