Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET)
Trowch eich arbenigedd presennol yn yrfa werth chweil fel athro mewn addysg bellach, addysg i oedolion ac addysg alwedigaethol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/education/profce-post-compulsory-education-and-training-pcet.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
X340
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sydd â’r nod o addysgu pwnc galwedigaethol a thechnegol fel Gwallt a Harddwch, Adeiladu, Gwaith Saer a Chynnal a Chadw Cerbydau Modur.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Crefftwyr medrus, technegwyr, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant â chymwysterau a phrofiad ymarferol yn eich maes galwedigaethol, neu rai sydd am newid gyrfa ac sy’n chwilio am broffesiwn ystyrlon a sefydlog. Byddwch yn berson sy’n angerddol dros eich diwydiant ac yn awyddus i rannu eich arbenigedd.
Llwybrau Gyrfaol
- Athro
- Mentor Dysgu
- Hyfforddwr
- Tiwtor
Sgiliau a addysgir
- Datblygu addysgeg
- Llythrennedd ar gyfer ymarfer proffesiynol
- Tegwch mewn addysgu a dysgu
- Ymchwil
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-prof-cert-education.png)
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel athro yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Byddwch yn mynychu sesiynau dysgu cydweithredol, yn gweithio ar leoliad AHO gyda mentor a chydweithwyr, ac yn ymgymryd ag astudio annibynnol i ddatblygu gwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau. Bydd myfyrwyr amser llawn yn cwblhau chwe modiwl mewn blwyddyn, a bydd myfyrwyr rhan amser yn cwblhau tri modiwl bob blwyddyn.
Cynllunio ar gyfer Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn gweithredu fel sylfaen ac yn sail i fan cychwyn y cwrs. Byddwch yn cael eich cyflwyno i egwyddorion cynllunio byrdymor a hirdymor trwy gwblhau addysgu cymheiriaid a chynllun dysgu.
Asesu ar gyfer Dysgu
Yn y modiwl hwn, byddwch yn datblygu egwyddorion asesu ac yn deall sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio i greu offer asesu a phroffiliau dysgwyr, a dylunio gweithgareddau sy'n diwallu anghenion dysgwyr.
Datblygu Ymarfer Proffesiynol
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cynllunio, sicrhau adnoddau ac addysgu o leiaf 50 o oriau gan gynnwys 3 arsylwad llwyddiannus o'ch addysgu. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch hefyd yn arsylwi athrawon cymwys ac yn ystyried sut i ddatblygu o ddigwyddiadau heriol.
Ymchwil yn seiliedig ar ymarfer
Mae'r modiwl hwn yn datblygu ymarfer wedi’i lywio gan ymchwil mewn ymateb i her a wyneboch yn eich addysgu ar leoliad. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio fel cyfweld a chasglu data i lywio gweithredoedd pedagogaidd yn rhan o gylch ymchwil weithredu.
Llythrennedd ar gyfer Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn archwilio syniadau ym maes cyfathrebu a llythrennedd e.e., digidol, gweledol, graffig, ysgrifenedig, a rhifiadol mewn bywyd bob dydd ac addysgu. Byddwch yn cael eich asesu trwy hysbysfwrdd ac arddangosfa ryngweithiol.
Ymestyn Ymarfer Proffesiynol
Mae'r modiwl hwn yn ymestyniad o’r modiwl Datblygu Ymarfer Proffesiynol, ac mae'n cynnwys cynllunio, sicrhau adnoddau ac addysgu o leiaf 50 awr yn ychwanegol gan gynnwys 3 arsylwad llwyddiannus arall o'ch addysgu.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o weithgareddau dysgu cydweithredol, trafodaethau, dysgu rhyngweithiol a chyfleoedd lleoliad. Bydd eich ystafell ddosbarth yn cynnwys myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd ac arbenigeddau pwnc, gan eich galluogi i gyfuno egwyddorion pedagogaidd a phrofi cyfoeth o ddysgu gan gyfoedion fydd yn werthfawr iawn i chi ar leoliad.
Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol ac arsylwadau o'ch addysgu. Mae asesiadau wedi'u seilio ar y syniad o roi theori ar waith ac felly’n efelychu’r hyn y byddech chi'n ei wneud yn naturiol fel athro. Mae holl gynnwys y cwrs wedi'i fapio i safonau proffesiynol yng Nghymru a Lloegr, fel eich bod mor barod â phosibl ar gyfer y byd gwaith waeth ble rydych chi'n dewis ymgartrefu ar ôl graddio.
