Mae’r cwrs hwn yn cael ei gydnabod gan weithwyr proffesiynol y diwydiant fel un o ddarparwyr addysgol gorau’r DU ar gyfer Animeiddio CG 3D a Chelf CG 3D. Mae’n un o ddim ond dau gwrs gradd yn y DU sydd wedi’u hachredu gan ScreenSkills yn y categorïau animeiddio a gêmau.
Mae cwrs Meistr mewn Archwilio Fforensig a Chyfrifyddu uchel ei barch Prifysgol De Cymru – yr unig gwrs o’i fath yn y DU – wedi bod ar waith ers dros ddeng mlynedd ac mae’n darparu sgiliau arbenigol mewn ymchwilio i dwyll, prisio, helpu i ddatrys anghydfodau, adroddiadau arbenigol ac ymchwiliadau seiber.
Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn mabwysiadu athroniaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus, lle byddwch yn cyflawni prosiectau seiliedig ar waith ac yn cwblhau traethawd hir sylweddol seiliedig ar waith, i fod o werth strategol i'ch sefydliad. Nod y cwrs hwn yw cynnig llwybr achredu deuol gyda Diploma Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth - dull arloesol yn y DU.
Mae'r cwrs MA Arwain a Rheoli (Addysg) wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sydd, neu'n sy'n dyheu am fod, yn arweinwyr neu'n rheolwyr mewn lleoliad addysg. Gallwch fod yn gweithio mewn ysgolion neu sefydliadau eraill yn barod, megis y gwasanaeth iechyd neu'r heddlu.
Mae'r Dystysgrif Arwain a Rheoli i Raddedigion wedi'i bwriadu ar gyfer pobl sydd am feithrin eu dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol o arwain a rheoli mewn amrywiaeth o gyd-destunau addysgol.
Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad agos ag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant
Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso amrywiaeth o ddamcaniaethau ac athroniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth i sefyllfaoedd cymhleth mewn lleoliadau gofal iechyd, a sut i harneisio potensial adnoddau dynol mewn sefydliadau gofal iechyd.
Bydd y cymhwyster ôl-raddedig hwn yn eich helpu i ddatblygu diwylliant tîm o ymddiriedaeth sy'n sicrhau canlyniadau; llywio timau drwy newid gyda dycnwch; mynd i'r afael â heriau’n arloesol ac yn foesegol a gwneud penderfyniadau cadarnhaol yn hyderus.
Os ydych chi’n arweinydd, yn rheolwr, neu'n unigolyn a fydd yn defnyddio technoleg ddigidol i gychwyn aysgogi newid trawsnewidiol o fewn eich sector cyhoeddus, trydydd sector neu sefydliad preifat, mae'r cwrs hwn i chi. Nod ein MSc mewn Arwain Trawsnewid Digidol yw cynorthwyo arweinwyr i herio arferion traddodiadol, i fod yn fwy chwilfrydig am brosesau, ac i ‘feddwl yn ddigidol yn gyntaf’ i ail-ddychmygu a gwella eu sefydliad a'u gwasanaethau er budd eu defnyddwyr, eu rhanddeiliaid a'u gweithwyr.
Darperir adnoddau dysgu a chyswllt â thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol. Mae hyn yn eich galluogi chi, ble bynnag yr ydych chi yn y byd, i fod yn rhan o grŵp ar y rhyngrwyd i astudio, archwilio a thrafod Bwdhaeth gan ddefnyddio deunyddiau ysgogol o ansawdd uchel, sy’n drylwyr yn academaidd.