Mae gan y cwrs hwn 9 modiwl sy’n cyfrif tuag at ACCA, ac mae hyn yn fantais enfawr wrth baratoi at yrfa yn y maes cyfrifeg broffesiynol.
Caru Rhifau
Dewisais Brifysgol De Cymru oherwydd ei bod yn cyd-daro’n dda â fy nghanlyniadau Safon Uwch ac am ei bod yn un o brifysgolion mwyaf y DU o ran ei heffaith ar ardal ddaearyddol eang. Gwnaeth fy niddordeb brwd mewn rhifo a chyfrifo ddylanwadu’n drwm ar fy mhenderfyniad.
Yn fy mlwyddyn gyntaf, gwnes i fwynhau astudio Cyfrifeg Ariannol yn arbennig, a chael boddhad mawr wrth sicrhau datganiadau ariannol cytbwys a deall cyfrifiadau cymhleth. Roedd defnyddio meddalwedd ymarferol fel Microsoft Excel ar gyfer dadansoddi data a chyfrifyddu cyfrifiadurol yn ffordd wych o gyfoethogi fy mhrofiad dysgu. Mae'n cyflymu gwaith cyfrifyddu ac mae’n fwy cywir na defnyddio cyfrifiannell, gan ei bod hi wastad yn bosibl i fodau dynol wneud camgymeriadau!
Dewch o hyd i'ch cwrsDysgu ymarferol a pharatoi at y proffesiwn
Roedd Ystafell Masnachu PDC yn allweddol o ran cael profiad dysgu ymarferol, ond y peth mwyaf i fi yw natur cymwysterau'r cwrs. Mae gan y cwrs BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid hwn 9 modiwl sy’n cyfrif tuag at ACCA, ac mae hyn yn fantais enfawr wrth baratoi at yrfa yn y maes cyfrifeg broffesiynol.
Mae fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr yn syml: Astudiwch a pheidiwch â gadael y gwaith paratoi ar gyfer arholiadau tan y funud olaf! Mae bod yn rhagweithiol yn sicr wedi fy helpu i wneud yn fawr o fy nghyfnod yma.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Cyfrifeg a Chyllid?
Wedi'i addysgu gan gyfrifwyr cymwys ac arbenigwyr sy'n weithgar yn y diwydiant, mae gennym ddewis gwych o gyrsiau cyfrifeg a chyllid o lefel israddedig i ôl-raddedig.