Gweithio gydag Oedolion a Phobl Ifanc sy'n Troseddu
Bydd y radd Meistr Troseddeg arbenigol hon yn rhoi’r wybodaeth a’r theori i raddedigion er mwyn iddynt allu arwain a dylanwadu ar ddatblygiad ymarfer ymhellach ym maes goruchwyliaeth ar ôl bod yn y ddalfa.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/criminology/criminology-msc-working-with-adults-and-young-people-who-offend-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Dyluniwyd yr MSc Gweithio gydag Oedolion a Phobl Ifanc sy’n Troseddu ar y cyd â phartneriaid yn y diwydiant ac mae’n cynnig pwyslais arbenigol ar theori ac ymarfer rheoli troseddwyr.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae’n ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr, rheolwyr, a llunwyr polisïau sy’n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol a meysydd cysylltiedig i barhau â’u datblygiad proffesiynol; neu israddedigion diweddar sydd eisiau dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder troseddol.
Llwybrau Gyrfa
- Swyddog Carchar
- Swyddog Prawf
- Heddwas
- Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid
- Y Llysoedd
Sgiliau a addysgir
- Cyfathrebu
- Digidol / TG
- Arweinyddiaeth
- Gwneud Penderfyniadau Beirniadol
- Datrys Problemau
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Byddwch yn cwblhau 7 modiwl (gorfodol) penodedig lle y byddwch yn archwilio athroniaeth, damcaniaeth ac ymarfer gweithio gydag unigolion sydd wedi cael dedfryd o orchymyn cymunedol neu gyfnod yn y carchar ac sy’n ddarostyngedig i oruchwyliaeth ar ôl bod yn y ddalfa.
Ymyriadau Cyffuriau
Mae’r modiwl hwn yn gwerthuso’n feirniadol graddau a natur camddefnyddio cyffuriau, dulliau o gymryd, a’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ar yr un pryd â dadansoddi’n feirniadol ymyriadau a ddyluniwyd i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau.
Gweithio gydag Oedolion sy’n Troseddu
Bydd y modiwl hwn yn ystyried ymarfer moesegol ac effeithiol gydag oedolion sy’n ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol. Yn rhan o’r broses hon, bydd myfyrwyr yn dadansoddi’n feirniadol y damcaniaethau sydd wrth wraidd ymddygiad troseddol, gyda phwyslais penodol ar y gwasanaeth prawf, carchardai, a chosb.
Ymagweddau at Iechyd Meddwl Fforensig
Byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad beirniadol soffistigedig o effaith trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ddatblygiad heriau iechyd meddwl. Byddwch yn datblygu sgiliau i arfarnu ymyriadau iechyd meddwl fforensig yn feirniadol – gan gynnwys y ffordd orau o gyfleu’r effeithiolrwydd hwn i ymarferwyr.
Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc yn y System Cyfiawnder Troseddol
Bydd y modiwl hwn yn archwilio arferion moesegol ac effeithiol gyda phlant a phobl ifanc sy’n ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol. Bydd y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi’n feirniadol y damcaniaethau sydd wrth wraidd ymddygiad troseddol, gyda phwyslais penodol ar blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni trosedd neu sydd wedi gwneud hynny.
Ailsefydlu, Adsefydlu ac Ymagweddau Adferol
Nod y modiwl hwn yw darparu dealltwriaeth ddamcaniaethol o ailsefydlu, adsefydlu, a chyfiawnder adferol a sut mae hyn yn berthnasol i ymarfer cyfoes a’r diwydiant, gan roi dealltwriaeth ymarferol a beirniadol i fyfyrwyr o’r gwasanaethau ailsefydlu a ddarperir i’r rhai sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.
Prosiect Ymchwil
I ddatblygu dealltwriaeth o’r ffyrdd y mae ymchwil gwyddor gymdeithasol a chyfiawnder troseddol yn cael ei dylunio a’i chynnal; datblygu gallu myfyrwyr i werthuso ymchwil yn feirniadol a rhoi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso eu dealltwriaeth o ymagweddau ymchwil a’u sgiliau ymchwil i’w hymchwil neu eu hastudiaeth eu hunain.
Ymchwilio a Diogelu’r Cyhoedd Cymhwysol
I ddatblygu gwybodaeth reoli am fodelau ac ymagweddau ar gyfer rheoli risg ym maes Diogelu’r Cyhoedd a gweithio gydag asiantaethau niferus i hwyluso ymagwedd arfer gorau at ymchwilio i achosion sy’n ymwneud â phobl agored i niwed mewn cymdeithas.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch yn dysgu
Addysgir ar ddydd Mercher rhwng 10:00 a 4:00p.m.
Addysgir pob modiwl dros gyfnod o 5 wythnos. Bydd myfyrwyr amser llawn yn mynychu bob wythnos yn ystod y tymor, a bydd myfyrwyr rhan-amser yn mynychu pan fydd eu modiwlau’n cael eu haddysgu.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr troseddeg byd-enwog sy’n cynnal ymchwil yn weithredol, yn ogystal â chlywed gan ymarferwyr arbenigol gwadd.
Mae’r cwrs hwn yn asesu myfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd cynhwysol a dilys, yn berthnasol i weithio ym meysydd cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys asesu ffurfiannol sy’n digwydd yn rhan o’r sesiynau a gyflwynir yn y dosbarth i fesur cynnydd dysgu a dealltwriaeth; ac asesu crynodol, sy’n digwydd ar ddiwedd pob modiwl.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/criminology/subject-criminology-case-study-rachel-drennan-42955.jpg)
Staff addysgu
- Dr Zoe Cross – Arweinydd y Cwrs
- Yr Athro Katy Holloway
- Yr Athro Kate Williams
- Yr Athro Cyswllt Jenny Maher
- Janine Jackson
- Rachel Brown
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/03-march/news-march-katy-holloway-1.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein Hystafell Efelychu Hydra yn caniatáu i fyfyrwyr brofi senarios a heriau go iawn. Credwn y dylai myfyrwyr gael eu herio a bod yn barod i wynebu heriau pan fyddant ym myd gwaith.
Mae ein Hystafell Efelychu yn caniatáu i fyfyrwyr ymdrwytho mewn astudiaethau achos a gwneud penderfyniadau sy’n gofyn am sail resymegol glir. Mae’n golygu bod ein myfyrwyr wir yn gallu dysgu o’u camgymeriadau heb effeithio ar eraill na cholli marciau. Rydym eisiau i’n myfyrwyr ddysgu a thrafod damcaniaeth allweddol, ond rydym hefyd eisiau iddynt allu defnyddio a chymhwyso hynny mewn ffordd ystyrlon sy’n eu helpu nhw a phobl eraill.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/criminology/subject-criminology-facilities-hydra-simulation-centre-42950.jpg)
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2: 2 o leiaf mewn gwyddor gymdeithasol, neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol sefydledig yn cael eu hystyried yn unigol trwy fecanwaith Achredu Dysgu Blaenorol (APL) / Achredu Dysgu Profiadol Blaenorol (APEL) (bydd rheoliadau'r Brifysgol yn berthnasol).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.