Gan eich bod yn newydd efallai i amgylchedd academaidd, bydd y tîm addysgu yn cynnig goruchwyliaeth ac arweiniad sylweddol 1 wrth 1 i chi, yn eich mentora drwy gydol y cwrs, ac yn cynnal sesiynau ar ysgrifennu academaidd, canllawiau cyfeirnodi a sgiliau astudio cyffredinol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/12-campus-spaces/campus-spaces-newport-library.jpg)
Staff addysgu
Mae tîm addysgu Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol i gyd yn brofiadol yn y maes hyfforddi athrawon, ac yn bobl a ddechreuodd eu gyrfaoedd fel athrawon mewn addysg Bellach, Addysg i Oedolion ac Addysg yn y Gymuned a/neu Uwchradd. Maen nhw’n dod o ystod eang o gefndiroedd o ran pynciau, gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth, Celf, Cyfrifiadureg, Saesneg (ESOL a Llythrennedd Oedolion) a TGCh, ac mae ganddyn nhw amrywiaeth o ddiddordebau addysgu ac ymchwilio. Maen nhw’n rhan o rwydwaith sydd wedi'i gysylltu'n dda - ac yn mynychu seminarau a chynadleddau yn rheolaidd i gyflwyno ymchwil yn seiliedig ar AHO.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/education/subject-education-pcet-teaching.png)
Lleoliadau
Mae lleoliadau’n rhan hanfodol o'r cwrs hwn, yn digwydd ochr yn ochr â modiwlau craidd ac yn cyfrannu'n sylweddol at asesiadau. Ar gyfer y llwybr amser llawn, byddwch yn ymgymryd ag o leiaf 100 awr o addysgu, 30 awr o arsylwi, a 10 awr o ddyletswyddau adrannol, fel cyfarfodydd cynllunio ac asesu. Ar gyfer y llwybr rhan amser, bydd hyn yn cael ei rannu dros ddwy flynedd. Bydd mentor yn cael ei aseinio i chi yn ystod eich lleoliad a byddwch yn cael eich arsylwi gan ein tîm addysgu, i’ch goruchwylio a’ch cefnogi. Yr un person fydd eich mentor drwy gydol cyfnod y lleoliad, gan eich galluogi i adeiladu perthynas a theimlo'n hyderus wrth ofyn am arweiniad a chyngor. Bydd lleoliadau’n cael eu haseinio i fyfyrwyr amser llawn gan ein tîm addysgu ar ôl trafod eich diddordebau a'ch arbenigedd. Dylai myfyrwyr rhan amser drefnu lleoliad yn eu maes neu ddiwydiant dewisol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/teaching/course-post-compulsory-education-and-training--48156.jpg)
Cyfleusterau
Bydd elfen dysgu rhyngweithiol y cwrs hwn yn cael ei rhoi ar waith drwy efelychiadau ystafell ddosbarth ac addysgu efelychiadol, yn defnyddio Canolfan Efelychu Hydra. Mae Canolfan Efelychu Hydra yn darparu amgylchedd dysgu ac addysgu unigryw ac fe'i defnyddir i gynnal senarios ymdrochol, efelychiadol i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau mewn amgylchedd cydweithredol. Bydd cyfran fawr o'ch astudiaethau yn defnyddio'r llyfrgell a bydd gennych fynediad at ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu y gellir eu harchebu trwy gydol eich amser ar y cwrs.
I helpu i hwyluso eich astudiaethau, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhellion ariannol i fyfyrwyr sy'n awyddus i astudio ar gwrs AHO. Bydd ein tîm addysgu yn trafod hyn ac yn ei roi ar waith i chi os ydych chi'n gymwys.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/Newport-Student-Life_50395.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster lefel 3 o leiaf yn eu maes pwnc addysgu, ynghyd â blwyddyn neu fwy o brofiad galwedigaethol yn eu pwnc addysgu (lle bo hynny'n berthnasol).
Mae Mathemateg ac iaith Saesneg TGAU Gradd C neu uwch, neu gyfwerth, yn ddymunol.
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Bydd gofyn i ymgeiswyr rhan-amser gadarnhau 50 awr (lleiafswm) o addysgu, a bydd 20 awr o arsylwi tiwtor profiadol yn y flwyddyn gyntaf ac yn yr ail flwyddyn yn ofynnol i gadarnhau 50 awr (lleiafswm) o addysgu ac 20 awr o dyletswyddau arsylwi / adrannol.
Gofynion ychwanegol
Bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i ddiwrnod cyfweld naill ai ar-lein neu ar Gampws Casnewydd, ac mae hyn yn rhan bwysig o ddod i adnabod pawb a’r cwrs. Bydd gofyn i chi roi cyflwyniad byr ar sut bydd eich profiadau a'ch cymwysterau yn eich helpu i ddod yn athro ym maes AHO. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau. Mae rhagor o wybodaeth am y diwrnod cyfweld yma.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.
Cost: £16
Teithio i ac o leoliad ac unrhyw gostau ychwanegol a godir gan leoliadau.
Blynyddoedd 1, 2 a 3 - Mae'r gost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad ac mae'n gost ychwanegol i'w thalu gan fyfyrwyr.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.