Cyfrifeg a Chyllid gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i chi symud ymlaen i ddilyn cwrs gradd a chael y cyfle i gyflawni eich dyheadau.
Gwneud cais yn uniongyrchol Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
N42F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,000*
Myfyrwyr rhyngwladol
£14,950*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae gyrfa mewn Cyfrifeg a Chyllid yn cynnig posibiliadau diddiwedd. Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio meysydd gan gynnwys busnes, seicoleg a chyfrifiadureg ac mae'n cwmpasu'r holl sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich gyrfa ym maes cyfrifeg.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf derbyn ar gyfer mynediad uniongyrchol i gwrs gradd.
Llwybrau Gyrfa
- Astudiaeth bellach
- Cadw Cyfrifon
- Cyllid
Y sgiliau a addysgir
- Busnes
- Seicoleg
- Cyfrifiadura
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modiwl, a fydd yn cael eu hasesu drwy nifer o arholiadau, aseiniadau a chyflwyniadau.
Sgiliau Astudio
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu gydag arholiadau a thechnegau adolygu, yn ogystal â sgiliau sy'n cynnwys cymryd nodiadau, ysgrifennu traethodau, cyfeirio a chynllunio aseiniadau.
Prosiect Ymchwilio
Dod yn gymwys i ymchwilio, cynllunio, rheoli a gwerthuso prosiect.
Gweinyddu Busnes
Deall sut y gellir cyflawni amcanion sefydliadol drwy gynllunio busnes sydd wedi’i ystyried yn ofalus.
Ystadegau
Deall adroddiadau ystadegol a gallu dehongli a chyflwyno data ystadegol mewn cyd-destunau byd go iawn.
Gallu Digidol
Dysgu sut i ddefnyddio technoleg yn effeithiol ar gyfer cyfathrebu ac ymchwil academaidd.
Seicoleg Sefydliadol
Dysgu am feysydd allweddol seicoleg sefydliadol a’u cymhwyso i leoliadau busnes.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau tariff UCAS: 112
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Diploma BTEC Pasio Pasio
- Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
Gofynion ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU Gradd C neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg (Rhifedd a Mathemateg yng Nghymru) ac Iaith Saesneg. I'r rhai sy'n cymryd TGAU yn Lloegr, ystyrir bod Gradd 4 yn cyfateb i C.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,000
fesul blwyddyn*£14,950
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae union gost mynd ar unrhyw leoliad yn dibynnu ar ei leoliad yng nghyswllt man preswylio, dull teithio ac ati y myfyriwr ac felly ni ellir penderfynu arni ar hyn o bryd. Ar ben hynny, yn dibynnu ar y lleoliad, efallai y bydd angen i’r myfyriwr brynu dillad addas (e.e. siwt neu ddillad ffurfiol).
Cost: £0 - £300
Aelodaeth ratach o gynllun “Cyflymu” ACCA. Fel arfer £79 ond mae gennym ffi arbennig o £20.
Cost: £20
Efallai y bydd angen prynu rhai llyfrau ychwanegol.
Cost: £300
Blwyddyn ar Leoliad. Mae costau teithio yn dibynnu ar leoliad.
Cost: £0 - £300
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Os bydd cynnwys y cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a’ch tywys drwy’r newidiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond beth bynnag fo'r canlyniad, ein nod yw rhoi'r sgiliau a'r meddylfryd i'n myfyrwyr allu llwyddo beth bynnag a ddaw yn y dyfodol. Eich dyfodol, yn addas ar gyfer y dyfodol.
Addysgu
Byddwch yn dysgu drwy ddarlithoedd a seminarau, ac yn cymryd rhan weithredol mewn dulliau dysgu drwy astudio unigol, a chyflwyniadau ysgrifenedig a llafar. Byddwch hefyd yn meithrin profiad mewn gwaith grŵp a gweithdai.
Asesiad
Caiff myfyrwyr eu hasesu drwy nifer o arholiadau, aseiniadau a chyflwyniadau.